Skip to main content

Kieran Bird - Nofio

Enw: Kieran Bird
Ganwyd yn: Bicester, Lloegr
Ysgol(ion): Ysgol Cooper 
Clwb (Clybiau): Clwb Nofio Bicester Blue Fins
Dull: Dull Rhydd
Chwaraeon Eraill: Pêl Droed
Profiad Olympaidd: Cystadlu am y tro cyntaf
Medalau: 
Anrhydeddau Eraill:

Tokyo 2020 fydd blas cyntaf Kieran ar y Gemau Olympaidd. Ond ni fydd yn brofiad rhy anghyfarwydd iddo gan fod ei bartner hyfforddi a’i gyd-Gymro, Matt Richards, wedi’i ddewis ar gyfer Team GB hefyd. 

Ym mha glwb wnaeth Kieran ddechrau nofio?

Dechreuodd Kieran Bird nofio gyda’r Bicester Blue Fins, gan fynd ymlaen i fod yn gapten ar y clwb yn y diwedd cyn symud i Gaerfaddon i hyfforddi yng Nghanolfan Genedlaethol Nofio Prydain.               

Un peth doeddech chi ddim yn ei wybod am Kieran Bird

O feddwl bod yr Olympiad sydd wedi ennill y nifer mwyaf o fedalau erioed, Michael Phelps, yn nofiwr, ni fyddech yn synnu pe baem yn dweud wrthych mai ef yw ysbrydoliaeth Kieran fel nofiwr. Ond a dweud y gwir, buddugoliaeth annisgwyl Chad Le Clos yn erbyn Phelps yn y pwll roddodd hwb i Kieran.

Talodd ei ysbrydoliaeth ar ei ganfed wrth i Kieran greu sioc ei hun pan enillodd y dull rhydd 400m yn y treialon dewis, gan dynnu bron i 5 eiliad oddi ar ei orau personol. Ac roedd y tro hwn o safon Olympaidd hefyd.

Ar ba ddyddiadau fydd Kieran yn cystadlu yn Tokyo 2020?

Dull Rhydd 400m

Dydd Sadwrn, Gorffennaf 24 - 11.48 (BST) - Rhagbrofion 
Dydd Sul, Gorffennaf 25 - 02.52 - Terfynol

Dull Rhydd 800m

Dydd Mawrth, Gorffennaf 27 - 12.57 - Rhagbrofion 
Dydd Iau, Gorffennaf 29 - 02.30 - Terfynol