Skip to main content

Cysylltu â chymunedau drwy gyfathrebu - Rhan 2

  1. Hafan
  2. CLIP
  3. Cyfathrebu a Digidol
  4. Cysylltu â chymunedau drwy gyfathrebu - Rhan 2

Ceisio cysylltu â chymunedau sy'n anodd eu cyrraedd? Eisiau sicrhau eich bod yn cyfathrebu â phobl o ardaloedd difreintiedig?

Yn y sesiwn CLIP yma yng Nghlwb Pêl Droed Wrecsam, byddwn yn dysgu am y ffyrdd arloesol y mae sefydliadau eraill wedi'u defnyddio i gael y bobl leiaf actif yng Nghymru i symud a sut maen nhw wedi goresgyn rhwystrau er mwyn cyrraedd y rhai yn eu cynulleidfa darged.

"Os ydych chi bob amser yn gwneud yr hyn rydych chi wedi'i wneud erioed, fe fyddwch chi bob amser yn cael yr hyn sydd gennych chi erioed." — Henry Ford

Mae cyfathrebu â gwahanol gynulleidfaoedd yn cynnwys meddwl y tu allan i'r bocs ac addasu eich dull gweithredu i sicrhau y gallwch gyrraedd ac ymgysylltu â demograffeg benodol mewn ffordd sy'n addas iddyn nhw.

Am y sesiwn yma

Bydd y sesiwn yma’n rhannu profiadau a dysgu o gyfathrebu gyda phobl o ardaloedd gwledig, Cymry Cymraeg a phobl o gymunedau economaidd-gymdeithasol isel.

Y siaradwyr a’r panelwyr sydd wedi’u cadarnhau:

Gareth Power - Chwaraeon a Hamdden Actif Sir Gaerfyrddin

Yn dilyn 16 mlynedd yn gweithio yn y sector chwaraeon, mae Gareth wedi casglu cyfoeth o brofiad ym maes datblygu chwaraeon ac fel datblygwr hyfforddwyr a thiwtor. Ar ôl gweithio mewn amrywiaeth o swyddi gyda Chyngor Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac Athletau Cymru, mae Gareth ar hyn o bryd yn gweithio fel Cydlynydd Cymunedau Actif i Gyngor Sir Caerfyrddin lle mae’n arwain nifer o brosiectau sy’n ceisio mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Un prosiect o’r fath oedd ‘Beat the Street’, menter arloesol oedd yn ceisio trawsnewid tref gyfan yn un gêm anferth. Mae’n edrych ymlaen at rannu’r hyn a ddysgodd drwy gyflawni’r prosiect hwn a sut llwyddodd ef a’i dîm i gysylltu ac ymgysylltu â’u cymuned ar raddfa mor fawr.

Casia Wiliam - Crëwr cynnwys llawrydd

Awdur dwyieithog llawrydd sy’n ysgrifennu ac yn golygu testun, yn arwain ymgyrchoedd marchnata, ac yn paratoi cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol. Mae Casia wedi gweithio yn S4C, fel swyddog cyfryngau gydag Oxfam Cymru, Rheolwr Cysylltiadau Allanol ar draws Cymru ar gyfer y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau ac, yn fwy diweddar, fel Swyddog Cyfathrebu Cymunedol ar gyfer GwyrddNi, Sefydliad Gweithredu dros yr Hinsawdd yng Ngwynedd. Yn y swyddi hyn mae Casia wedi dysgu am bwysigrwydd teilwra negeseuon ar gyfer y gynulleidfa, a sicrhau bod unrhyw gyfathrebu’n gwbl glir.

Bydd yn rhannu llawer o’r gwersi mae hi wedi’u dysgu ar hyd y siwrnai gyda chi, yn enwedig mewn perthynas â’r Gymraeg, a chynnwys dwyieithog.

Paul Batcup - Chwaraeon Cymru

Mae Paul Batcup wedi gweithio yn y maes marchnata, cyfathrebu a digidol ers 20 mlynedd, ar draws sefydliadau sy’n cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Chyngor RhCT. Gan symud ymlaen o friff cysylltiadau cyhoeddus, mae bellach yn Arweinydd y Rhaglen Ddigidol yn Chwaraeon Cymru ac yn gyfrifol am ddatblygu map ffordd gwasanaeth digidol y sefydliad ac amrywiol brosiectau ar-lein.

Mae ei brofiad blaenorol yn cynnwys arwain cysylltiadau cyhoeddus adweithiol ar gyfer cleifion proffil uchel y GIG, gweithio ar ymgyrch farchnata i annog tenantiaid tai i bleidleisio i drosglwyddo tai cyngor i sefydliad nid-er-elw newydd, a sefydlu rhaglen CLIP Chwaraeon Cymru.

Mae meysydd arbenigedd Paul yn cynnwys ymchwil ac ymgynghori â defnyddwyr ar gyfer allbynnau cyfathrebu gwell, a ffordd o feddwl problem yn gyntaf v datrysiad yn gyntaf.

Ei gyfrinach gudd ydi ei fod mor hen fel ei fod yn arfer ffacsio ei ddatganiadau i'r wasg!

Amira Assami - EYST

Mae Amira yn gweithio fel Arweinydd Datblygu Prosiect Hawl i Addysg ar gyfer EYST - Tîm Cefnogi Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru - gan gefnogi pobl DLlE sy'n byw yng Nghymru. Hi hefyd yw Swyddog Marchnata a Chyfathrebu EYST. Cyn hyn, bu Amira yn gweithio am flynyddoedd lawer ym maes ymgysylltu â’r gymuned yn broffesiynol a gwirfoddol ac mae wedi gwirfoddoli ym maes trefnu cymunedol.

O’i phrofiad yn ymgysylltu â chymunedau amrywiol ledled Cymru ac, yn benodol, â’r rhai sy’n cael eu hystyried yn “anodd eu cyrraedd”, mae Amira wedi datblygu dealltwriaeth ddofn o’r gwahanol ddulliau cyfathrebu y dylid eu defnyddio i ymgysylltu a chysylltu â gwahanol gymunedau. Er ei fod yn swnio'n gymhleth efallai, mae'n llawer symlach nag yr ydych chi'n ei feddwl.

Eleri Roberts - RNLI

Mae Eleri wedi bod yn aelod o dîm cyfathrebu’r RNLI ers dros 13 o flynyddoedd. Yn rhan o dîm o ddau sy’n arwain a chefnogi cyfathrebu yr elusen yng Nghymru, Gogledd Orllewin Lloegr ag Ynys Manaw, mae hi wedi gweithio ar sawl ymgyrch â storïau proffil uchel yn rhanbarthol a chenedlaethol.

Ei phrif gyfrifoldeb yw arwain tîm o dros 50 o wirfoddolwyr y wasg (Lifeboat Press Officers) sydd wedi eu lleoli mewn gorsafoedd bad achub ar draws yr arfordir. Mae ganddi brofiad helaeth o gysylltu a datblygu perthynas gref gyda’i thîm er mwyn rhannu negeseuon a chadw enw da’r elusen ar draws pob cymuned.

Yn 2022-23 cymerodd gyfnod sabatical o’r RNLI i fanteisio ar swydd cyfnod mamolaeth Rheolwr Cyhoeddiadau a Chyfathrebu Urdd Gobaith Cymru. Yn ystod y cyfnod yma, arweiniodd Eleri gwaith y wasg prif ymgyrchoedd y Mudiad gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd 2023 Sir Gaerfyrddin, Neges Heddwch Gwrth-hiliaeth yr Urdd, a gwaith y wasg yn ystod ail hanner blwyddyn canmlwyddiant y Mudiad.

Mewngofnodwch i archebu eich lle