Skip to main content

Cyfres Ddysgu: Dydd Iau 20fed Mai

  1. Hafan
  2. CLIP
  3. Cyfres Ddysgu Mai 2021
  4. Cyfres Ddysgu: Dydd Iau 20fed Mai

Dydd Iau 20fed Mai

Sgroliwch i lawr y dudalen i ddod o hyd i'r sesiynau byw.

Arweinyddiaeth Gynhwysol gydag Amanda Bennett, Fair Play Ltd

Recordiad byw o'r sesiwn ar gael yn fuan...

Ymunwch ag Amanda ar gyfer y weminar 60 munud ryngweithiol yma i wneud y canlynol:  

  • Ailedrych ar iaith ac ystyr cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • Meithrin dealltwriaeth o sut mae anghydraddoldeb ac eithrio’n amlygu eu hunain mewn sefydliadau
  • Deall yr achos busnes dros arweinyddiaeth amrywiol yn well
  • Edrych ar nodweddion ac ymddygiadau arweinyddiaeth gynhwysol
  • Rhannu eich profiadau ac arfer gorau o sefydliadau cynhwysol
     

Os hoffech chi gael copi o’r dec sleidiau a ddefnyddiwyd yn ystod y sesiwn yma, cysylltwch â claire.ewing@sport.wales
 

Tîm pêl-rwyd yn dathlu

The Thinking Environment®; Cael Lleisiau ac Ymennydd yn yr ystafell gyda Steph Vidal-Hall 

Yn y sesiwn yma, cyflwynodd Steph brofiad ymarferol o adnoddau syml i greu Thinking Environment® ac i gynnal cyfarfodydd sy'n cynnwys pawb yn yr ystafell, lle gellir clywed a gweithredu ar feddylfryd a safbwyntiau amrywiol. 

Cyfle i weld y sesiwn yma

Os hoffech chi gael copi o’r dec sleidiau a ddefnyddiwyd yn ystod y sesiwn yma, cysylltwch â claire.ewing@sport.wales

Ar gyfer darllen pellach mae Steph yn argymell:

Llyfrau:

Nancy Kline, More Time to Think,

Nancy Kline, The Promise That Changes Everything

Magaret Heffernan, Beyond Measure

Sgyrsiau:

Amy Edmondson, Building a psychologically safe workplace, sgwrs TED 

Steph Vidal-Hall Coaching for Creatives, YouTube 

Tîm pêl-rwyd yn dathlu

Adborth fel Adnodd ar gyfer Twf gyda Trudy Wright

Mae adborth medrus yn arf arwain pwerus ar gyfer twf a datblygiad. Yn y sesiwn yma mae Trudy yn egluro'r gwahaniaeth rhwng beirniadaeth ac adborth, gan ystyried sut i fynd ati i ofyn am, yn ogystal â rhoi adborth, a hefyd mae wedi cyflwyno protocol adborth a fydd yn gweithio bob amser.

Ar gyfer darllen pellach mae Trudy yn argymell:

Fideos:

LeeAnn Renniger: The secret to giving great feedback (cyfres Ted – 5 munud)

Simon Sinek: Feedback is a Gift (9 munud)

Llyfr:

Manager as Coach, Jenny Rogers gyda Karen Whittleworth ac Andrew Gilbert

Os hoffech chi gael copi o’r dec sleidiau a ddefnyddiwyd yn ystod y sesiwn yma, cysylltwch â claire.ewing@sport.wales

Tîm pêl-rwyd yn dathlu

Cynllunio Hyblyg gydag Andy Brogan

Mewn byd cymhleth ac anrhagweladwy, gall aros ar drywydd "y cynllun" wneud i ni golli gafael ar realiti; yn brysur yn cyflawni'r pethau oedd yn ymddangos yn briodol ar un adeg ond heb fod mor addas i'r diben mwyach.

Felly sut mae cadw ein dull o gynllunio a’n cynlluniau'n hyblyg ac yn ymatebol; yn abl i addasu wrth i realiti ddatgelu ei hun ond gan roi digon o strwythur a bwriad i bobl gydlynu ac i sefydliadau edrych ar bethau yn y tymor hir?

Yn y sesiwn byr yma edrychodd Andy ar rai dulliau syml o gynllunio sy'n galluogi pobl i weithredu'n glir ac yn bwrpasol, gan eu helpu i barhau i fod yn hyblyg a chael eu harwain gan ddysgu. 

Os hoffech chi gael copi o’r dec sleidiau a ddefnyddiwyd yn ystod y sesiwn yma, cysylltwch â claire.ewing@sport.wales

Tîm pêl-rwyd yn dathlu

Parodrwydd i Berfformio gyda Chris Shambrook ac Adam Morris

"Dydi pethau byth yn mynd yn haws; dim ond eich bod chi'n perfformio'n well. Yn ogystal â bod yn feddylfryd hanfodol i athletwyr, mae hwn hefyd yn agwedd a all ysgogi dulliau pwerus unigol a chasgliadol o ymdrin â pherfformiad i bawb sy'n ymwneud â cheisio llwyddiant mewn chwaraeon. Bydd y sesiwn yma’n gyfle i chi ymestyn yr un lefel o baratoi fforensig ag a ddarperir i athletwyr i chi'ch hun. Ydych chi'n barod i berfformio?"

Os hoffech chi gael copi o’r dec sleidiau a ddefnyddiwyd yn ystod y sesiwn yma, cysylltwch â claire.ewing@sport.wales

Ar gyfer darllen pellach mae Chris yn argymell:

Challenging conditions are where high performers love to be 

Os hoffech chi gael mynediad at yr adnodd Planet K2 Performance Pie Ready Reckoner e-bostiwch [javascript protected email address]

Tîm pêl-rwyd yn dathlu