Skip to main content

Josh Bugajski - Rhwyfo

Enw: Joshua Bugajski
Ganwyd yn: Cheadle Heath, Lloegr
Ysgol(ion): Clwb Rhwyfo Prifysgol Caerdydd
Clwb (Clybiau): Clwb Cychod Prifysgol Oxford Brookes 
Cystadleuaeth: Wythawd y Dynion
Chwaraeon Eraill: Beicio
Profiad Olympaidd: Cystadlu am y tro cyntaf
Medalau: Pencampwriaethau Byd (Efydd 2019), Pencampwriaethau Ewropeaidd (Aur 2021, Arian 2019)
Anrhydeddau Eraill:

Oni bai am y pandemig yn gohirio Tokyo 2020 am flwyddyn, ni fyddai Josh yn cael cyfle i wneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Gemau Olympaidd yr haf yma. Ar ôl cysgu’n lletchwith ar awyren i wersyll hyfforddi yn Namibia, dioddefodd Josh anaf i’w nerf a oedd yn atal defnydd o ochr dde ei gefn a’i fraich dde.

Bydd Josh yn rhan o Wythawd y Dynion yn Tokyo a bydd athletwr arall o Gymru, Ollie Wynne-Griffith, yn ymuno ag ef yn y cwch.

Ym mha glwb wnaeth Josh ddechrau rhwyfo?

Yn ogystal â Rebecca Muzerie, mae Josh yn athletwr arall o Team GB a gyflwynwyd i rwyfo fel camp gan Brifysgol Caerdydd. 

Un peth doeddech chi ddim yn ei wybod am Josh Bugajski

Treuliodd Josh gyfnodau rheolaidd yn yr ysbyty yn blentyn yn dioddef o asthma brau cronig a chafodd ei fagu ar stad gyngor yn Stockport. Ni wnaeth yr un o’r ddau brofiad ei atal rhag dod yn rhwyfwr llwyddiannus.         

Ar ba ddyddiadau fydd Josh yn cystadlu yn Tokyo 2020?

Dydd Sul, Gorffennaf 25 - Rhagbrofion (03:00) 
Dydd Mercher, Gorffennaf 28 - Repechage (02:48) 
Dydd Gwener, Gorffennaf 30 - Rownd Derfynol (02:25)