Enillodd athletwyr Cymru yn Team GB gyfanswm a dorrodd bob record o 10 medal Olympaidd yn y Gemau Olympaidd diwethaf yn Rio 2016. Roedd eu casgliad ym Mrasil, a oedd yn cynnwys 4 aur, yn rhagori ar y record flaenorol yn Llundain 2012 o 3 medal.
Ar ôl blwyddyn o darfu a gohirio’r gemau, a oes posib iddynt gyrraedd yr un uchelfanau eto?
Dyma eich cyflwyno chi i’r genhedlaeth nesaf o athletwyr Cymru a fydd yn cael cynrychioli Team GB o’r diwedd yn y Gemau Olympaidd yr haf yma yn Tokyo 2020 – sy’n cael eu cynnal yn 2021.