Skip to main content

Economeg Ymddygiadol ar gyfer Dirnadaeth

  1. Hafan
  2. CLIP
  3. Gwybodaeth, Ymychwil a Materion Cyhoeddus
  4. Economeg Ymddygiadol ar gyfer Dirnadaeth

Pam?

Nid oes unrhyw bwynt gwneud unrhyw ymchwil marchnad neu ddadansoddiad cwsmeriaid oni bai ei fod yn sbarduno newid. Ond dim ond os bydd ein pobl yn datblygu sgiliau dylanwadu gwych y bydd hynny'n digwydd. Y lle i ddechrau yw gwneud yn siŵr ein bod ni’n deall y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y sefydliadau rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn iawn, ac wedyn dod o hyd i ffyrdd o ddatblygu perthnasoedd hirdymor, dibynadwy gyda hwy.

Beth?

Mae’r gweithdy ar-lein 4 awr hwn yn galluogi’r cyfranogwyr i edrych ar y canlynol:

  • Egwyddorion economeg ymddygiadol
  • Y ffordd mae'r egwyddorion hyn yn effeithio ar benderfyniadau defnyddwyr a chorfforaethol
  • Adnoddau syml ymarferol ar gyfer gwthio'r rhai rydym yn ceisio dylanwadu arnynt

Pwy?

Mae’r gweithdy hwn yn cael ei arwain gan Jane Woolley. Roedd Jane yn Bennaeth Dirnadaeth Cwsmeriaid gyda’r Underground yn Llundain ar un adeg a chyn hynny yn Gyfarwyddwr Cyswllt yn adran defnyddwyr BMRB International. Mae Jane yn un o ymgynghorwyr ac arweinwyr gweithdai mwyaf profiadol yr Insight Management Academy.

  • Mae cyfranogwyr diweddar y gweithdy hwn yn cynnwys Carlsberg, DFS, Lucozade Ribena Suntory a Transport for London

Pris: £10 y pen | Lleodd ar gael: 25