Skip to main content

Gweithio gyda dylanwadwyr a hyrwyddwyr cymunedol (a chefnogaeth un i un gan arbenigwyr yn y diwydiant)

  1. Hafan
  2. CLIP
  3. Cyfathrebu a Digidol
  4. Gweithio gyda dylanwadwyr a hyrwyddwyr cymunedol (a chefnogaeth un i un gan arbenigwyr yn y diwydiant)

Yn ôl adroddiad Social Sheperd yn 2023, mae 93% o farchnatwyr wedi defnyddio Marchnata Dylanwadwyr, sy'n golygu mai dim ond 7% sydd eto i roi cynnig ar y strategaeth hon fel ffordd i farchnata eu buddion i ddarpar gwsmeriaid newydd. Mae sawl rheswm cadarnhaol dros ddefnyddio marchnata dylanwadwyr, fel codi ymwybyddiaeth o frand a chyrraedd neu ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd neu wedi’u targedu.

Mae'r sesiwn CLIP hybrid yma’n ymwneud â chlywed am brofiadau bywyd real dylanwadwyr a hyrwyddwyr cymunedol gyda chynulleidfaoedd o wahanol faint, a deall sut gallant ychwanegu gwerth at eich ymgyrchoedd a'ch strategaethau hirdymor o'u gwneud yn effeithlon. Yn dilyn y drafodaeth banel fywiog, bydd tîm o arbenigwyr wrth law i gefnogi a chynghori gyda rhai o’ch heriau a’ch cyfleoedd byw ar sail un i un.

Cofiwch nad oes arnoch chi angen cyllideb fawr i weithio gyda dylanwadwr; mae'n ymwneud â chreu ymgyrch mae eich cynulleidfaoedd targed yn gallu uniaethu â hi a dewis y person cywir i gydweithio ag ef.

Rydyn ni wrth ein bodd i gael Mica Moore, Hannah The Runner a Rachel Argyle o Our Welsh Life gyda ni.

Bydd trafodaeth banel a sesiwn Holi ac Ateb yn cael eu cynnal 1pm-2:15pm, ac wedyn bydd cyfle cymhorthfa un i un i chi ddod â heriau neu gwestiynau gyda chi i'w gofyn i'n tîm o arbenigwyr. Nid yw hyn yn orfodol ond rydym yn argymell eich bod yn defnyddio’r amser yma i ofyn am gyngor ar unrhyw bryderon byw neu gyfleoedd a allai fod gennych gydag arbenigwyr a chyfdweithwyr yn yr ystafell. Sylwch mai dim ond i'r cyfranogwyr wyneb yn wyneb fydd y gymhorthfa un i un yma ar gael, gyda'r elfen hybrid yn dod i ben ar ddiwedd sesiwn holi ac ateb y panel.

Am drafodaeth y sesiwn panel

Byddwch yn dysgu am:

  • Pam mae marchnata dylanwadwyr yn ddefnyddiol
  • Pam ei bod yn bwysig ei gael yn iawn
  • Y gwahanol fathau o ddylanwadwyr, e.e. micro-ddylanwadwyr, dylanwadwyr gyda nifer fawr o ddilynwyr, athletwyr, hyrwyddwyr cymunedol
  • Arfer gorau o ran sut i weithio gyda hwy a tharo deuddeg gyda’r cynnig
  • Enghreifftiau da o lwyddiant
  • Risgiau a sut i liniaru yn eu herbyn

Am y gymhorthfa un i un (2:15pm – 3pm)

Wrth law i ateb eich cwestiynau penodol, unigol fydd:

  • Rachel Argyle – Cyfryngau cymdeithasol
  • Mark Oakman – Marchnata digidol / datblygu a rheoli gwefan
  • Bethan Lewis – Cynllunio cyfathrebu strategol a chysylltiadau cyhoeddus

Am aelodau'r panel

Rachel Argyle

Mae Rachel Argyle yn gyn-newyddiadurwr sydd bellach yn gweithio fel Golygydd Dirnadaeth a Datblygu Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Reach plc. Nid yw’n ddieithr i’r byd chwaraeon, gan mai ei rôl flaenorol oedd Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol Chwaraeon Cymru. Mae hi ar gyfnod mamolaeth ar hyn o bryd ac mae ganddi ddau o blant - Alys a Jac - yn ogystal â dau fabi ffwr direidus iawn - Bonnie a Clyde! Yn ei hamser hamdden, sefydlodd y cyfrif Instagram @OurWelshLife i gofnodi llefydd cyfeillgar i deuluoedd fynd a phethau i’w gwneud ledled Cymru – yn benodol Caerdydd (lle mae hi’n byw nawr) ac Ynys Môn (ei bro enedigol). Ei nod nesaf yw datblygu gwefan ourwelshlife.com

Hannah Phillips

Mae Hannah Phillips, sy'n fwy adnabyddus fel Hannah the Runner, yn fam, rhedwr cymdeithasol, awdur, siaradwr cyhoeddus, ymdrochwr dŵr oer ac ymgyrchydd iechyd meddwl. Mae gan Hannah dair merch, B, Kiki a Zia a gŵr amyneddgar iawn o’r enw Scott. Mae hi wedi ysgrifennu dau lyfr rhedeg poblogaidd ar Amazon, No Run Intended a Run Intended ac mae hi ar hyn o bryd yn ysgrifennu llyfr ar sobrwydd. Mae Hannah yn ymfalchïo mewn creu gofod diogel, cynhwysol, gwych i ferched gael eu hysgogi, eu hysbrydoli a’u grymuso drwy fudiad o’r enw Wonderful Women.

Mica Moore

Mae Mica Moore yn sbrintiwr a chystadleuydd bobsled dros Brydain. Cystadlodd dros Gymru yn y ras gyfnewid 4 × 100 metr yng Ngemau’r Gymanwlad 2014 yn Glasgow, yr Alban, a chystadlodd yn y digwyddiad bobsled dwy fenyw yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2018 yn Pyeongchang, De Corea. Ers 2018, mae Mica wedi cwblhau gradd meistr mewn darlledu chwaraeon ac wedi wynebu her newydd, gan symud i sedd flaen y bobsled a dod yn beilot. Ei nod nesaf yw cystadlu yng Ngemau Olympaidd Milan 2026!

Mustafa Mohamed

Mae gan Mustafa brofiad helaeth o sefydliadau cymunedol ar lawr gwlad ac mae wedi bod yn gweithio yn ein hardaloedd lleol ni am y 10 mlynedd diwethaf. Sefydlodd Glwb Pêl Droed Tiger Bay, gan ysbrydoli mwy na 400 o bobl ifanc i gymryd rhan mewn pêl droed a defnyddio hyn i gynyddu lefelau cyrhaeddiad o fewn y gymuned. Drwy'r gwaith yma mae wedi mynd â phobl ifanc i 3 gwlad wahanol yn Ewrop ac mae ganddo rwydwaith helaeth o wleidyddion, penaethiaid ac entrepreneuriaid sy'n ei wneud yn amhrisiadwy i F4SC.

Mae F4SC yn sefydliad datblygu a hyfforddi chwaraeon ar lawr gwlad sy’n defnyddio pŵer trawsnewidiol chwaraeon i addysgu a grymuso pobl ifanc yng nghymunedau mwyaf amrywiol Cymru.

Katie Owen

Yn enedigol o gymoedd De Cymru, mae Katie Owen yn DJ a Chyflwynydd sy'n byw yn Llundain. Bu’n DJ yn ddiweddar yng Nghwpan y Byd 2022, gan roi hwb i'r torfeydd ar ran y Cyngor Prydeinig a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru. A hithau bron yn rhugl yn y Gymraeg, gofynnwyd iddi hefyd weithredu fel llysgennad dros Gymru gan arddangos iaith, hanes a diwylliant Cymru ac ymddangosodd ar deledu rhyngwladol ar gyfer rhwydweithiau fel BBC News World. Hi hefyd oedd gohebydd pêl droed Capital South Wales, gan roi’r newyddion diweddaraf i gefnogwyr a rhannu'r awyrgylch yn ystod y twrnamaint. Drwy gydol ei hymweliad, bu hefyd yn ffilmio cynnwys cymdeithasol ar gyfer TalkSport a JD Sports.