Ydych chi'n weithiwr marchnata neu gyfathrebu digidol proffesiynol sy'n ceisio dyrchafu'ch ymgyrchoedd i uchelfannau newydd? Ydych chi eisiau dysgu gan arbenigwr sydd â dealltwriaeth ddofn o'r cyfryngau cenedlaethol, cyflwyno ymgyrchoedd, cydweithredu ar draws diwydiannau gan gynnwys chwaraeon, a gweithio gyda sefydliadau, athletwyr, a thimau ar lefel genedlaethol?
Ymunwch â ni ar 18fed Ionawr rhwng 1 a 2pm i ddatgloi potensial llawn cydweithredu gyda'r Loteri Genedlaethol. Peidiwch â cholli’r cyfle unigryw yma sy’n addo trawsnewid siwrnai eich sefydliad.
Am y sesiwn yma
Bydd y sesiwn yma’n cynnwys:
Astudiaethau Achos: Sicrhau gwybodaeth real o bortffolio Oswyn o astudiaethau achos llwyddiannus. Cyfle i fod yn dyst uniongyrchol i bŵer trawsnewid ymdrechion cydweithredol gyda’r Loteri Genedlaethol, a sut maent wedi sbarduno negeseuon llawn cymhelliant ar draws platfformau amrywiol.
Gweithio gyda’r Loteri Genedlaethol: Darganfod y cyfleoedd cyffrous i weithio mewn partneriaeth â’r Loteri Genedlaethol yn eich ymdrechion marchnata. Deall yr hyn maent yn ei geisio mewn darpar gydweithredwyr a sut gall eich brand elwa o'r bartneriaeth ddeinamig hon.
Trafodaethau Rhyngweithiol: Cymryd rhan mewn trafodaethau bywiog gydag Oswyn a'ch cydweithwyr marchnata proffesiynol a chyfathrebu digidol. Archwilio llwybrau newydd ar gyfer cydweithredu a thaflu syniadau am gyfleoedd posibl a all ddyrchafu'ch ymgyrchoedd i uchelfannau newydd.
Mewn oes ddigidol sy'n gofyn am arloesedd a chreadigrwydd, mae'r wybodaeth a gewch chi o arbenigedd Oswyn yn ddigyffelyb. Cofleidiwch y cyfle unigryw yma i gysylltu â gweithwyr proffesiynol o’r un anian, ennyn ysbrydoliaeth, a datgelu strategaethau a all fynd â’ch ymgyrchoedd i lwyfan cenedlaethol.
Bachwch eich lle nawr a byddwch yn rhan o'r digwyddiad fforwm yma fydd yn newid y gêm! Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi yno.
Am y cyflwynydd
Mae’n bleser gennym ni gyflwyno awr ar-lein sy’n cynnwys Oswyn Hughes, Pennaeth Ymgyrchoedd y Loteri Genedlaethol. Gyda chyfoeth o brofiad yn ysgogi negeseuon dylanwadol ar raddfa fawr, bydd Oswyn yn rhannu gwybodaeth amhrisiadwy i greu cydweithredu llwyddiannus y mae cynulleidfaoedd ledled y wlad yn gallu uniaethu ag o.