Skip to main content

Y PEDWAR PENIGAMP O GYMRU WEDI’U HENWEBU AM WOBR FAWREDDOG

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y PEDWAR PENIGAMP O GYMRU WEDI’U HENWEBU AM WOBR FAWREDDOG

Mae pedwar o bobl ysbrydoledig o Gymru yn y ras am gydnabyddiaeth wedi iddynt gael eu henwebu am Wobr y Loteri Genedlaethol 2021.  

Mae Berwyn Rowlands, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gwobr Iris Gŵyl Ffilm LGTB+; Katherine Hughes, Ysgrifennydd Canolfan Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned (Y Miners); Tirion Thomas, Hyfforddwraig Rygbi 20 mlwydd oed o’r Bala; a Bethan Littlewood, enillydd medal aur Tîm Polo Canŵio Prydain Fawr o Ben-y-bont ar Ogwr, oll wedi cael eu cynnwys ar y rhestr fer am eu gwaith o fewn eu cymuned.  

 

Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yw’r ymgyrch flynyddol i ganfod hoff bobl a phrosiectau’r DU a ariennir gan y Loteri Genedlaethol ac maent yn dathlu’r unigolion a grwpiau ysbrydoledig sy’n gwneud pethau anhygoel o fewn eu cymuned yn enwedig yn ystod yr amseroedd heriol hyn. 

Mae Berwyn Rowlands, Cynhyrchydd Teledu a Ffilmiau, yn wreiddiol o Sir Fôn ond sy’n byw yng Nghaerdydd, yn un o bump o bob cwr o’r DU sydd ar y rhestr fer o fewn y categori Celfyddydau am ei waith eithriadol fel Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gŵyl ar gyfer Gwobr Iris Gŵyl Ffilm LGTB+. 

Wedi’i sefydlu gan Berwyn yn 2006, mae’r Wobr Iris a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn cael ei chynnal yn flynyddol yng Nghaerdydd ac wedi datblygu i fod y wobr ffilm fer LGTB+ ryngwladol fwyaf yn y byd. Mae wedi dod yn llais blaenllaw fel pencampwr wrth eirioli dros ffilmiau byr LGTB+ ac mae Iris hefyd yn cynnal prosiectau LGTB+ addysgol a chymunedol allanol yng Nghymru a’r DU trwy gydol y flwyddyn. 

Dywedodd Berwyn, 54, a drefnodd ei ŵyl ffilmiau gyhoeddus gyntaf erioed yn Aberystwyth yn ôl yn 1989: “Mae’n anrhydedd llwyr i fod ar y rhestr fer ar gyfer rownd derfynol y gwobrau. Hoffwn ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am fy nghefnogi i a Gwobr Iris, gan ein helpu ni i gynnal gŵyl unigryw sy’n cyflwyno ffilmiau o’r gymuned amrywiol hon at sylw cynulleidfaoedd ehangach o amgylch y byd.” 

Yn chwifio’r faner dros Gymru o fewn y categori Cymunedol mae Katherine Hughes o Gaerffili sy’n 71 mlwydd oed, ac yn wirfoddolwr ac Ysgrifennydd Canolfan Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned (Y Miners). Mae Katherine wedi cael ei henwebu am ei hymdrechion gwirfoddoli diflino dros y blynyddoedd ac fel un o’r grymoedd y tu cefn i’r ymgyrch i achub y tirnod lleol hanesyddol, er mwyn iddo gael ei fwynhau gan genedlaethau’r dyfodol. 

Roedd Katherine ar flaen y gad o fewn grŵp cymunedol a helpodd i achub yr hen Ysbyty rhag cael ei ddymchwel 15 mlynedd yn ôl. Ers ei agor yn 2008 gyda chefnogaeth arian y Loteri Genedlaethol, mae’r Miners wedi dod yn ganolfan fywiog i’r gymuned lle y gall pobl o bob oedran a gallu ddod i gael mynediad at ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau fforddiadwy. 

Dywedodd Katherine, sydd wrth ei bodd gyda’i henwebiad ac sydd yn parhau i wirfoddoli’n weithgar yn y ganolfan: “Doedd dim geiriau gennyf pan gefais wybod am fy enwebiad. Mae’r Loteri Genedlaethol wedi chwarae rôl allweddol wrth sefydlu a chynnal y prosiect hwn ac mae’n wych cael bod yn rhan o brosiect mor ysbrydoledig a bywiog, lle mae aelodau’r gymuned a gwirfoddolwyr o bob anian yn dod ynghyd i gefnogi ein hachos cyffredin.” 

Mae dau unigolyn o Gymru, Bethan Littlewood a Tirion Thomas, yn rhan o’r pump sydd ar y rhestr fer o bob cwr o’r DU o fewn y categori Chwaraeon. 

 

Mae Tirion Thomas, ugain mlwydd oed o’r Bala, Gogledd Cymru, wedi cael ei henwebu am ei rôl wrth ddatblygu rygbi i ferched a gwragedd yn ardal Y Bala bron ar ben ei hunan yn llwyr. Dechreuodd trwy sefydlu tîm rygbi i ferched pan yr oedd yn mynychu Ysgol y Berwyn ac erbyn hyn, mae’n hyfforddi tri grŵp oedran gwahanol i ferched yng Nghlwb Rygbi’r Bala. 

Mae Tirion yn ffigwr allweddol sy’n gyrru’r Rhaglen Llysgenhadon Ifanc yng Nghymru, a ariennir gan arian y Loteri Genedlaethol. Bwriad y rhaglen yw grymuso Llysgenhadon Ifanc fel modelau rôl sy’n annog eraill i rannu eu hoffter o chwaraeon, gan ddatblygu cenhedlaeth o arweinwyr ifanc amryddawn. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae hi hefyd wedi troi ei sylw at helpu cyd-hyfforddwyr trwy greu rhwydwaith hyfforddwyr ifanc.  

Mae Tirion, sydd wrth ei bodd gyda’i henwebiad, hefyd yn astudio Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe ond yn parhau i roi o’i hamser i helpu eraill i fwynhau chwaraeon. Dywedodd: “Mae’r Bala yn dref fechan ac nid oedd llawer o gyfleoedd chwaraeon i blant iau, yn enwedig merched. Roeddwn eisiau’r rhoi’r cyfleoedd iddynt wneud y chwaraeon roeddent yn ei garu nad oedd ar gael yn y lle cyntaf i mi pan yr oeddwn yn tyfu i fyny. Rwyf wedi gallu gwneud hynny gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol. Rwyf yn gyffrous tu hwnt i gael fy ystyried fel ymgeisydd yn y rownd derfynol – yn enwedig pan yr ydych yn gweld faint o brosiectau sydd wedi cystadlu!” 

Mae Bethan Littlewood o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cael ei henwebu yn yr un categori am yr effaith bositif aruthrol mae hi’n ei chael ar y bobl o’i hamgylch trwy ei hagwedd o allu cyflawni unrhyw beth, ei natur gofalgar a’i ffocws ar gynhwysiant. 

Y ferch 25 mlwydd oed yw Cadeirydd Clwb Canŵio Pen-y-bont ar Ogwr a ariennir gan y Loteri Genedlaethol ac mae hi wedi bod yn ysbrydoliaeth – nid yn unig i aelodau ifanc ei chlwb canŵio, ond hefyd i badlwyr ar draws Cymru a’r gymuned chwaraeon yn gyffredinol. 

Mae Bethan eisoes wedi wynebu a goresgyn mwy o heriau yn ei bywyd nag y byddai’r mwyafrif yn eu hwynebu. Tra’n hyfforddi ar gyfer Pencampwriaethau’r Byd a gwirfoddoli yng ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 pan oedd hi’n 15 mlwydd oed, derbyniodd ddiagnosis am ganser yr Ofari cam 3C. Roedd optimistiaeth a phenderfyniad Beth wedi ei gweld trwy’r cyfnod heriol hwn – ac wedi dwy flynedd o gemotherapi ynghyd â llawdriniaeth fawr, dychwelodd ar gyfer Pencampwriaethau’r Byd yn 2014 gan arwain Gwragedd Hŷn Prydain Fawr at y fedal aur ym Mhencampwriaethau Polo Canŵio Ewropeaidd 2019. 

Dywedodd Bethan, sydd hefyd yn tyfu ei chwmni ffitrwydd ei hunan: “Mae’n fraint gwirioneddol wych i gael fy nghydnabod fel ymgeisydd yn rownd derfynol y categori Chwaraeon yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol. Mae ffitrwydd wedi achub fy mywyd; rwyf eisiau helpu eraill i gael eu cyfle gorau mewn bywyd trwy rannu’r rhyfeddodau sydd gan ffitrwydd i’w cynnig.” 

Eleni, cafodd mwy na 1,500 o bobl eu henwebu ar gyfer Gwobr y Loteri Genedlaethol am y gwaith maen nhw’n ei gyflawni gyda help arian y Loteri Genedlaethol. 

Y mis nesaf, bydd panel, sy’n cynnwys cynrychiolwyr y Loteri Genedlaethol a phartneriaid, yn penderfynu’r enillwyr ym mhob categori o’r rhestr fer o bum ymgeisydd o bob cwr o’r DU. 

Bydd enillwyr yn cael eu datgelu yn yr hydref ac fe fyddant yn derbyn gwobr ariannol o £3,000 ar gyfer eu sefydliad a thlws mawreddog Gwobrau’r Loteri Genedlaethol. 

Dywedodd Jonathan Tuchner, o’r Loteri Genedlaethol: “Ers 1994, mae’r Loteri Genedlaethol wedi cael effaith bositif aruthrol ar fywyd led led y DU. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a’r £36 miliwn a godir pob wythnos ar gyfer achosion da, mae miloedd o sefydliadau yn cael effaith ac yn gwneud gwahaniaeth anferthol yn eu hardaloedd lleol. 

“Mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn anrhydeddu’r sawl sydd wedi camu i fyny a dod i’r amlwg megis Berwyn, Katherine, Tirion a Bethan, gan weithio’n ddiflino ar gyfer eu cymuned. Maent yn haeddu clod enfawr a’n diolch am eu gwaith anhygoel.” 

Yn cwmpasu’r holl agweddau ar arian achosion da’r Loteri Genedlaethol, bydd Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn cydnabod unigolion neilltuol o fewn y sectorau canlynol: 

  • Diwylliant, Celfyddydau a Ffilm 
  • Treftadaeth 
  • Chwaraeon 
  • Cymunedol/Elusennol 

 

Fe fydd Gwobr Arwr/Arwres Ifanc arbennig i rywun dan 18 mlwydd oed sydd wedi mynd y filltir ychwanegol o fewn eu sefydliad. 

Ym mis Medi, cynhelir pleidlais gyhoeddus i ganfod Prosiect Loteri Genedlaethol y Flwyddyn, tra bydd pleidleisiau ar-lein yn cael eu cynnal wedi Gemau Olympaidd a Phara Olympaidd Tokyo i benderfynu enillydd gwobrau Cystadleuydd Olympaidd a Phara Olympaidd y Loteri Genedlaethol. 

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy