Skip to main content

Sut i sicrhau gwell dealltwriaeth o'ch defnyddwyr

  1. Hafan
  2. CLIP
  3. Cyfathrebu a Digidol
  4. Sut i sicrhau gwell dealltwriaeth o'ch defnyddwyr

Er mwyn dylunio system a darpariaeth chwaraeon sy'n gweithio'n wirioneddol i'n defnyddwyr ni, rhaid i ni ddatblygu empathi. Er mwyn cael empathi, rhaid i ni ddeall defnyddwyr. Er mwyn deall defnyddwyr, rhaid i ni wneud ymchwil sy'n ymchwilio i feddwl a phrofiadau ein cynulleidfa darged, gan ddatgelu eu hanghenion, eu cymhellion a'r hyn sy’n eu poeni.

“Mae empathi wrth galon dylunio; heb ddeall yr hyn y mae eraill yn ei weld, yn ei deimlo ac yn ei brofi, mae dylunio yn dasg ddibwrpas.” - Tim Brown

Bydd y sesiwn CLIP yma’n dechrau archwilio byd ymchwil defnyddwyr a phrofiad defnyddwyr, gan bwysleisio ei bwysigrwydd, amlinellu gwendidau, ac archwilio technegau amrywiol i'n galluogi i wir ddeall ac felly darparu ar gyfer ein defnyddwyr.