Skip to main content

Rupert Shipperley - Hoci

Rupert Shipperley - pen ac ysgwyddau

Enw: Rupert Shipperley
Ganwyd yn: Cwmbrân, Cymru
Ysgol(ion): Ysgol Sant Edward Rhydychen,Ysgol ColegKing’s (Athro)
Clwb (Clybiau): Eglwys Newydd, Caerdydd a Met, Surbiton, Hampstead a San Steffan
Position: Chwaraewr Canol Cae / Blaenwr
Chwaraeon Eraill: Rygbi
Profiad Olympaidd: Cystadlu am y tro cyntaf
Medalau: 
Anrhydeddau Eraill: Cymru (75 o gapiau), Prydain Fawr (12 o gapiau)

Cystadlodd Rupert am y tro cyntaf dros Brydain Fawr a sgorio yn erbyn Awstralia yn 2020 a bydd yn cael profiad o’i Gemau Olympaidd cyntaf yn Tokyo yn 2020. 

Fel ei gyd-Gymraes, Leah Wilkinson, roedd Rupert yn athro. Roedd yn addysgu daearyddiaeth yn Ysgol Coleg King’s yn Wimbledon cyn dod yn rhan o’r rhaglen lawn amser gyda Phrydain Fawr. 

Ym mha glwb wnaeth Rupert ddechrau chwarea hoci?

Ar ôl dechrau chwarae hoci fwy o ddifrif ym Mhrifysgol Caerdydd, clwb cyntaf Rupert oedd yr Eglwys Newydd. Cafodd ei gyflwyno i hoci gan ei gyn athro ysgol, Zak Jones, a roddodd gap i Rupert gyda Chymru a nawr mae’n digwydd bod yn Hyfforddwr Cynorthwyol ar gyfer Hoci Prydain Fawr.  

Un peth doeddech chi ddim yn ei wybod am Rupert Shipperley

Gallai ei yrfa chwaraeon edrych yn wahanol iawn gan fod Rupert wedi tyfu i fyny yn chwarae rygbi cyn i anaf ei orfodi i ganolbwyntio mwy ar ei hoci. Roedd hwn yn benderfyniad gwerth chweil o ystyried bod hoci yn y gwaed gyda’i chwaer hŷn, Zoe, hefyd yn cynrychioli Prydain Fawr a’r genedl yr ochr arall i Glawdd Offa - Lloegr!

Ar ba ddyddiadau fydd Rupert yn cystadlu yn Tokyo 2020?

Dydd Sadwrn, Gorffennaf 24 - yn erbyn De Affrica (10.30 BST)
Dydd Llun, Gorffennaf 26 - yn erbyn Canada (01.30)
Dydd Mawrth, Gorffennaf 27 - yn erbyn yr Almaen (02:00)
Dydd Iau, Gorffennaf 29 - yn erbyn yr Iseldiroedd (2:00)
Dydd Gwener, Gorffennaf 30 - yn erbyn Gwlad Belg (11:00)

Dydd Mawrth, Awst 3 - Rownd gynderfynol (02: 30/11: 00)
Dydd Iau, Awst 5 - Gêm y Fedal Efydd (02:30)
Dydd Iau, Awst 5 - Gêm y Fedal Aur (11:00)