Skip to main content

Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 1 – Mai 2020

  1. Hafan
  2. Traciwr Gweithgareddau Cymru
  3. Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 1 – Mai 2020

Cyfwelodd Savanta ComRes 1,007 o oedolion o Gymru (16+ oed) ar-lein rhwng 8fed Mai a 12fed Mai 2020. Pwysolwyd y data i fod yn gynrychioliadol yn ddemograffig o oedolion 16+ oed Cymru yn ôl rhywedd, oedran a'r aelwydydd a amcangyfrifir sydd â phlant o dan 16 oed.

PA MOR ACTIF YW OEDOLION YNG NGHYMRU AR HYN O BRYD?

  • Mae mwy na hanner (51%) yr oedolion yn teimlo bod y sefyllfa bresennol wedi effeithio ar eu trefn ymarfer.
  • Mae oedolion hŷn a'r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn fwy tebygol o ddweud bod eu trefn wedi cael ei heffeithio.
  • Dywedodd mwy nag un o bob pump oedolyn (22%) nad oeddent wedi gwneud unrhyw weithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Fodd bynnag, dywedodd 59% eu bod wedi gwneud gweithgaredd ar 3 diwrnod neu fwy (ac roedd un o bob tri wedi gwneud gweithgaredd ar bum diwrnod neu fwy).
  • Mae merched yn fwy tebygol o fod wedi gwneud gweithgarwch corfforol ar 1-4 diwrnod yn ystod yr wythnos ddiwethaf, tra bo dynion yn fwy tebygol o fod wedi gwneud ymarfer corff ar bum diwrnod neu fwy.
  • Mae'r canfyddiadau'n awgrymu nad yw lefelau net gweithgarwch corfforol wedi newid yn sylweddol (dywed 34% o oedolion eu bod yn gwneud mwy ar hyn o bryd na chyn cyfyngiadau COVID-19, tra bod 33% yn dweud eu bod yn gwneud llai).
  • Fodd bynnag, mae amrywiadau sylweddol o fewn rhai grwpiau demograffig. Mae cynnydd net yn y lefelau gweithgarwch ymhlith y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch (+7 pwynt canran), ond mae gostyngiad net ymhlith y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is (-4 pwynt canran).
  • Yn yr un modd, er bod cynnydd net mewn lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion iau 16-34 oed (+15 pwynt canran), ar gyfer y rhai 35-54 oed a 55+ oed, mae'n ymddangos bod gostyngiad net (-2 a -5 pwynt canran yn y drefn honno).
  • Yn gyffredinol, mae'r rhai sydd wedi gwneud gweithgarwch yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn dweud eu bod yn gwneud mwy o weithgarwch nag mewn wythnos nodweddiadol cyn cyfyngiadau COVID-19. Mae hyn yn wir am bob categori o weithgareddau yr adroddwyd arnynt.

PA MOR ACTIF YW PLANT YNG NGHYMRU AR HYN O BRYD?

  • Dywed 9% o oedolion nad yw eu plant yn gwneud unrhyw weithgarwch corfforol nac ymarfer ar ddiwrnod nodweddiadol ar hyn o bryd. Ar gyfer y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, y ffigur yw 14%.
  • Dywed 26% bod eu plant yn gwneud mwy o weithgarwch ers cyfyngiadau COVID-19, tra bod 35% yn dweud bod eu plant yn gwneud llai. Yn gyffredinol, mae hyn yn awgrymu gostyngiad net o 9 pwynt canran.
  • Mae'n ymddangos mai'r plant hynny o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is sy'n profi'r gostyngiadau mwyaf (SES ISEL: Mwy 23% Llai 36% = -13 pwynt canran SES UCHEL: Mwy 28% Llai 35% = -7 pwynt canran)

PA FATHAU O WEITHGAREDDAU MAE OEDOLION YN EU GWNEUD? 

Y tri gweithgaredd mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd yw:

  1. Cerdded ar gyfer hamdden (59%). Mae'r math hwn o weithgaredd yn fwy poblogaidd ymhlith y grŵp oedran 55+.
  2. Gweithgaredd cartref/ffitrwydd/ymarfer (NID ar-lein) 19%. Mae'r math hwn o weithgaredd yn fwy poblogaidd ymhlith pobl 16-34 oed.
  3. Rhedeg neu Loncian 14% / Gweithgaredd cartref a welwyd ar-lein 14%. Mae'r mathau hyn o weithgarwch yn fwy poblogaidd ymhlith pobl 16-34 oed

 

  • Youtube oedd y platfform mwyaf poblogaidd ar gyfer dod o hyd i ymarferion ar-lein. Fe wnaeth dwy ran o dair (66%) o'r rhai a ddilynodd ddosbarthiadau ymarfer ar-lein ddod o hyd iddynt ar youtube.
  • Fe wnaeth 3% o'r rhai a ddilynodd ddosbarthiadau ar-lein ddod o hyd iddynt drwy wefan Chwaraeon Cymru (fodd bynnag, oherwydd maint bach y sampl, efallai nad yw’r amcangyfrif hwn yn fanwl gywir).
  • Mae 30% o bobl wedi gwneud rhyw fath o weithgarwch corfforol yn y cartref yn ystod yr wythnos ddiwethaf (ac mae hanner y bobl 16-34 oed wedi gwneud rhyw fath o weithgarwch corfforol yn y cartref yn ystod yr wythnos ddiwethaf).
  • Mae merched yn fwy tebygol na dynion o fod wedi 'cerdded ar gyfer hamdden', wedi dilyn 'dosbarthiadau ymarfer cartref ar-lein' ac wedi cymryd rhan mewn 'chwarae/gemau actif anffurfiol yn y tŷ neu'r ardd'. Roedd dynion yn fwy tebygol o fod wedi 'beicio ar gyfer hamdden' na merched.

GYDA PHWY MAE OEDOLION YN BOD YN ACTIF?

  • Yn y rhan fwyaf o achosion mae pobl yn gwneud gweithgarwch ar eu pen eu hunain. Yr eithriad yma yw chwarae/gemau actif anffurfiol yn y tŷ neu'r ardd – gwnaeth 42% o'r bobl a wnaeth y gweithgaredd yma hynny gydag oedolion eraill, a gwnaeth 49% y gweithgaredd gyda phlentyn neu blant.
  • Cerdded ar gyfer hamdden yw'r gweithgaredd sydd fwyaf tebygol o fod wedi'i wneud gydag oedolion eraill (gwnaeth 45% o'r bobl a gerddodd ar gyfer hamdden hynny gydag oedolion eraill). Chwarae/gemau actif anffurfiol yw'r gweithgaredd sydd fwyaf tebygol o fod wedi'i wneud gyda phlant (gwnaeth 49% y gweithgaredd hwn gyda phlant).

SUT MAE'R SEFYLLFA BRESENNOL YN EFFEITHIO AR WIRFODDOLI OEDOLION MEWN CHWARAEON A GWEITHGARWCH CORFFOROL?

  • Dywed 30% o oedolion eu bod yn debygol o wirfoddoli yn ystod y 12 mis nesaf i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
  • Pobl 16-34 oed yw'r rhai mwyaf tebygol o ddweud eu bod yn bwriadu gwirfoddoli mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

I BA RADDAU MAE'R AMODAU PRESENNOL YN GALLUOGI NEU'N ATAL CHWARAEON A GWEITHGARWCH CORFFOROL YNG NGHYMRU I FFYNNU?

Cymhelliant a Gwerthoedd:

  • Mae 64% o oedolion yng Nghymru yn dweud ei bod yn bwysig iddynt ymarfer yn rheolaidd (mae dynion yn fwy tebygol na merched o ddweud ei bod yn bwysig iddynt ymarfer yn rheolaidd).
  • Mae 62% o oedolion yn teimlo ei bod yn bwysicach bod yn actif yn ystod yr achosion o’r coronafeirws o gymharu ag adegau eraill (mae merched, oedolion iau, a'r rhai o raddau economaidd-gymdeithasol uwch yn fwy tebygol o ddweud hyn).
  • Mae dau o bob tri (67%) oedolyn yn ymarfer er mwyn helpu i reoli eu hiechyd corfforol yn ystod yr achosion.
  • Mae 62% o oedolion yn ymarfer i helpu i reoli eu hiechyd meddwl yn ystod yr achosion (mae merched, oedolion iau a'r rhai o raddau economaidd-gymdeithasol uwch yn fwy tebygol o ddweud hyn)
  • Mae 56% o oedolion yn colli'r mathau o weithgareddau yr oeddent yn gallu eu gwneud cyn yr achosion (mae merched, oedolion iau a'r rhai o raddau economaidd-gymdeithasol uwch yn fwy tebygol o ddweud hyn)
  • Mae 43% o oedolion wedi cael eu hannog i ymarfer gan ganllawiau'r Llywodraeth (mae merched, oedolion iau a'r rhai o raddau economaidd-gymdeithasol uwch yn fwy tebygol o ddweud hyn).
  • Mae 44% o oedolion yn teimlo'n euog am beidio ag ymarfer mwy yn ystod yr achosion (mae merched, oedolion iau a'r rhai o raddau economaidd-gymdeithasol uwch yn fwy tebygol o ddweud hyn).

Hyder a Sgiliau:

  • Dywed 70% o oedolion yng Nghymru bod ganddynt y gallu i fod yn actif (mae'r rhai dros 55+ oed yn llai tebygol o ddweud hyn).
  • Mae bron i hanner (48%) yr oedolion yn poeni am adael y cartref i ymarfer neu fod yn actif (mae merched ac oedolion iau yn fwy tebygol o ddweud hyn).
  • Dywed 88% o oedolion eu bod yn ddigon da i ymarfer heddiw (mae oedolion hŷn a'r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn llai tebygol o ddweud eu bod yn ddigon da i ymarfer).

 

Cyfle ac Adnoddau/Mynediad:

  • Mae 69% o oedolion yn teimlo bod ganddynt gyfle i fod yn gorfforol actif (mae'r rhai 35+ oed yn llai tebygol o deimlo bod ganddynt gyfle i fod yn actif. Mae dynion hefyd ychydig yn llai tebygol o ddweud bod ganddynt gyfle i fod yn actif).
  • Mae dwy ran o dair o oedolion yng Nghymru (66%) yn cytuno bod ganddynt fwy o amser yn awr i fod yn gorfforol actif (mae merched, oedolion iau a'r rhai o raddau economaidd-gymdeithasol uwch yn fwy tebygol o ddweud hyn).
  • Mae bron i hanner yr oedolion (49%) yng Nghymru wedi dod o hyd i ffyrdd newydd o fod yn actif ers yr achosion (mae merched, oedolion iau a'r rhai o raddau economaidd-gymdeithasol uwch yn fwy tebygol o ddweud hyn).
  • Mae gan y mwyafrif helaeth o oedolion (91%) fynediad i ardd neu eu gofod awyr agored eu hunain y gallant ei ddefnyddio ar gyfer ymarfer (mae oedolion iau ychydig yn llai tebygol o ddweud hyn).

Y Profiad:

  • Mae 56% o oedolion yng Nghymru yn teimlo bod ymarfer yn bleserus a boddhaol ar hyn o bryd (mae merched a phobl o oedran hŷn yn llai tebygol o ddweud eu bod yn teimlo bod ymarfer yn bleserus ac yn foddhaol).
  • Nid yw 40% o oedolion yn teimlo bod ymarfer ar eu pen eu hunain yn bleserus (mae merched, oedolion iau, a'r rhai o raddau economaidd-gymdeithasol is yn fwy tebygol o ddweud hyn).

SUT MAE HYN YN CYMHARU AG AGWEDD AC YMDDYGIAD OEDOLION YN LLOEGR?

Gofynnwyd yr un cwestiynau i oedolion ledled Lloegr yn ystod y cyfnod hwn (drwy Sport England). Dyma rai canfyddiadau ar y lefel uchaf sy'n astudio’r gwahaniaethau rhwng oedolion yng Nghymru a Lloegr:

  • Mae'n ymddangos bod y rhaniad rhwng y rhywiau wedi'i wrthdroi. Yng Nghymru, mae cyfran uwch o ferched (36%) na dynion (32%) wedi dweud eu bod wedi gwneud mwy o ymarfer neu weithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf o gymharu ag wythnos nodweddiadol cyn cyfyngiadau Covid-19. Ond yn Lloegr, yn y don hon a'r rhan fwyaf o wythnosau eraill, dywedodd cyfran uwch o ddynion (36%) na merched (32%) yr un peth. Nid yw'n werth dim bod y gwahaniaethau yr wythnos hon yn ddangosol yn hytrach nag yn arwyddocaol.
  • Mae gweithgarwch yn y cartref yn llai poblogaidd yng Nghymru. Yn Lloegr, dywedodd mwy na dwy ran o bump (43%) o oedolion eu bod wedi gwneud gweithgaredd yn y cartref yn ystod yr wythnos ddiwethaf, o gymharu â llai na thraean (30%) yng Nghymru. Roedd 17% o'r rhai yn Lloegr a ddywedodd eu bod wedi gwneud gweithgaredd cartref yn ystod yr wythnos ddiwethaf wedi dweud eu bod wedi gwneud hynny gyda phlentyn neu blant. Mae hyn yn cymharu â dim ond 10% yng Nghymru
  • Mae'n ymddangos bod gan oedolion yn Lloegr fwy o gymhelliant i ymarfer. Mae cyfran uwch o oedolion Lloegr nag oedolion Cymru’n cytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif, ei bod yn bwysig ymarfer yn rheolaidd, eu bod yn teimlo bod ganddynt gyfle i fod yn gorfforol actif, yn teimlo bod ymarfer yn bleserus a boddhaol ac yn teimlo'n euog pan nad ydynt yn ymarfer.
  • Mae canllawiau'r Llywodraeth yn annog ychydig mwy o bobl yn Lloegr nag yng Nghymru i fod yn actif. Dywed 47% o oedolion Lloegr eu bod wedi cael eu hannog i ymarfer gan ganllawiau'r Llywodraeth, ychydig yn fwy na'r 43% sy'n dweud yr un peth yng Nghymru. Gallai hon fod yn elfen ddiddorol i'w monitro o gofio bod y negeseuon cysylltiedig â Covid-19 yn wahanol yng Nghymru ac yn Lloegr bellach.