Skip to main content

Mwy na £500,000 wedi'i ymrwymo mewn ymateb i stormydd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Mwy na £500,000 wedi'i ymrwymo mewn ymateb i stormydd

Wedi'i ddiweddaru dydd Llun 7 Mawrth 2022

Bythefnos yn unig ar ôl i stormydd mawr daro pob cornel o Gymru, mae £506,706 wedi cael ei gymeradwyo i helpu clybiau i adfer wedi’r difrod, diolch i’r Loteri Genedlaethol.

Mae cyfanswm o 195 o glybiau wedi cael grantiau i helpu gydag atgyweirio adeiladau clwb, offer ac eitemau eraill a oedd yn agored i'r elfennau.

Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn llythyr cynnig gan Chwaraeon Cymru, yn rhoi gwybod iddynt am eu grant, erbyn 16eg Mawrth 2022 fan bellaf.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwaraeon Cymru, Owen Hathway:

“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’r Loteri Genedlaethol gan fod y cyllid rydyn ni’n ei dderbyn yn ein galluogi ni i gefnogi chwaraeon ar bob lefel, o lawr gwlad i lefel elitaidd.

“Roedden ni’n wirioneddol bryderus am yr effaith y gallai difrod y storm ei chael ar glybiau a’u gallu i aros ar agor a gweithredu. Gyda swm mor sylweddol o arian yn cael ei ddyrannu gall y drysau aros ar agor i bawb sy’n mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau yn rheolaidd.”

Mae’r grantiau diweddaraf yn golygu y bydd Chwaraeon Cymru yn neilltuo tua £15 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Mwy o Wybodaeth

Byddwn hefyd yn cysylltu ag ymgeiswyr aflwyddiannus yn uniongyrchol erbyn 16eg Mawrth 2022 a byddant yn cael cyfle i wneud cais eto am gyllid grant ar gyfer difrod storm ym mis Ebrill 2022, os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Bydd angen i bob ymgeisydd ddarparu tystiolaeth o'r difrod a achoswyd fel rhan o'r ffurflen gais newydd hon.

I gael mwy o wybodaeth neu gefnogaeth, cysylltwch â Thîm Buddsoddiadau Chwaraeon Cymru ar [javascript protected email address] neu ffoniwch y llinell gymorth ar 0300 3003102, o ddydd Llun i ddydd Iau, rhwng 10:00 a 12:30 a 1:15 a 16:00.

Mwy am Gyllid y Loteri Genedlaethol               

  • Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi mwy na £30 miliwn yr wythnos ar gyfer y celfyddydau, addysg, yr amgylchedd, iechyd, treftadaeth, chwaraeon a phrosiectau gwirfoddol ledled y DU
  • Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau yn 1994, mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi codi mwy na £43 biliwn ar gyfer prosiectau ac mae mwy na 635,000 o grantiau wedi'u dyfarnu ledled y DU - sy'n cyfateb i fwy na 225 o grantiau loteri ym mhob ardal cod post yn y DU.
  • I gael mwy o wybodaeth am brosiectau a gyllidir gan y Loteri Genedlaethol ewch i www.lotterygoodcauses.org.uk neu ar Twitter yn @LottoGoodCauses.