Skip to main content

Ymgyrch Canŵ Cymru sy'n annog menywod ar y dŵr

Mae hwn wedi bod yn haf o ferched ar y dŵr ledled Cymru, diolch i lwyddiant ymgyrch #ShePaddles.

Cyrhaeddodd ei phenllanw yn ôl ym mis Mai, pan gymerodd 75 o ferched – y mwyafrif helaeth ohonynt erioed wedi cwrdd â’i gilydd o’r blaen – ran mewn gŵyl chwaraeon rhwyfo yng Nghanolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas y Brenin, yn Eryri.

“Doedd Plas y Brenin erioed wedi cael 75 o bobl ar y dŵr ar yr un pryd o’r blaen, heb sôn am 75 o ferched,” meddai Lydia Wilford, swyddog datblygu Canŵio Cymru.

“Roedd yr adborth a gawson ni yn ddiddorol iawn. Doedd cymaint ag 80 y cant o’r merched yno ddim yn adnabod unrhyw un pan wnaethon nhw gyrraedd.”

Felly beth sy'n gwneud i 75 o ferched o wahanol oedrannau fod eisiau treulio penwythnos yn y gwanwyn yn tasgu dŵr mewn llyn?

Efallai mai harddwch Llynnau Mymbyr a’r cyffiniau, neu’r dyhead i deimlo’n heini, yn actif ac yn anturus, neu’r chwilfrydedd i ddysgu camp newydd.

Neu efallai mai'r holl bethau hynny yw e - yn ogystal ag absenoldeb egos gwrywaidd!

Roedd #ShePaddles yn rhaglen a ddyfeisiwyd gan British Canoeing yn 2020, ond amharwyd arni gan y pandemig, ond fe’i mabwysiadwyd gan Canŵio Cymru a’i chyflwyno ledled y wlad gyda llwyddiant ysgubol yn 2021 a 2022.

Wedi'i chynllunio i gael mwy o ferched i gymryd rhan mewn chwaraeon rhwyfo - canŵio, caiacio a rhwyf-fyrddio - a'u datblygu fel selogion, swyddogion a hyfforddwyr, mae'r ymgyrch wedi taro tant gyda genethod a merched o bob oed.

Yn ogystal â gwyliau, bu teithiau i wahanol leoliadau gyda llysgenhadon #ShePaddles, clybiau “hyrwyddwyr” a grŵp Facebook bywiog gyda mwy na 2,500 o aelodau.

“Yr hyn oedd yn ddiddorol iawn am yr ŵyl ym mis Mai oedd gweld bod cymaint o ferched yn hapus i ddod ar eu pen eu hunain oherwydd eu bod yn gwybod mai merched fyddai’r unig bobl yno,” meddai Lydia.

“Fe all fod yn anodd cymell merched os ydych chi’n meddwl y byddwch chi’n troi lan i roi cynnig ar rwyf-fyrddio neu gaiacio yng nghwmni grŵp o fechgyn ifanc 18 oed.

“Rydyn ni'n gweld bod y merched yma wrth eu bodd yn dod i mewn i'r gamp mewn amgylchedd i ferched yn unig. Unwaith maen nhw wedi magu hyder yn y gamp, maen nhw'n fwy na pharod i gymysgu.

“Rydyn ni hefyd wedi cael merched Asiaidd anhygoel, a ’fydden nhw ddim wedi gallu cymryd rhan mewn sesiynau gyda dynion.

“Felly, fe all fod yn fan cychwyn am amrywiaeth o resymau – ond does dim dwywaith bod y merched yn hynod bositif am gyflwyniad merched yn unig i’r gamp.”

Pedair menyw, yn gwisgo helmedau, siwtiau gwlyb a chymhorthion arnofio, yn gwenu wrth iddynt badlo ar lyn
Mae ymgyrch #ShePaddles yn cynnwys rhwyf-fyrddio
Rydyn ni'n gweld bod y merched yma wrth eu bodd yn dod i mewn i'r gamp mewn amgylchedd i ferched yn unig. Unwaith maen nhw wedi magu hyder yn y gamp, maen nhw'n fwy na pharod i gymysgu
Lydia Wilford, Swyddog Datblygu Canŵ Cymru

Mae'r canlyniadau o ran niferoedd wedi bod yn nodedig hefyd.

Mae 4,652 o aelodau cofrestredig Canŵio Cymru ledled y wlad a phan ddechreuodd #ShePaddles dim ond 29.6 y cant oedd cyfran yr aelodau benywaidd.

Mae hynny er gwaethaf ystadegau sy’n dangos bod y nifer sy’n manteisio ar chwaraeon rhwyfo mewn ysgolion a cholegau yn gymharol gyfartal rhwng y rhywiau.

Yr haf yma mae cyfran y merched wedi codi i 36 y cant ar sail amcangyfrif o ddyblu'r cyfranogwyr benywaidd o 800 i 1,600.

Yr uchelgais yw parhau i gynyddu’r ffigur canran hwnnw nes iddo gyrraedd 50 y cant, tra hefyd yn symud rhwyfwyr rheolaidd i aelodaeth unigol o Canŵio Cymru – sy’n dod â manteision o ran trwyddedau ac yswiriant – yn ogystal â thuag at aelodaeth o 49 o glybiau cofrestredig Cymru. 

“Fe fydd gennym ni bob amser nifer penodol o rwyfwyr cymdeithasol sydd eisiau mynd allan gyda'u ffrindiau,” ychwanegodd Lydia, canŵ-wraig gyson yng nghanolbarth Cymru.

“Mae’r cit bellach yn hygyrch ac yn rhad, fel bod pobl yn gallu cael bwrdd rhwyfo neu gaiac a mynd allan gyda'u ffrindiau.

“Ond un rhan o’r rhaglen yma yw cael y merched i mewn fel aelodau, a mwynhau manteision aelodaeth, ac wedyn, gobeithio, mynd â nhw ymlaen i ymuno â chlybiau.”

Felly, y gobaith yw mai dim ond y dechrau fydd cael blas ar rwyfo.

O blith y clybiau “hyrwyddwyr” peilot, mae Clwb Canŵio Llangollen yn arwain y ffordd gyda digwyddiadau wythnosol rheolaidd o dan faner #ShePaddles.

Nid yw'r fenter wedi'i hanelu at ddechreuwyr yn unig chwaith. Mae cyrsiau a digwyddiadau wedi'u cynllunio ar gyfer y rhai sydd eisoes yn y gamp ac sydd eisiau gwella.

Ychwanegodd Lydia: “Fe wnaethon ni gynnal penwythnos cynnydd caiacio dŵr gwyn, oedd yn wych. Roedd llawer o’r merched hynny eisoes yn aelodau o glybiau, ond roedden nhw’n teimlo ei fod yn braf iawn dianc oddi wrth egos gwrywaidd a dysgu mewn ffordd wahanol.”

Mae digwyddiad caiacio môr tebyg yn cael ei gynnal ar Fedi 24 ar Ynys Môn, ac mae mwy o ddigwyddiadau cynnydd wedi'u trefnu ar gyfer y flwyddyn nesaf, gan gynnwys gŵyl dŵr gwastad.

“Mae’n rhaglen hyblyg, hawdd ei haddasu,” meddai Lydia.

“Rydyn ni’n gwrando ar beth mae’r merched ei eisiau ac yn ymateb i hynny.”

 

I glywed am ddigwyddiadau sydd i ddod, ymunwch â Grŵp Facebook #ShePaddles Cymru. I gael gwybod mwy am #ShePaddles Cymru, cysylltwch â swyddog datblygu Canŵio Cymru, Lydia Wilford. [javascript protected email address]

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy

Paneli solar yn pweru mwy na dim ond trydan yng Nghlwb Rygbi y Rhyl

Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £20,473 gan Chwaraeon Cymru i Clwb Rygbi'r Rhyl.

Darllen Mwy