Skip to main content

Ollie Wynne-Griffith - Rhwyfo

Enw: Oliver Wynne-Griffith
Ganwyd yn: Guildford, Lloegr
Ysgol(ion): Coleg Radley, Prifysgol Yale
Clwb (Clybiau): Clwb Rhwyfo Leander 
Cystadleuaeth: Wythawd y Dynion
Chwaraeon Eraill: Rygbi
Profiad Olympaidd: Cystadlu am y tro cyntaf
Medalau: Pencampwriaethau Byd (Efydd 2018 a 2019), Pencampwriaethau Ewropeaidd (Aur 2021, Arian 2019)
Anrhydeddau Eraill:

Ar ôl bod yn rhan o Wythawd y Dynion ers 2018, bydd Ollie yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo 2020. Bydd chwarter tîm Wythawd y Dynion o Gymru wrth i Ollie ymuno â’i gyd-Gymro, Josh Bugajski, yn y cwch.

Nid dim ond mewn chwaraeon mae Ollie yn serennu chwaith. Cafodd radd mewn Gwyddor Wleidyddol o Brifysgol Yale tra oedd ar ysgoloriaeth athletau yno, lle parhaodd i rwyfo ochr yn ochr â'i astudiaethau.

Ym mha glwb wnaeth Ollie ddechrau rhwyfo?

Dechreuodd Ollie rwyfo yng Ngholeg Radley fel ffordd i gadw ei hun yn heini ar gyfer y tymor rygbi. Wrth iddo ddod i hoffi rhwyfo yn fawr, buan iawn y disodlwyd y breuddwydion am fod yn chwaraewr ail reng proffesiynol dros Gymru gan freuddwydion am gystadlu yn y Gemau Olympaidd.

Un peth doeddech chi ddim yn ei wybod am Ollie Wynne-Griffith

Gan ddilyn yn ôl troed ei hen dad-cu, bydd Ollie yn cynrychioli Team GB yn y Gemau Olympaidd. Rhwyfodd ei hen dad-cu yn Sedd 6 ar gyfer Wythawd y Dynion yn LA 1932 ac, 83 mlynedd yn ddiweddarach, bydd Ollie yn eistedd yn yr un sedd pan fydd yn mynd am yr aur yn yr un gystadleuaeth yn Tokyo 2020.

Ar ba ddyddiadau fydd Ollie yn cystadlu yn Tokyo 2020?

Dydd Sul, Gorffennaf 25 - Rhagbrofion (03:00) 
Dydd Mercher, Gorffennaf 28 - Repechage (02:48) 
Dydd Gwener, Gorffennaf 30 - Rownd Derfynol (02:25)