Skip to main content

Grymuso eich tîm I fod yn llysgenhadon

Eich athletwyr, eich hyfforddwyr a’ch aelodau o staff ehangach yw llysgenhadon pwysicaf eich sefydliad, ond a ydych chi wedi rhoi iddynt yr adnoddau a’r hyder i wneud hyn ar eich rhan chi?

Chi sydd i benderfynu sut i wneud y defnydd gorau ohonynt, ond gan mai dyma eich eiriolwyr mwyaf positif, mae’n gwneud synnwyr sicrhau eu bod yn hyderus ac yn glir ynghylch beth allent ac y dylent ei ddweud yn gyhoeddus, wrth y cyfryngau ac wrth ffrindiau.

Bydd yr arbenigwr ar gyfathrebu, Alison Arnot, yn cyflwyno sesiwn rhyngweithiol yn rhoi sylw i fanteisio i’r eithaf ar eich llysgenhadon.

Bydd y sesiwn yn rhoi sylw i’r pynciau canlynol:

• Dealltwriaeth o pam rydym yn defnyddio llysgenhadon a sut i’w hadnabod

• Trosolwg o sut gallwch chi fanteisio i’r eithaf ar eich llysgenhadon

• Esiamplau o sut i ddewis y bobl iawn ac, yn bwysicach na dim, sut i weithio’n llwyddiannus gyda hwy

• Cyngor ar rymuso eich llysgenhadon i gyfathrebu ar ran eich brand

• Trafodaethau’n canolbwyntio ar beth allech ei gynnwys mewn pecyn adnoddau i lysgenhadon cyfathrebu

AM ALISON ARNOT

Mae Alison yn gyfathrebwr llwyddiannus sydd wedi ennill sawl gwobr ac mae ganddi 20 mlynedd o brofiad mewn uwch swyddi cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu. Sefydlodd Catalyst Communications ym mis Gorffennaf 2012 ac mae’n cynnig cefnogaeth cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu i gleientiaid ledled y DU. Mae’n Ymarferwr Siartredig ac yn Gymrawd gyda CIPR ac mae Alison hefyd yn cyflwyno hyfforddiant cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu ar ran y Sefydliad Siartredig ar gyfer Cysylltiadau Cyhoeddus.

Mwy o wybodaeth am Catalyst Communications ar gael yma www.catalyst-communications.co.uk