Skip to main content

Cyfres Ddysgu: Dydd Iau 13eg Mai

  1. Hafan
  2. CLIP
  3. Cyfres Ddysgu Mai 2021
  4. Cyfres Ddysgu: Dydd Iau 13eg Mai

Dydd Iau 13eg Mai

Arweinyddiaeth Gynhwysol gydag Amanda Bennett, Fair Play Ltd

Recordiad byw o'r sesiwn ar gael yn fuan...

Ymunwch ag Amanda ar gyfer y weminar 60 munud ryngweithiol yma i wneud y canlynol:  

  • Ailedrych ar iaith ac ystyr cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • Meithrin dealltwriaeth o sut mae anghydraddoldeb ac eithrio’n amlygu eu hunain mewn sefydliadau
  • Deall yr achos busnes dros arweinyddiaeth amrywiol yn well
  • Edrych ar nodweddion ac ymddygiadau arweinyddiaeth gynhwysol
  • Rhannu eich profiadau ac arfer gorau o sefydliadau cynhwysol
     

Sylwer: Mae Amanda yn cynnal dau sesiwn gyda chyfyngiad o 25 o bobl ym mhob sesiwn. 

Plant ar y Llysoedd Tenis yn chwarae Tenis

Cyflwyniad i Sgiliau Adlewyrchu gyda Sue Blight, First Ascent 

Yn y sesiwn yma, rhannodd Sue rai technegau myfyrio allweddol a chyflwynodd sut gallant wella perfformiad eich gwaith yn ogystal â chynyddu eich siawns o gyflawni nodau bywyd allweddol. Cyflwynodd Sue dechnegau a fydd yn eich rhoi mewn sefyllfa dda drwy gydol eich gyrfa. Gellir defnyddio'r technegau a rannwyd hefyd wrth i chi fynychu digwyddiadau'r Gyfres Ddysgu yn ystod mis Mai, er mwyn manteisio i'r eithaf ar eich dysgu gan ein siaradwyr rhagorol! 

Plant ar y Llysoedd Tenis yn chwarae Tenis

Seibiant gyda’r Farwnes Tanni Grey-Thompson

Recordiad byw o'r sesiwn ar gael yn fuan...

Yn y sesiwn yma, cafodd Chwaraeon Cymru sgwrs gyda'r Farwnes Tanni Grey-Thompson. Siaradodd Tanni am ei phrofiadau yn ystod y cyfyngiadau symud. Siaradodd am y newidiadau bach a'r newidiadau sylweddol sydd eu hangen i wneud gwahaniaeth wrth i ni ddod allan o'r pandemig. Ar ddiwedd y sesiwn, rhoddwyd cyfle i'r gynulleidfa ofyn cwestiynau Tanni.