Skip to main content

Cwrdd â’r Cyfryngau

Eisiau gwybod sut i gael eich stori ar y newyddion? Dyma gyfle unigryw i ymgysylltu â newyddiadurwyr a gohebwyr o wahanol sefydliadau cyfryngau. Mewn sesiwn CLIP cyntaf o'i fath, rydyn ni’n dod â'r cyfryngau atoch chi. Gallwch ofyn cwestiynau iddynt am ba fath o straeon maent yn chwilio amdanynt a dysgu sut gallwch chi deilwra'ch negeseuon i gael sylw gwerthfawr ar y cyfryngau i'ch sefydliad drwy eu sianelau.

Un ffordd gost-effeithiol o gyfleu eich neges o flaen cynulleidfa genedlaethol yw drwy'r cyfryngau. Os yw’n cael ei darlledu ar y newyddion neu’n cael sylw mewn deunydd ar-lein, gall cael eich straeon chwaraeon yn cael eu hadrodd gan newyddiadurwyr ac awduron eich helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd mawr a rhoi hwb i amlygrwydd gwaith eich sefydliad.

Ymunwch â'r sesiwn CLIP yma i siarad yn uniongyrchol â'r newyddiadurwyr sydd â'r allwedd i sicrhau bod eich straeon yn cael eu hadrodd.

Gweithwyr Proffesiynol y Cyfryngau

Graham Thomas – Podium Sports Media, Dai Sport a Sky Sports

Mae Graham Thomas yn newyddiadurwr a darlledwr chwaraeon sydd wedi gweithio yn y byd chwaraeon yng Nghymru ers dros 30 mlynedd, gan gynnwys gyda'r BBC a Sky Sports News. Mae hefyd yn gydsylfaenydd gwefan am chwaraeon yng Nghymru, Dai Sport - enillydd yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru 2020.

Yn gyn Newyddiadurwr y Flwyddyn Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru ac yn enillydd rhaglen BAFTA Cymru, mae wedi gweithio fel ymgynghorydd golygyddol gyda nifer o sefydliadau chwaraeon yng Nghymru, gan gynnwys Gymnasteg Cymru a Nofio Cymru.

Laurence Mora – Podium Sports Media a talkSPORT

Newyddiadurwr darlledu a Chyfarwyddwr Creadigol gyda 15 mlynedd o brofiad ym myd radio a theledu.

Treuliodd Laurence ddegawd yn darlledu newyddion chwaraeon cenedlaethol ac yn adrodd yn fyw o ddigwyddiadau mawr gyda Sky News Radio a Sky Sports Bulletins, gan gynnwys Llundain 2012, Wimbledon, Pencampwriaethau Athletau a Chwpan y Byd 2014.

Ers gweithio ar ei liwt ei hun yn 2015, mae Laurence wedi bod yn ohebydd pêl droed Cymru a Gorllewin Lloegr talkSPORT. Roedd hefyd yn gydsylfaenydd a Chyfarwyddwr Creadigol yn EatSleep Media, gan gynhyrchu cynnwys a rhaglenni dogfen sydd wedi ennill gwobrau ar gyfer cleientiaid fel Chwaraeon Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae’n angerddol am y rôl gadarnhaol y gall chwaraeon ei chwarae mewn cymdeithas gyda ffocws arbennig ar ferched mewn chwaraeon a chymunedau anodd eu cyrraedd.

Megan Feringa – Mirror

Yn awdur chwaraeon merched, mae Megan wedi bod yn gweithio i'r Mirror ers ychydig llai na blwyddyn.

Gydag angerdd dros chwaraeon merched, mae hi'n awyddus i gynyddu’r sylw y tu hwnt i bêl droed. Mae The Mirror wedi cynnwys straeon chwaraeon eraill am Fenyw Gryfaf y Byd yn ogystal â rhai darllediadau dartiau. Mewn rôl flaenorol gyda Wales Online, bu Megan yn rhoi sylw i rai o’r merched yn y byd chwaraeon yng Nghymru i gadw llygad amdanynt ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Tomi Lewis – Daily Post a North Wales Live

Ar hyn o bryd mae Tomi yn ohebydd chwaraeon i North Wales Live / Daily Post ond yn aml mae ei rôl yn ymestyn i feysydd eraill fel materion yn ymwneud â’r Gymraeg, gwleidyddiaeth ac adolygiadau tecawê. Gyda llygad am ohebu ac adrodd straeon, cafodd ei argymell ar gyfer y rôl hon ar ôl recordio podlediadau amrywiol, ymddangos ar raglenni pêl-droed y BBC ac S4C ar Deledu a Radio, yn ogystal â gwneud rhywfaint o waith darlledu gydag Eat Sleep Media a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Dean Jones – Sportin Wales

Yn sylfaenydd Route Media, Sportin Wales a Chyfarwyddwr Cyfrifon ar gyfer Capital South Wales, mae Dean wedi llwyddo i reoli ymgyrchoedd ar gyfer brandiau mawr y DU dros y degawd diwethaf.

Fel Cyfarwyddwr Cyfrifon Capital South Wales, mae Dean wedi rheoli ymgyrchoedd ar gyfer rhai o frandiau mwyaf y DU dros y 10 mlynedd diwethaf. Gan ymestyn allan o fyd radio, sefydlodd Dean Route Media yn 2018 gyda ffocws ar ddod â chyfleoedd hysbysebu i ardaloedd o Gymru.