Skip to main content

Chris Grube - Hwylio

Enw: Chris Grube
Ganwyd yn: Caer, Lloegr
Ysgol: Ysgol Uwchradd Upton-by-Chester 
Dosbarth Hwylio: 470
Partner Hwylio: Luke Patience
Clwb Cyntaf: Clwb Hwylio’r Bala 
Chwaraeon Eraill: Beicio
Profiad Olympaidd: Rio 2016 (5ed)
Medalau: 
Anrhydeddau Eraill: Wythnos Olympaidd Enoshima (Enillydd), Pencampwriaethau 470 Gogledd America 2020 (Enillydd)

Ar ôl gorffen yn agos iawn at y podiwm yn Rio 2016, bydd Chris eisiau mynd gam ymhellach drwy gipio medal yr haf yma. Yn ymuno ag ef eto yn y dosbarth 470 bydd ei gyd-aelod o’r tîm, yr Albanwr Luke Patience, sydd wedi cael blas ar gamu ar y podiwm gyda medal Arian yn Llundain 2012.

Ym mha glwb wnaeth Chris ddechrau hwylio?

Ychydig dros awr yn y car o Gaer, dechreuodd Chris hwylio yng Nghlwb Hwylio’r Bala ar ôl i’w dad fynd ag o ar lyn mwyaf Cymru ag yntau ond yn 10 oed.                   

Un peth doeddech chi ddim yn ei wybod am Chris Grube

Does dim perthynas rhwng Chris a’r model enwog sy’n rhannu ei lysenw. Mae’n cael ei adnabod fel Twiggy am ei fod yn dal ac yn fain.               

Ar ba ddyddiadau fydd Chris yn cystadlu yn Tokyo 2020?

Dydd Mercher, Gorffennaf 28 
Dydd Iau, Gorffennaf 29 
Dydd Gwener, Gorffennaf 30 
Dydd Sul, Awst 1 
Dydd Llun, Awst 2 
Dydd Mercher, Awst 4 - Ras y Fedal