Skip to main content

Y seren rygbi sy’n chwilio am anrhydedd ar ac oddi ar y cae

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y seren rygbi sy’n chwilio am anrhydedd ar ac oddi ar y cae

Os mai’r gallu i addasu yw’r allwedd i lwyddiant yn ystod y cyfyngiadau symud, ni ddylai blaenwr Cymru, Manon Johnes, gael llawer o broblemau wrth i Chwe Gwlad y merched ddechrau ym mis Ebrill.         

Efallai bod twrnamaint y dynion wedi hen ddechrau, ond am nad yw gêm y merched yn cynnwys strwythur proffesiynol llawn amser, roedd gormod o broblemau i’w goresgyn yn ystod y pandemig ac oherwydd hynny bu’n rhaid newid y calendr.             

Ond dydi hynny ddim yn poeni Johnes – sydd, fel llawer o chwaraewyr benywaidd – yn gallu gweld llawer o fudd o symud y dyddiadau.

O ran ymdopi gyda threfn newydd, mae’r fyfyrwraig yn Rhydychen wedi dod i arfer â hynny hefyd. 

“Mae’n bur debyg mai’r peth rhyfeddaf rydw i wedi’i wneud yn ystod y cyfyngiadau symud ydi cael cyfarfod rhithwir gyda meistr, yn eistedd yn fy ngwisg academaidd yn fy ystafell wely yng Nghaerdydd,” meddai Manon, myfyrwraig daearyddiaeth yn ei blwyddyn gyntaf yng Ngholeg Santes Catherine.

 

“Cyfarfodydd gyda’r meistr ydi’r rhain, i weld sut rydych chi’n gwneud, a’r enw arnyn nhw ydi casgliadau’r meistr. Roedd rhaid i mi roi fy ngwisg ar ei gyfer e, er bod y cyfan yn digwydd drwy sgrin cyfrifiadur, felly roedd e’n od iawn.”

Dim ond un o nifer o hetiau mae’r ferch 20 oed yn eu gwisgo ydi’r cap du sgwâr. Pan nad yw’n astudio, mae un o chwaraewyr ifanc mwyaf talentog Cymru naill ai’n hyfforddi neu’n chwarae i’w chlwb, y Bristol Bears, neu’n teithio’n ôl dros Bont Hafren i hyfforddi a chwarae dros Gymru.   

Ond mae cyfyngiadau’r pandemig wedi dod â’i bywyd fel myfyrwraig i ben, am y tro o leiaf. Yn lle gwthio’i beic ar draws lawntiau’r coleg a chymysgu gyda myfyrwyr o bob cwr o’r byd, mae Manon yn ôl adref yng Nghaerdydd – yn syllu ar ei gliniadur, fel miliynau o bobl eraill. 

“Mae’n eithaf anodd. Yr unig beth ydi ’mod i mewn sefyllfa well na rhai myfyrwyr efallai, oherwydd mae ein tymhorau ni’n eithaf byr ac rydw i hanner ffordd drwy’r un presennol yn barod. 

“Gobeithio y byddwn ni’n ôl yn Rhydychen erbyn y tymor nesaf. Mae’n eithaf anodd ceisio gwneud gwaith maes yn eich stafell wely – mae’n cyfyngu llawer – ond mae’r baich gwaith yn eithaf trwm, felly o leiaf rydw i’n brysur iawn a does dim llawer o amser i feddwl am unrhyw beth arall. 

“Rydw i hefyd yn meddwl ’mod i’n lwcus mai yn fy mlwyddyn gyntaf ydw i. Fe fyddai hyn yn llawer mwy diflas pe bawn i yn fy ail neu fy nhrydedd flwyddyn.”

Hefyd mae’r cyn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn ddiolchgar am ei rygbi. Nid yn unig mae’n rhoi cyfle iddi ddianc rhag y bywyd yn y tŷ, dihangfa y mae’r rhan fwyaf o bobl yn dyheu amdani ar hyn o bryd, ond hefyd mae’n rhoi trefn brysur iddi wrth iddi geisio cyflawni ei huchelgais fel athletwraig.                        

“Rydw i’n meddwl bod llawer o bobl yn ei chael yn anodd ar hyn o bryd oherwydd does dim strwythur, ond rydw i’n ddiolchgar iawn bod fy rygbi i’n rhoi cyfle i mi wneud gweithgareddau y tu allan i fy mywyd academaidd,” meddai blaenasgellwraig y Bears.

“Rydw i hefyd yn meddwl ’mod i’n lwcus o ran hynny, oherwydd gan ’mod i’n chwarae i Gymru, rydw i’n cael fy ystyried fel athletwraig elitaidd ac rydw i’n cael teithio i hyfforddi a chwarae.

Mae Manon yn un o saith seren ryngwladol Cymru sy’n chwarae i Fryste ar hyn o bryd – ochr yn ochr â’r Seren Rygbi Saith Olympaidd, Jasmine Joyce, a hefyd Elinor Snowsill, Keira Bevan, Alisha Butchers, Kayleigh Powell a Natalia John.

Roedd disgwyl i’r garfan Gymreig fod yn rhan o dîm Bryste yr oedd disgwyl iddo wneud yn dda yn nhwrnamaint 15 Uwch Gynghrair Lloegr y tymor yma.                           

Ond nid yw ymgyrch o stopio a dechrau am yn ail wedi gweithio iddyn nhw fel y byddent wedi gobeithio ac maent yn ôl yn seithfed yn yr adran o 10 tîm, ac mae’r hyfforddwraig, Kim Oliver, wedi gadael.  

“Mae bob amser yn anodd mynd drwy gyfnod o newid hanner ffordd drwy dymor ac fe gawson ni gryn dipyn o anawsterau,” meddai Manon.

“Ac mae hynny’n waeth oherwydd does dim llawer o gyswllt rhwng aelodau’r tîm yn yr hyfforddiant ar hyn o bryd, oherwydd y rheolau. Ond mae gennym ni chwaraewyr o safon byd ac rydw i’n meddwl y bydd y llanw’n troi.”

Mae hyfforddwr newydd Cymru, Warren Abrahams, yn gobeithio hynny yn sicr, wrth iddo edrych tuag at ei chwaraewyr sy’n chwarae yn Lloegr – mwyafrif helaeth carfan Cymru erbyn hyn – i fod ar eu gorau cyn dechrau’r Chwe Gwlad.               

Bydd yn dwrnamaint byrrach nag arfer, gyda Chymru a’u gwrthwynebwyr yn chwarae tair gêm yn unig – dwy gêm bŵl, yn erbyn Ffrainc ac Iwerddon, cyn i benwythnos y rowndiau terfynol ddechrau yn erbyn y tîm sy’n gorffen yn yr un safle â nhw yn y pŵl arall. 

“Hwn oedd yr unig opsiwn ymarferol fi’n credu yn yr hinsawdd sydd ohoni,” ychwanegodd Manon. “Does neb wir yn gwybod sut bydd pethau ym mis Ebrill, felly roedd yn ffordd dda o leihau teithio a lleihau’r risg.             

“Does dim llawer o’r merched yn gwrthwynebu nad yw’r twrnamaint ar yr un pryd â Chwe Gwlad y dynion ac rydw i’n cytuno ’da hynny fi’n credu. 

“Mae’n rhoi llwyfan ar wahân i ni ac am ormod o amser rydyn ni wedi dibynnu ar sylw yn sgil sefydliadau’r dynion a rhaglenni’r dynion. Rydw i’n credu y bydd hyn yn rhoi cyfle i ni fanteisio i’r eithaf ar y gefnogaeth i’n gêm ni ac y bydd yn rhoi ei hunaniaeth ei hun iddi. 

“Un o effeithiau Covid yw ei fod wedi rhoi lle i fudiadau fel BLM, neu hyrwyddo chwaraeon merched yn gyffredinol, ailfeddwl ac ailsiapio sut rydyn ni’n gwneud pethau. Mae honno’n elfen bositif i gydio ynddi.”

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy