Skip to main content

Ymgyrch Anna gyda’r Tŷ Gwyn i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Ymgyrch Anna gyda’r Tŷ Gwyn i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd

Mae Anna Hursey wedi datgelu mai problemau anadlu a ddioddefodd yn Tsieina wnaeth ei rhybuddio i ddechrau o'r angen dybryd am ymgyrchu dros weithredu ar newid yn yr hinsawdd.

Mae’r seren tennis bwrdd ifanc o Gymru wedi hawlio’r penawdau am rywbeth heblaw tennis bwrdd yn ddiweddar pan ddatgelwyd y byddai'n ymuno ag ymgyrch yr Arlywydd Biden i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Mae gweinyddiaeth newydd Unol Daleithiau’r America wedi dewis recriwtio ymgyrchwyr ifanc uchel eu proffil o bob cwr o'r byd ac roedd Anna, sy'n 14 oed, yn falch o ateb yr alwad a ddaeth drwy Lysgenhadaeth America yn Llundain.

Mae'n achos sy'n agos at ei chalon gan fod effeithiau amgylchedd sy'n newid ac ansawdd aer gwael wedi bod yn rhy agos at ei hysgyfaint.

 

“Rydw i'n gwybod popeth am effeithiau llygredd aer gan fod gen i asthma," meddai Anna.

"Pan rydw i wedi bod yn Tsieina ychydig o weithiau yn y gorffennol, rydw i wedi sylwi bod yr aer yn effeithio arna i lot mwy nag y mae yng Nghymru.

"Roeddwn i’n cael mwy o drafferth anadlu ac mae hynny'n golygu ei fod yn newid fy lefelau ffitrwydd a dydw i ddim yn gallu hyfforddi mor galed. Felly, rydw i'n gwybod sut deimlad ydi hynny. Dydi o ddim yn deimlad braf iawn ac mae'n gwneud i chi feddwl llawer am y dyfodol a sut all fod.”

Nod tripiau Anna i Tsieina – mamwlad ei mam, Phoebe – yw rhoi rhywfaint o wrthwynebwyr hyfforddi ar y lefel uchaf iddi yn y wlad fwyaf llwyddiannus yn safleoedd merched a dynion y byd ar y lefel hŷn, yn ogystal â’r categorïau grŵp oedran.

Bu'n byw yn ninas Harbin yn nhalaith Heilongjiang lle'r oedd yn gallu mireinio'r dalent sydd eisoes wedi'i gwneud yn ail chwaraewr gorau Cymru y tu ôl i Charlotte Carey, ei phartner yn y dyblau yng Ngemau'r Gymanwlad 2018. Yno Anna oedd y cystadleuydd ieuengaf erioed o Gymru a hithau ddim ond yn 11 oed.

Mae teithio wedi bod yn thema gyson ym mywyd byr Anna hyd yma. Cafodd ei geni yng Nghaerfyrddin, dechreuodd ei haddysg mewn ysgol yn Abertawe ac wedyn symudodd i Gaerdydd, lle mae'n byw ar hyn o bryd.

Bu'n rhaid iddi roi ei chynlluniau i ddychwelyd i Tsieina yr adeg yma y llynedd o’r neilltu oherwydd y pandemig, ac ar ôl symud i Peterborough dros dro mae hi bellach yn ôl yng Nghaerdydd ac yn hyfforddi gyda Tennis Bwrdd Cymru dan lygad barcud ei hyfforddwr Steve Jenkins.

Os yw'n wir bod teithio'n ehangu'r meddwl, yna mae Anna wedi manteisio ar y cyfle i ddatblygu ei diddordeb mewn materion amgylcheddol, ar ôl cael ei hysbrydoli gan bobl fel Greta Thunberg.

"Pryd bynnag oeddwn i’n edrych ar y newyddion roedd straeon am danau mewn coedwigoedd a daeargrynfeydd a chorwyntoedd drwy'r amser," meddai.

"Fe fyddech chi'n meddwl y byddai pobl yn sylwi ar yr hyn sy'n digwydd i'r byd ond dydi hynny ddim fel pe bai’n digwydd.

“Mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar bob un ohonom ni ac mae ceisio gwneud rhywbeth yn ei gylch yn golygu eich bod chi’n ceisio gofalu amdanoch chi eich hun a'ch teulu a'ch ffrindiau.”

Nid yw ei rôl arfaethedig ar ran Llysgenhadaeth UDA wedi'i chynllunio'n llawn eto a bydd wedi'i strwythuro i gyd-fynd â'i hamserlen hyfforddi a’i thwrnameintiau.

Ond mae'n gobeithio cymryd rhan yn Niwrnod y Ddaear ar Ebrill 22, yn ogystal â helpu i roi cyhoeddusrwydd i Gynhadledd Newid yn yr Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow ym mis Tachwedd.

“Rydw i'n credu y gall pobl mewn chwaraeon gael dylanwad," meddai Anna. “Mae llawer o bobl yn chwarae ac yn gwylio chwaraeon, felly gobeithio y gall pobl y byd chwaraeon siarad am y peth a dysgu pobl.

"Rydw i'n credu y gallai mwy o bobl o’r byd chwaraeon ddefnyddio eu sefyllfa i godi eu llais a gwneud yn siŵr bod pobl yn trafod yr hinsawdd. Fe wnes i ddechrau meddwl amdano am y tro cyntaf ychydig flynyddoedd yn ôl.”

Ble bynnag fydd ei hymgyrchu’n mynd â hi, mae Anna’n mynnu y bydd yn parhau i ganolbwyntio'n ddwys ar dennis bwrdd wrth iddi edrych ymlaen at ei hail ymddangosiad yng Ngemau'r Gymanwlad y flwyddyn nesaf yn Birmingham.

Dair blynedd yn ôl, cyrhaeddodd Hursey a Carey rownd gogynderfynol y digwyddiad tîm cyn i Anna hefyd gael un fuddugoliaeth yn y senglau.

Dair blynedd yn ddiweddarach a bydd yn ceisio rhagori ar y llwyddiannau hynny yn ogystal ag edrych ar lwyfannau mwy fyth yn y dyfodol. 

"Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at Gemau'r Gymanwlad yn 2022. Gan eu bod mor agos yn Birmingham, bydd yn dorf gartref bron, a bydd llawer o gefnogaeth i mi, gobeithio.

“Ar ôl hynny, fy nod i ydi mynd i'r Gemau Olympaidd a cheisio ennill medal. Fe fyddai hynny'n anhygoel.”

Newyddion Diweddaraf

Mae pobl ifanc yn gwirioni ar dennis bwrdd, diolch i dechnoleg fodern

Mae Clwb Tenis Bwrdd Cynffig yn defnyddio technoleg laser modern i helpu i wneud eu camp yn fwy deniadol…

Darllen Mwy

5 ffordd y gall eich clwb chwaraeon elwa o fod yn fwy cynaliadwy

Beth yw manteision dod yn glwb mwy cynaliadwy? Dyma ein pump uchaf ni.

Darllen Mwy

Funmi Oduwaiye: Y seren pêl-fasged ar drywydd newydd wrth daflu maen a disgen yn y Gemau Paralympaidd

Doedd hi heb fod yn agos at gylch taflu ers ei dyddiau mabolgampau yn yr ysgol. Ond nawr mae Funmi Oduwaiye…

Darllen Mwy