Skip to main content

Yn yr eira – Beth rydych angen ei wybod am gamp y gaeaf yng Nghymru?

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Yn yr eira – Beth rydych angen ei wybod am gamp y gaeaf yng Nghymru?

Mae sbel eto nes bydd Lowri Howie yn barod i fynd i Gemau Olympaidd y Gaeaf, ond mae amser yn hedfan pan fyddwch chi'n sgïo i lawr allt.

Mae’r ferch 11 oed o Harlech yng Ngwynedd yn un o sgïwyr ifanc mwyaf dawnus Cymru ac mae wedi bod yn creu argraff fawr gyda Chlwb Chwaraeon Eira Gogledd Cymru yn ogystal ag allan yn Ewrop, lle daeth yn bencampwraig Alpaidd Cymru a Lloegr dan 12.

Am y tro, serch hynny, - fel miliynau o bobl eraill - bydd Lowri yn dilyn Gemau Olympaidd y Gaeaf ar y teledu pan fydd y digwyddiad yn dechrau yn Beijing ar Chwefror 4.

Felly, sut mae selogion chwaraeon y gaeaf o unrhyw oedran yn cymryd rhan os ydynt yn cael eu hysbrydoli gan y ffefrynnau i gipio medalau fel Mikaela Shiffrin a Marco Odermatt, neu’r eirafyrddiwr Prydeinig Charlotte Bankes?

Neu efallai y cewch eich temtio i roi cynnig ar sgïo hamdden mewn oedran hŷn na Lowri. Wedi’r cyfan, mae aelod o dîm Prydain Fawr, Dave Ryding, wedi dangos bod unrhyw beth yn bosib drwy ennill medal Cwpan y Byd gyntaf yn ddiweddar, yn 35 oed.

Lowri Howie yn sgïo lawr llethr sgïo sych
Lowrie Howie, Pencampwraig Alpaidd dan 12 Cymru a Lloegr. Llun: Stuart Brown

Sgïo ac eirafyrddio yng Nghymru

Mae Snowsport Cymru Wales – y corff rheoli ar gyfer sgïo ac eirafyrddio – yn hyrwyddo nifer o sesiynau blasu ar gyfer newydd-ddyfodiaid i chwaraeon y gaeaf er mwyn dal y brwdfrydedd hwnnw sy’n cael ei sbarduno gan Gemau Olympaidd y Gaeaf.

Yn cael eu cynnal yn y chwe chyfleuster llethr sych o amgylch Cymru, y syniad yw arddangos y gamp fel un hygyrch a fforddiadwy i bawb.

Mae'r canolfannau yn y Tyllgoed yng Nghaerdydd, Pont-y-pŵl yng Ngwent, ym Mharc Gwledig Pen-bre yn Sir Gaerfyrddin, yn Llangrannog ym Mae Ceredigion ac yn Llandudno yng Ngwynedd. Mae llethr sych bach hefyd yn Dan-yr-Ogof yng Nghwm Tawe.

“Rydyn ni’n cynnal nifer o fentrau yn seiliedig ar y Gemau Olympaidd ac os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan yr hyn rydych chi wedi’i weld yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf, ewch draw i lethr sych,” meddai prif weithredwr Snowsport Cymru Wales, Robin Kellen.

“Bydd y canolfannau’n cynnal mentrau blasu i bobl roi cynnig ar sgïo ac eirafyrddio. Bydd yn costio tua £10 i £15 y sesiwn, gan gynnwys cyfarwyddiadau a'r holl offer sydd arnoch ei angen. Mae hynny efallai'n cymharu â chwarae tennis neu fynd i'r sinema.

“Mae plant yn sgïo bob noson o’r wythnos yng Nghymru. Rydyn ni eisiau dangos i bobl y cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer sgïo hamdden neu i gymryd rhan yn fwy cystadleuol.”

Mae Canolfan Sgïo Llangrannog, sy’n cael ei rheoli gan yr Urdd, yn cynnwys parc dull rhydd trawiadol ac mae’r ganolfan, ar ei phen ei hun, yn addysgu tua 22,000 o blant y flwyddyn i sgïo.

Hefyd mae pedwar clwb sgïo addasol yng Nghymru ar gyfer pobl ag anableddau a’r cyfan sydd raid i unrhyw un sy’n chwilio am ysbrydoliaeth gyda hynny ei wneud yw edrych ar Menna Fitzpatrick o Gymru, a fydd yn amddiffyn ei medal aur pan fydd yn cystadlu yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf ym mis Mawrth.

Sgïwr yn sgïo i lawr y llethr sgïo sych
Mae plant yn sgïo bob noson o’r wythnos yng Nghymru. Rydyn ni eisiau dangos i bobl y cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer sgïo hamdden neu i gymryd rhan yn fwy cystadleuol.
Snowsport Cymru Wales

Yn ystod y cyfnod clo, dysgodd Snowsport Cymru Wales addasu a datblygu Gwobrau Slalom Cenedlaethol. Fel nofwyr oedd yn rasio yn erbyn ei gilydd yn erbyn y cloc mewn gwahanol byllau, roedd yn caniatáu i sgïwyr fesur eu hunain yn erbyn y goreuon yn y DU yn ystod cyfnod pan oedd cyfyngiadau yn gwahardd cystadlu mewn lleoliadau.

Yn draddodiadol, mae Cymru wedi cynnal pencampwriaethau domestig cenedlaethol ar y llethr sych yn Llandudno a Phont-y-pŵl, yn ogystal â phencampwriaethau Alpaidd allan ar y stwff gwyn go iawn.

Eleni, bydd y pencampwriaethau hynny’n cael eu cynnal yn y Swistir ddiwedd mis Mawrth wedi'u hymgorffori yn rhan o gystadleuaeth ryngwladol ehangach.

Mae'n strwythur sy'n darparu carreg gamu tuag at gyfranogiad yng Nghwpan Ewrop, Cwpan y Byd a'r Gemau Olympaidd yn y dyfodol.

Mae academïau rhanbarthol yng Nghymru sy'n bwydo i’r garfan genedlaethol, ac mae’r ieuenctid mwyaf addawol yn cael eu dewis gan Brydain Fawr a'u rhaglenni datblygu eu hunain.

Mae hwnnw’n llwybr sydd eisoes yn cael ei ddilyn gan dri o bobl ifanc sydd â chysylltiadau â Chymru, sydd wedi mynd i lawr y llwybr tuag at gystadlu ym Mhencampwriaethau Iau y Byd a Gemau Olympaidd Ieuenctid.

Mae Giselle Gorringe, 18 oed, eisoes wedi cael ei henwi fel Olympiad y dyfodol gan ei hyfforddwr, Chemmy Alcott, a gystadlodd yn y Gemau yn Sochi yn 2014.

Mae Ed Guigonnet yn 20 oed gyda chysylltiadau teuluol â Sir Benfro ac mae’n hyfforddi gyda thîm Cwpan Ewrop Prydain Fawr ac fe fu’n cystadlu ym Mhencampwriaethau Iau y Byd ym Mwlgaria y tymor diwethaf.

Yna mae Tom Butterworth, 19 oed, aelod o Dîm Sgïo GB a Glwb Sgïo Gorllewin Cymru a ddysgodd sgïo ar y llethr sych ym Mhen-bre. Dychwelodd Tom o Ganada yn ddiweddar lle bu'n cystadlu yng nghyfres Cwpan Gogledd America o rasys rhyngwladol.

Mae cynhyrchu eirafyrddwyr rhyngwladol yn dasg galetach yng Nghymru ar lethrau artiffisial, ond mae Maisie Potter o Fangor wedi herio’r drefn i ddod yn gydaelod o dîm Bankes ym Mhrydain Fawr, gan arbenigo mewn boardercross.           

“Mae’n edrych yn addawol iawn yng Nghymru i unrhyw un sydd â diddordeb mewn chwaraeon eira,” ychwanegodd Kellen.

“Mae gennym ni 10 clwb sgïo yng Nghymru, sydd fel arfer wedi’u lleoli o amgylch y canolfannau ac rydyn ni’n cynnal cynlluniau cyfranogiad sy’n gallu bwydo i ddatblygu a chystadlu i’r rhai sydd eisiau hynny.”

Mae gan y gamp yng Nghymru sawl uchelgais mawr hefyd, gan gynnwys cynlluniau i adeiladu rhediad eira 400m dan do – a fyddai’r mwyaf yn y DU – fel rhan o ganolfan hyfforddi a chyrchfan wyliau ym Merthyr.

“Mae’r gamp yn tyfu bob blwyddyn ac mae angen i ni gynnig cyfleusterau i gyd-fynd â hynny,” meddai Kellen.

Newyddion Diweddaraf

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy

Paneli solar yn rhoi ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae chwyldro ynni gwyrdd ar droed mewn chwaraeon cymunedol yng Nghymru, gyda phaneli solar yn dod yn…

Darllen Mwy