Skip to main content

Cyfathrebu, Cinio a CLIP

Ymunwch â ni am ginio, gweithgaredd tîm llawn hwyl, a sesiwn cyfathrebu 101

Am y Digwyddiad

Fel cymuned o arweinwyr cyfathrebu o'r un anian, rydym eisiau darparu cefnogaeth i'n gilydd ar gyfer pob peth sy'n ymwneud â chyfathrebu. Y tro yma rydyn ni'n cyfuno rhai o'n hoff bethau i wneud hyn mor effeithiol â phosib - felly ymunwch â ni am ginio a chyfle i rwydweithio, ac wedyn gweithgaredd tîm llawn hwyl, a gorffen gyda sesiwn ar Gyfathrebu 101 i roi'r hyder i chi fynd yn ôl a chynllunio eich ymgyrchoedd. Byddwch hefyd yn cael cyfle i siarad â’r grŵp ac â’n cyflwynydd Bethan am unrhyw heriau y mae angen i chi eu goresgyn, neu gyfleoedd gorau posib rydych chi eisiau eu sicrhau yn eich sefydliad.

Am y cyflwynydd

Bydd y sesiwn yma'n cael ei gyflwyno gan Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Brandrocker. Gyda mwy na degawd o brofiad ym myd cysylltiadau cyhoeddus, mae Bethan wedi cynghori ac wedi arwain yn strategol mewn ymgyrchoedd ar draws sectorau gyda chleientiaid sy'n cynnwys Chwaraeon Cymru, B&Q, SUBWAY, Brecon Carreg, Pro Steel Engineering, igloo Regeneration a Heddlu Dyfnaint a Chernyw i enwi dim ond rhai. Bydd yn gweithio gyda chi i adnabod cyfleoedd yn y dyfodol yn ogystal â chynorthwyo gydag unrhyw heriau neu waith ymgyrchu yn y dyfodol y gallech fod yn cynllunio ar ei gyfer.

Beth fydd y sesiwn yn ei gynnwys

  • 12pm: Cinio (darperir gan Chwaraeon Cymru yn CGChC)
  • 12.30pm: Gweithgaredd (yn CGChC) – angen hyfforddwyr!
  • 1pm: Cyfathrebu Ymgyrchoedd 101
  • 2pm: Cefnogaeth Gyflym
  • 2.30pm: Diwedd