Skip to main content

Sarah Jones - Hoci

Enw: Sarah Jones            
Ganwyd yn: Caerdydd, Cymru
Ysgol(ion): Ysgol Howells 
Clwb (Clybiau): Athletig Caerdydd, Howardians, Loughborough, Reading
Safle: Chwaraewr Canol Cae
Chwaraeon Eraill: 
Profiad Olympaidd: Cystadlu am y tro cyntaf
Medalau: 
Anrhydeddau Eraill: Cymru (96 o gapiau), Prydain Fawr (33 o gapiau) 

Wedi ennill 96 o gapiau dros Gymru, a chystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2014 a 2018, Sarah yw asgwrn cefn tîm Prydain Fawr ers torri drwodd yn 2016. Hi oedd y chwaraewr allan ar y cae cyntaf i gynrychioli Cymru am 8 mlynedd a pharatôdd y ffordd ar gyfer cystadleuwyr eraill o Gymru i ddilyn yn ôl ei throed, gan gynnwys Jacob Draper a Rupert Shipperley.

Ym mha glwb wnaeth Sarah ddechrau chwarae hoci?

Cafodd Sarah ei blas cyntaf ar hoci yn Ysgol Howells yng Nghaerdydd cyn syrthio mewn cariad â’r gamp yn ystod ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Loughborough.

Un peth doeddech chi ddim yn ei wybod am Sarah Jones

Un arall o gystadleuwyr rhyngwladol Cymru sy’n ymuno â hi fel aelod o dîm hoci Team GB yw ei phartner a’r capten cenedlaethol, Leah Wilkinson. Gyda’i gilydd bydd y ddwy’n cystadlu yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf yn Tokyo 2020.

Ar ba ddyddiadau fydd Sarah yn cystadlu yn Tokyo 2020?

Dydd Sul, Gorffennaf 25 - yn erbyn yr Almaen (01.30 BST)
Dydd Llun, Gorffennaf 26 - yn erbyn De Affrica (10.30)
Dydd Mercher, Gorffennaf 28 - yn erbyn India (02:00)
Dydd Iau, Gorffennaf 29 - yn erbyn yr Iseldiroedd (11:00)
Dydd Sadwrn, Gorffennaf 31 - yn erbyn Iwerddon (10.30)

Dydd Mercher, Awst 4 - Rowndiau Terfynol (02: 30/10: 00)
Dydd Gwener, Awst 6 - Gêm y Fedal Efydd (02:30)
Dydd Gwener, Awst 6 - Gêm y Fedal Aur (11:00)