Skip to main content

Beth yw Barn Cymru – Y Diweddaraf gan Draciwr Gweithgarwch Cymru

  1. Hafan
  2. CLIP
  3. Gwybodaeth, Ymychwil a Materion Cyhoeddus
  4. Beth yw Barn Cymru – Y Diweddaraf gan Draciwr Gweithgarwch Cymru

Mae Traciwr Gweithgarwch Cymru yn arolwg chwarterol sy'n cofnodi arferion chwaraeon poblogaeth Cymru. Gan gynhyrchu cipolwg o gyfranogiad Cymru a’r galw am chwaraeon, mae’r arolwg hefyd yn archwilio ystyriaethau allweddol ynghylch meysydd fel gwirfoddoli, hyder a materion mawr sy’n effeithio ar wneud penderfyniadau, fel yr argyfwng costau byw.

Mae hwn yn gyfle i gael y cipolwg diweddaraf ar sut mae’r cyhoedd yng Nghymru yn meddwl am chwaraeon, yn ogystal â’ch cyfle chi i siapio’r arolwg yn y dyfodol a’r cwestiynau rydyn ni’n eu gofyn.

Gallech ddefnyddio'r wybodaeth hon i siapio unrhyw waith sydd i ddod, dylanwadu ar wneud penderfyniadau a theilwra eich cyfathrebu.

Cyflwynwyr 

Owen Hathway – Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus

Owen sy’n gyfrifol am brosiectau ymchwil allweddol Chwaraeon Cymru yn ogystal â’r dull o ddefnyddio’r ddirnadaeth honno ar gyfer datblygu polisi a phenderfyniadau buddsoddi. Mae ei waith yn Chwaraeon Cymru yn cynnwys cydlynu’r Arolwg Chwaraeon Ysgol a goruchwylio’r broses o ddosbarthu arian, fel Cronfa Cymru Actif a’r Grant Arbed Ynni.

Fel rhan o’r cylch gwaith hwn, mae hefyd yn Gyd-Gadeirydd Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS), sefydliad a gydsefydlodd gyda phob un o’r 8 prifysgol yng Nghymru. Cyn ymuno â Chwaraeon Cymru 5 mlynedd yn ôl, Owen oedd yn arwain y gwaith polisi a materion cyhoeddus ar gyfer undeb athrawon mwyaf y DU yng Nghymru.

Emma Henwood - Rheolwr Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus 

Mae Emma yn gweithio i Chwaraeon Cymru i ymgysylltu ag Aelodau’r Senedd (ASau) ar chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar draws y sbectrwm polisi. Mae hi wedi dal sawl rôl polisi a materion cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys gweithio yn y Senedd. Pan gafodd Senedd Cymru bwerau deddfu newydd, roedd Emma yn creu polisi’r gwrthbleidiau, ac yn cysylltu â Gweinidogion y Llywodraeth a gweision sifil ar newidiadau deddfwriaethol.

Steven Coll - Savanta | Cyfarwyddwr Cyswllt

Mae Steven yn arwain rhaglenni ymchwil sy'n cynnwys tracio ar raddfa fawr agweddau ac ymddygiad y cyhoedd, ymchwiliadau i gaffael a chadw chwaraewyr a ffactorau sy'n dylanwadu ar gyfranogiad ieuenctid mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae'n arbenigo mewn gweithio gyda chleientiaid o'r sector Chwaraeon a gweithgarwch corfforol lle mae'n gweithio'n agos gyda chyrff rheoli gan gynnwys Chwaraeon Cymru, Sport England, yr FA, yr RFU a Chymdeithas Baralympaidd Prydain.

Alex Farrell - Savanta | Ymgynghorydd

Mae Alex wedi gweithio ar raglenni ymchwil fel tracio ar raddfa fawr agweddau ac ymddygiad y cyhoedd tuag at chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn ogystal ag arolygon barn o brofiadau pobl anabl mewn cyfleusterau chwaraeon. Yn nhîm y sector cyhoeddus yn Savanta, mae’n gweithio’n agos gyda nifer o gleientiaid yn y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol fel Chwaraeon Cymru, Sport England ac ukactive.