Skip to main content

Lauren Price - Bocsio

Lauren Price yn codi braich

Enw: Lauren Price
Ganwyd yn: Casnewydd, Cymru
Ysgol: Ysgol Gyfun Heolddu
Clwb (Clybiau): Pontypŵl ABC, Clwb Pêl Droed Dinas Caerdydd, Crefftau Ymladd y Devils
Dosbarth Pwysau: Pwysau Canol 
Safiad: Llaw a throed dde ymlaen 
Chwaraeon Eraill: Pêl Droed, Pêl Rwyd, Cicfocsio, Taekwondo
Profiad Olympaidd: Cystadlu am y tro cyntaf
Medalau: Gemau’r Gymanwlad (Aur 2018, Efydd 2014), Pencampwriaethau’r Byd (Aur 2019, Efydd 2018), Gemau Ewropeaidd (Aur 2019) Pencampwriaethau Bocsio Amatur Ewropeaidd (Efydd 2011, 2016 a 2018) 
Anrhydeddau Eraill: Pêl Droed Cymru (52 o gapiau), Capten Pêl Droed Cymru D-19

Bydd y focswraig pwysau canol sy’n bencampwraig byd, Lauren Price, yn cael ei blas cyntaf ar y Gemau Olympaidd yr haf yma. Yn Rhif 1 y Byd ar hyn o bryd yn ei hadran, mae gan Lauren eisoes fedalau Aur Cymanwlad, Byd ac Ewropeaidd felly mae ei golygon yn sicr ar gwblhau’r gyfres yn Tokyo 2020.

Un peth doeddech chi ddim yn ei wybod am Lauren Price

Yn dda mewn llawer o chwaraeon, mae Lauren wedi cynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol mewn pêl droed, gan ennill 52 o gapiau ac roedd yn gapten ar ei gwlad Dan 19. Dywed Lauren bod ei chicfocsio wedi ei helpu yn ei gyrfa bêl droed, gan allu creu mwy o bŵer drwy’r bêl gyda’i chicio. Ac eto, mae’n diolch i’r sgiliau gwaith traed mewn pêl am ei helpu gyda’i symudiadau bocsio. Fe roddodd Lauren gynnig ar taekwondo hyd yn oed, ond nid oedd gorfod ymatal rhag defnyddio ei dwylo ar ei chyfer hi.

Ym mha glwb wnaeth Lauren ddechrau bocsio?

Mae Lauren yn bocsio gyda Phontypŵl ABC o dan arweiniad a chyfarwyddyd hyfforddwr y clwb, Lyndon James

Pwy wnaeth ysbrydoli Lauren i ddechrau bocsio?

Roedd Llundain 2012 yn Gemau Olympaidd wnaeth ysbrydoli llawer o athletwyr ac roedd Lauren yn un ohonyn nhw. Nicola Adams a Katie Taylor o Iwerddon yw ei phrif ysbrydoliaeth. Yn enwedig Katie, oedd hefyd yn jyglo bocsio gyda chynrychioli ei gwlad mewn pêl droed.

Ar ba ddyddiadau fydd Lauren yn cystadlu yn Tokyo 2020?

Dydd Sul, Gorffennaf 25 - 04:18 (BST) - Rownd o 32 
Dydd Mawrth, Gorffennaf 28 - 03:30 - 04:18 - Rownd 16 
Dydd Sadwrn, Gorffennaf 31 - 05:06 - 05: 24/11: 06 - 11: 24 - Rownd Gynderfynol 
Dydd Gwener, Awst 6 - 06:00 - 06:15 - Rownd Gynderfynol 
Dydd Sul, Awst 8 - 06:45 - Rownd Derfynol