Hannah Mills - Hwylio

Enw: Hannah Mills
Ganwyd yn: Caerdydd, Cymru
Ysgol:
Clwb Cyntaf: CanolfanHwylio Llanisien (CanolfanHwylio Caerdydd bellach)
Dosbarth Hwylio: 470
Partner Hwylio: Saskia Clark
Chwaraeon Eraill:
Profiad Olympaidd: Llundain 2012 Arian, Rio 2016 Aur
Medalau: Pencampwriaethau Byd (Aur 2006, 2012 a 2019. Arian 2011, 2015 a 2017. Efydd 2014 a 2018.) Pencampwriaethau Ewropeaidd (Arian 2014, 2919 a 2021)
Anrhydeddau Eraill: Personoliaeth Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn BBC Cymru, MBE 2017
Bydd Hannah eisiau cipio ei thrydedd medal Olympaidd yn ei thrydydd ymddangosiad yn y Gemau Olympaidd. Ar ôl Arian yn Llundain 2012, aeth Hannah un yn well yn Rio 2016 gydag Aur. Byddai ennill Aur arall yn Tokyo yn gwneud Hannah yn hwylwraig Olympaidd benywaidd mwyaf llwyddiannus y byd.
Ym mha glwb wnaeth Hannah ddechrau hwylio?
Ar ôl rhoi cynnig ar hwylio ar drip teuluol i Gernyw, aeth Hannah ati i hwylio fel hobi ar ôl dychwelyd i Gymru. Yn 8 oed, dechreuodd Hannah hwylio yng Nghanolfan Hwylio Llanisien lle helpodd ei hyfforddwr cyntaf, Anne Barrett, hi i syrthio mewn cariad â hwylio
Un peth doeddech chi ddim yn ei wybod am Hannah Mills
Mae Hannah yn cyfaddef yn agored bod ei bywyd yn troi o amgylch ennill medal aur Olympaidd. Ond mae wedi dod yr un mor angerddol am yr amgylchedd. Dyma pam mae Hannah wedi defnyddio ei llwyfan yn y byd chwareon i lansio Yr Addewid Mawr am Blastig sy’n ceisio ‘dileu plastig defnydd sengl mewn chwaraeon’.
Ar ba ddyddiadau fydd Hannah yn cystadlu yn Tokyo 2020?
Dydd Mercher, Gorffennaf 28
Dydd Iau, Gorffennaf 29
Dydd Gwener, Gorffennaf 30
Dydd Sul, Awst 1
Dydd Llun, Awst 2
Dydd Mercher, Awst 4 - Ras y Fedal