Rydym yn aml yn treulio amser yn cynhyrchu tystiolaeth newydd i helpu ein sefydliadau i ganolbwyntio mwy ar yr unigolyn a chael eu sbarduno gan wybodaeth. Rydym yn chwilio am ddata, gwybodaeth, ffeithiau a ffigurau newydd ac yn dod i gasgliadau cyn symud ymlaen i'r prosiect nesaf.
Ond mae’r sefydliadau mwyaf llwyddiannus yn ceisio ymddwyn yn debycach i ‘ffermwyr gwybodaeth’. Mae’r sefydliadau hyn yn paratoi’r pridd, yn hau eu hadau, yn meithrin eu gwybodaeth ac yn cynaeafu o’u cnwd o wybodaeth am gwsmeriaid a’r farchnad am flynyddoedd lawer. Drwy uno'r dotiau ar draws prosiectau niferus a gweld y darlun mawr, gallant ddylanwadu ar benderfyniadau corfforaethol mawr ac ymateb i ddigwyddiadau mewn ffordd fwy hyblyg.
Beth?
Yn y gweithdy ar-lein 4 awr yma:
- rydym yn edrych ar y gwahaniaeth rhwng hela data a ffermio gwybodaeth
- rydym yn asesu'r ddirnadaeth y bydd ei hangen ar eich sefydliad ac yn nodi bylchau y bydd angen i chi eu llenwi
- rydym yn edrych ar y prosesau y gallech eu rhoi ar waith i grisialu a chategoreiddio gwybodaeth
- rydym yn ystyried rôl systemau rheoli gwybodaeth a phwysigrwydd datblygu diwylliant gwybodaeth
Pris: £10 y pen Lleodd ar gael: 25