Skip to main content

Calum Jarvis - Nofio

Enw: Calum Jarvis           
Ganwyd yn: Ystrad, Rhondda, Cymru
Ysgol(ion): Ysgol Wadebridge, Coleg Plymouth 
Clwb (Clybiau): Clwb Nofio Plymouth Leander
Dull: Dull Rhydd  
Chwaraeon Eraill: 
Profiad Olympaidd: Cystadlu am y tro cyntaf
Medalau: Gemau’r Gymanwlad (Efydd 2014), Pencampwriaethau’r Byd (Aur 2015 a 2017), Pencampwriaethau Ewropeaidd (Aur 2018 a 2020, Arian 2020 ac Efydd 2018)
Anrhydeddau Eraill: Pencampwr Byd cyntaf Cymru mewn nofio                     

Wedi cipio medalau yng Ngemau’r Gymanwlad, y Pencampwriaethau Byd a Phencampwriaethau Ewrop, bydd Calum Jarvis, 29 oed, yn rhoi cynnig ar ennill medal Olympaidd yn awr. Yn Bencampwr Byd cyntaf erioed Cymru mewn nofio, roedd Calum yn aelod o’r pedwarawd cyfnewid a roddodd stop ar rediad UDA o 5 medal Aur yn olynol. 

Ni chafodd le yn Rio 2016, ond bydd Calum yn mwynhau ei brofiad cyntaf o’r Gemau ac yn gobeithio ychwanegu medal Olympaidd at ei gasgliad gwych pan fydd yn cystadlu yn Tokyo yr haf yma. 

Ym mha glwb wnaeth Calum ddechrau nofio?

Ar ôl i Calum symud i Gernyw gyda’i deulu fel plentyn, ei glwb cyntaf oedd Clwb Nofio Plymouth Leander. Yn ymroddedig i nofio, symudodd i Gaerfaddon i fod yn rhan o’r Ganolfan Genedlaethol yno.

Ar ba ddyddiadau fydd Calum yn cystadlu yn Tokyo 2020?

Ras Gyfnewid 4 x 200m Dull Rhydd

Dydd Mawrth, Gorffennaf 27 - 12.17 - Rhagbrofion 
Dydd Mercher, Gorffennaf 28 - 04.26 - Terfynol