Skip to main content

Geo-Farchnata a Chyfathrebu â’i Ffocws ar Leoliad

  1. Hafan
  2. CLIP
  3. Cyfathrebu a Digidol
  4. Geo-Farchnata a Chyfathrebu â’i Ffocws ar Leoliad

Yn galw ar bob gweithiwr marchnata a chyfathrebu digidol proffesiynol! Ydych chi’n awyddus i fynd â neges eich sefydliad at y bobl iawn, yn y lle iawn, ac ar yr amser iawn? Eisiau gwybod sut i farchnata'n benodol ar gyfer pobl o Ynys Môn a sut gallwch chi deilwra hyn i dargedu pobl o Gaerffili? Mae gennym ni ddigwyddiad cyffrous ar-lein yn arbennig ar eich cyfer chi!

Peidiwch â cholli'r cyfle yma i wella eich gallu geo-farchnata a chysylltu â gweithwyr proffesiynol tebyg i chi ar draws y byd chwaraeon yng Nghymru. Bachwch eich lle nawr a marcio eich calendr ar gyfer 5 Rhagfyr, 10am-12pm.

Am y sesiwn yma

Yn y sesiwn yma:

Astudiaethau Achos: Cyfle i blymio i enghreifftiau real o ymgyrchoedd geo-farchnata llwyddiannus a dysgu sut cawsant eu gweithredu i gyflawni canlyniadau nodedig. Er enghraifft, dychmygwch glwb pêl fasged lleol yn defnyddio "Hysbysebion Ymwybyddiaeth Leol" Facebook i dargedu darpar aelodau o fewn radiws penodol i'w clwb corfforol, gan eu hudo â gostyngiad arbennig i ddenu traffig traed.

Cyfryngau Cymdeithasol Wedi’u Geo-Dargedu: Archwilio sut mae platfformau cyfryngau cymdeithasol yn cynnig adnoddau fel "Geodagio" a "Hashnodau Seiliedig ar Leoliad," gan alluogi i fusnesau ymgysylltu â chymunedau lleol. Er enghraifft, gallai sgwad hyfforddi Team GB ddefnyddio nodwedd geodagio Instagram i arddangos lluniau ohonynt yn eu cyrchfannau hyfforddi, gan gysylltu â chefnogwyr sydd â diddordeb yn y lleoliadau hynny.

Hysbysebu Symudol yn Seiliedig ar Leoliad: Dysgu am effeithiolrwydd hysbysebion symudol seiliedig ar leoliad, fel "Geo-Ffensio" a "Thechnoleg Ffagl". Gallai sefydliad datblygu chwaraeon ddefnyddio geoffensio i anfon cynigion personol at bobl pan fyddant yn mynd i mewn i ardal benodol yn eu rhanbarth, gan eu hannog i ddarganfod mwy.

Digwyddiadau a Nawdd All-lein: Darganfod sut gellir targedu digwyddiadau all-lein a nawdd at gymunedau penodol. Gallai brand chwaraeon noddi marathon lleol i gysylltu â defnyddwyr sy'n ymwybodol o iechyd mewn dinas benodol.

SEO Daearyddol: Cael gwybodaeth am optimeiddio eich gwefan ar gyfer chwiliad lleol, gan ei gwneud yn haws i ddarpar gyfranogwyr ddod o hyd i'ch cyfleoedd chwaraeon ar-lein. Gallai tîm rygbi ymgorffori geiriau allweddol penodol i leoliad i raddio'n uwch mewn canlyniadau chwilio pan fydd pobl yn chwilio am gyfleoedd rygbi yn eu hardal.

Codau QR: Archwilio sut gellir gosod codau QR yn strategol mewn lleoliadau ffisegol i ddarparu cynnwys neu gynigion penodol i leoliad. Efallai y bydd llyfrgell yn cynnwys codau QR ar eu bwrdd i gynnig gwybodaeth fanylach i ymwelwyr ar eu ffonau clyfar.

Am y cyflwynydd

Mae Total Guide To. yn arbenigwyr mewn geo-farchnata ac adnoddau a dulliau cyfathrebu sydd â’u ffocws ar leoliad, a byddant yn rhannu eu gwybodaeth, eu hawgrymiadau a’u triciau amhrisiadwy yn ystod y sesiwn dwy awr yma. Paratowch i ddarganfod pŵer targedu manwl gywir a strategaethau cyfathrebu effeithiol a all helpu eich cynulleidfa ddymunol i uniaethu â’ch brand.

Os ydych chi'n weithiwr marchnata proffesiynol profiadol neu newydd ddechrau yn y byd cyfathrebu digidol, mae'r digwyddiad yma’n addo cyflwyno gwybodaeth a strategaethau y gellir eu gweithredu a all fynd ag ymdrechion marchnata eich sefydliad i uchelfannau newydd.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi yn y digwyddiad ac yn cymryd y cam cyntaf tuag at gyrraedd eich cynulleidfa darged yn effeithiol.

CYFRINN: GEOFENCING