Skip to main content

Jade Jones - Taekwondo

Jade Jones gyda'i gwobr yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru

Enw: Jade Jones              
Ganwyd yn: Bodelwyddan, Cymru
Ysgol(ion): Ysgol Uwchradd y Fflint 
Clwb (Clybiau): TAGB Fflint, Aces Manceinion 
Camp: -57kg
Chwaraeon Eraill: Pêl Droed, Athletau 
Profiad Olympaidd: Llundain 2012 (Aur), Rio 2016 (Aur)
Medalau: Olympaidd (Aur 2012 a 2016), Pencampwriaethau’r Byd (Aur 2019, Arian 2011 ac Efydd 2017), Grand Prix Taekwondo (Aur x 8, Arian x 5 ac Efydd), Pencampwriaethau Ewropeaidd (Aur 2016, 2018 a 2021. Arian 2014. Efydd 2010 a 2012), Gemau Ewropeaidd (Aur 2015)
Anrhydeddau Eraill: Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2012, MBE ac OBE.

Jade Jones fydd yr ymladdwr taekwondo cyntaf i hawlio tair medal Aur Olympaidd os bydd yn ennill yn Tokyo 2020. Wedi ennill medal Aur yn Llundain 2012 a Rio 2016, mae’r ferch 28 oed yn gobeithio efelychu ei pherfformiadau blaenorol i greu hanes Olympaidd.

Wedi ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf eisoes, mae ei chyd-Gymraes, Lauren Williams, yn dweud mai Jade yw ei hysbrydoliaeth i ddechrau cymryd rhan mewn taekwondo a bydd hefyd yn ymuno â hi yng ngharfan Team GB ar gyfer Tokyo 2020.

Ym mha glwb wnaeth Jade ddechrau cymryd rhan mewn taekwondo?

Ar ôl bod yn blentyn ifanc direidus - cafodd Jade ei dal yn ysmygu yn 10 oed - fe ysgogodd hyn ei thaid i'w gwthio tuag at taekwondo er mwyn iddi ddysgu amddiffyn ei hun. Fe wnaeth sesiwn blasu yn ei chlwb cyntaf, TAGB Fflint, gyda’r hyfforddwr Martin Williams wneud iddi wirioni ar taekwondo ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny.

Un peth doeddech chi ddim yn ei wybod am Jade Jones

Mae Jade yn cyfaddef yn eithaf agored - 'Rydw i'n cicio pobl yn eu pen fel bywoliaeth ac rydw i wrth fy modd'. Efallai bod gan hyn rywbeth i'w wneud â pham mae hi wedi cael y llysenw, 'The Headhunter.' Gyda chic i'r pen yn werth cic i'r corff deirgwaith, mae Jade yn targedu ergydion i’r pen dros ergydion i’r corff.

Ar ba ddyddiadau fydd Jade yn cystadlu yn Tokyo 2020?

Dydd Sul, Gorffennaf 25