Adnoddau AI, Edefynnau a beth bynnag yn y byd yr oedd Elon Musk yn ei wneud gyda Twitter - roedd cymaint i'n cadw ni ar flaenau ein traed yn 2023. Ond beth sydd i ddod yn 2024?
Mae sicrhau gwybodaeth am y tueddiadau diweddaraf yn dasg anodd. Mae sut rydyn ni’n cyfathrebu a dulliau marchnata yn esblygu’n gyson ond rydyn ni eisiau eich helpu chi i achub y blaen er mwyn sicrhau bod ein neges yn parhau i gyrraedd ein cynulleidfaoedd ni.
Darganfyddwch y datblygiadau diweddaraf a'r adnoddau mwyaf newydd y gallwch eu defnyddio i ddatblygu cynlluniau cyfathrebu effeithiol yn 2024.
Am y sesiwn
Mae Liberty Marketing yn ôl ar gyfer 2024! Byddant yn edrych ar y pethau i gadw llygad amdanyn nhw yn y byd cyfathrebu yn y sesiwn CLIP unigryw yma.
Bydd y sesiwn yma’n rhoi'r hyder sydd arnoch ei angen i chi i fynd ati i ddefnyddio'r adnoddau a'r dechnoleg ddiweddaraf yn eich cynllun cyfathrebu ar gyfer 2024.
Am y cyflwynydd
Phil Woodward yw Pennaeth Creadigol Liberty a Foundation, lle mae’n gweithio ochr yn ochr â thimau Cyflenwi a Thwf i sicrhau bod eu marchnata mor effeithiol ag y gall fod. Mae hefyd yn arwain ar allbwn ymgynghoriaeth a hyfforddiant digidol yr asiantaethau, lle mae wedi hyfforddi pobl fel Universal Music, Prifysgol Abertawe, Maethu Cymru a’r RFU.