Mae’n amser ar gyfer Arddangosfa gyntaf CLIP lle bydd cyfle i ni eich dathlu chi – defnyddwyr CLIP. Ymunwch â ni yng Nghaerdydd neu ar-lein i gydnabod eich gwaith caled yn cyfathrebu manteision chwaraeon i bobl Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf.
Am yr Arddangosfa
Wrth i'r tirlun cyfathrebu newid ac esblygu, nod y Rhaglen Cyfathrebu, Dysgu a Dirnadaeth yw eich cefnogi chi i greu'r cynnwys a'r ymgyrchoedd gorau posibl. Drwy hyn, rydyn ni'n ddigon ffodus i fod wedi creu rhwydwaith o weithwyr cyfathrebu proffesiynol tebyg, a nawr yw’r amser i ddathlu eich llwyddiannau chi.
Bydd Arddangosfa CLIP yn gyfle i ni gydnabod y gwaith cyfathrebu yn y sector chwaraeon yng Nghymru, cyfle i rwydweithio a dysgu oddi wrth ein gilydd, a chlywed gan rai o’r sefydliadau sy’n helpu chwaraeon yng Nghymru i ffynnu.
Beth fydd y sesiwn yn ei gynnwys
Ochr yn ochr â chlywed gan rai siaradwyr cyffrous o’r sector chwaraeon yng Nghymru, byddwn yn arddangos sut mae gwahanol sefydliadau wedi defnyddio adnoddau cyfathrebu fel cyfryngau cymdeithasol, marchnata digidol, a’r iaith Gymraeg i greu ymgyrchoedd arloesol, llwyddiannus.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 10am a 3pm, gydag egwyl am ginio rhwng 12 a 12.45pm.
Cyflwynwyr
Chi – Rhwydwaith CLIP
Mae Rhwydwaith CLIP yn weithwyr proffesiynol o sector chwaraeon Cymru sydd ag arbenigedd gwahanol mewn cyfathrebu a'r digidol.
Siaradwyr
Gwyliwch y gofod yma - siaradwyr gwadd i'w cadarnhau yn fuan!