Skip to main content

Yr hyfforddwraig pêl droed ysbrydoledig sy’n gwneud gwahaniaeth diolch i gefnogaeth y Loteri Genedlaethol

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Yr hyfforddwraig pêl droed ysbrydoledig sy’n gwneud gwahaniaeth diolch i gefnogaeth y Loteri Genedlaethol

Mae pŵer pêl droed wedi helpu i adeiladu’r Wal Goch yng Nghymru, ond fe all symud mynyddoedd hefyd.

Gofynnwch i hyfforddwraig Tref y Barri Unedig, Chloe McBratney, sy’n credu bod y gamp sydd wedi mynd â chefnogwyr Cymru at drothwy rowndiau terfynol Cwpan y Byd hefyd yn ei helpu i gyflawni ei huchelgeisiau hyfforddi.

Y mis yma, mae pêl droed ar lawr gwlad wedi bod yn dathlu cariad cymaint o bobl at y gêm gyda help y Loteri Genedlaethol.

Yn ddiweddar, cyrhaeddodd ymgyrch Penwythnosau Pêl droed y Loteri Genedlaethol – sy’n sicrhau bod mwy na 100,000 o docynnau ‘Prynu Un Cael Un Am Ddim’ ar gael ar gyfer gemau clybiau pêl droed lleol a’r rhai sydd ddim yn y gynghrair ledled y DU – y Barri.

Yno mae Chloe, sydd wedi'i chofrestru'n ddall, ar hyn o bryd, yn hyfforddi tîm Pan Anabledd Tref y Barri Unedig.

Eu nod yw gwneud pêl droed mor gynhwysol â phosibl, ac mae Chloe yn ddiolchgar am gefnogaeth y Loteri Genedlaethol i helpu’r gêm gymunedol i ymdopi â chanlyniadau’r pandemig.

“Fe aeth fy rhieni â fi i chwarae pêl droed am y tro cyntaf pan oeddwn i’n chwech oed,” meddai.

“Roeddwn i mewn tîm prif ffrwd o fechgyn i gyd nes bod yn 11 oed, oherwydd o’r oedran hwnnw ymlaen ’dyw merched ddim yn cael chwarae gyda’r bechgyn mwyach.

“Wedyn fe wnes i adael pêl droed am ychydig o flynyddoedd, ond yn 17 oed, fe wnes i benderfynu fy mod i eisiau hyfforddi pêl droed anabledd.

“Fe wnes i gysylltu â Chwaraeon Anabledd Cymru ac fe wnaethon nhw roi gwybod i mi am y rhaglen hyfforddi ar gyfer y dyfodol ac arweiniodd hynny at gael hyfforddi’r Vale Reds, sydd wedi uno ers hynny â Thref y Barri Unedig.

“Fe ddechreuais i fel gwirfoddolwr a doeddwn i ddim yn gwybod llawer am hyfforddi ar y pryd ond, saith mlynedd yn ddiweddarach, rydw i bellach yn un o brif hyfforddwyr y clwb.”

Yn anterth y pandemig, roedd clybiau pêl droed fel y Barri yn brwydro am eu bodolaeth oherwydd canlyniadau methu gwneud unrhyw arian ar ddyddiau gêm.

Fel ymateb, darparodd y Loteri Genedlaethol £12.5 miliwn o gyllid brys i gefnogi’r gêm gymunedol, a chwaraeodd hyn ran hollbwysig wrth helpu clybiau fel y Barri i oroesi un o’r cyfnodau anoddaf yn eu hanes.

“Roedd e mor bwysig ein bod ni wedi cael cyllid gan y Loteri Genedlaethol yn ystod Covid-19 gan ein bod ni’n gymaint mwy na dim ond clwb pêl droed,” ychwanegodd Chloe.

“Mae’n deimlad anhygoel gwybod y gallwch chi ddod bob wythnos a gwella nid yn unig eich pêl droed, ond yr agwedd gymdeithasol hefyd.

“Rydw i’n meddwl bod pêl droed nid yn unig yn helpu eich iechyd corfforol ond eich iechyd meddwl hefyd.

“Mae dod yn ôl o holl darfu’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn bwysig iawn, gan mai pêl droed ydi’r unig beth cyson i lawer o bobl ag anableddau, felly mae’n grêt cael rhoi’r patrwm hwnnw iddyn nhw eto.”

Chloe McBratney yn rhoi pump uchel i'w chi tywys
Chloe McBratney yn rhoi pump uchel i'w chi tywys ym Mharc Jenner
Efallai bod llawer o bobl yn meddwl bod pêl droed ar gyfer bechgyn neu athletwyr abl yn unig, ond mae'n bendant ar gyfer pawb.
Chloe McBratney

Dywed McBratney bod ei thîm yn gynhwysol iawn ac yn darparu ar gyfer llawer o wahanol anableddau. Dylai pêl droed, meddai, fod yn hygyrch i unrhyw un bob amser.

“Efallai bod llawer o bobl yn meddwl bod pêl droed ar gyfer bechgyn neu athletwyr abl yn unig, ond mae'n bendant ar gyfer pawb.

“Mae gennym ni amgylchedd cynhwysol iawn yma yn y Barri ac mae yna dîm ar gyfer pawb.

“Mae gan lawer o’n chwaraewyr ni ystod eang o anableddau, felly mae’n rhaid i’n technegau hyfforddi ni fod yn hyblyg ac yn wahanol bob wythnos.

“Fe allwch chi gael chwaraewr ar ddiwrnod da neu ddrwg. Mae rhai o'n chwaraewyr ni yn ddysgwyr gweledol, felly rydyn ni'n gwneud arddangosfa iddyn nhw ac yn gobeithio y byddan nhw wedyn yn dilyn.

“Os oes angen i ni fynd dros bethau sawl gwaith, fe wnawn ni hynny. Ond mae’n deimlad mor wych gweld y chwaraewyr yn dod yma bob wythnos ac yn gwella.”

Mae cyn seren Lloegr, Arsenal a Chelsea, sydd bellach yn sylwebydd gyda Sky Sports, Karen Carney, hefyd yn llysgennad i’r Loteri Genedlaethol, ac roedd hi wrth law i gwrdd â Chloe a phwysleisio pwysigrwydd pêl droed yn y gymuned.

“Mae clybiau fel y Barri yn rhoi cyfle i bobl fel Chloe ysbrydoli cymaint o bobl gan gynnwys fi fy hun,” meddai Carney.

“Yn enwedig ar ôl blwyddyn neu ddwy anodd gyda’r pandemig, mae Chloe yn chwarae rhan mor bwysig yn y gymuned gan ei bod hi’n helpu i gael pobl i fod yn actif eto a dangos bod chwaraeon yn gallu bod yn bositif i unrhyw un.

“Fe fyddwn i’n annog unrhyw un i fynd i’w tîm lleol a mwynhau pêl droed.

“Fe wnes i syrthio mewn cariad efo’r gêm drwy wylio fy nhîm lleol, Solihull Moors, gan ei fod yn brofiad gwych gwylio fy nghymuned leol i ar waith.

“Os ydych chi’n gwneud y byrgyrs a’r te neu’n siarad â’r chwaraewyr a’r hyfforddwyr, mae rôl i bawb mewn pêl droed cymunedol.”

Mae McBratney yn credu bod pêl droed wedi ei helpu hi i ddod i delerau â'i hiechyd sy'n dirywio ac mae'n gobeithio y gall fod yn fodel rôl i eraill.

“Rydw i wir yn gobeithio y galla’ i fod yn ysbrydoliaeth,” meddai.

“Pan oeddwn i’n tyfu i fyny, fe gefais i wybod na fyddai fy ngolwg i byth yn dirywio ond fe wnaeth chwe blynedd yn ôl ac fe wnaeth pêl droed fy helpu i ddod i delerau â hynny.

“Y ffaith ’mod i’n dal i allu hyfforddi drwy’r problemau gyda’r nam ar fy ngolwg oedd y teimlad gorau erioed.

“Os ydych chi eisiau gwneud rhywbeth, fe allwch chi ddod o hyd i ffordd.”

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy