Mae Chwaraeon Cymru wedi ymuno â Savanta ComRes i gael gwybodaeth am arferion ac ymddygiad gweithgarwch y genedl yn ystod Pandemig y Coronafeirws.
Mae’r arolygon, a gynhaliwyd ar adegau gwahanol yn ystod y pandemig, yn rhoi cipolwg ar sut effeithiodd gwahanol gyfyngiadau ar weithgarwch corfforol a chwaraeon, a hefyd agwedd pobl Cymru at ymarfer yn ystod ac ar ôl y cyfyngiadau symud.
Mae’r data wedi cael eu pwysoli i fod yn ddemograffig gynrychioliadol o oedolion 16+ oed Cymru yn ôl rhywedd, oedran a’r amcangyfrif o gartrefi gyda phlant dan 16 oed.
Uchafbwyntiau’r Arolygon
Mae rhai o ganfyddiadau’r arolygon yn cynnwys:
- Fe wnaeth y cyfranogiad cyffredinol mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru gadw at yr un lefelau yn fras yn ystod y cyfyngiadau symud, er nad oes unrhyw chwaraeon strwythuredig yn digwydd.
- Roedd plant, oedolion hŷn (55+ oed) a'r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn tueddu i gymryd rhan mewn llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y cyfyngiadau symud nag yr oeddent wedi'i wneud yn flaenorol.
- Fel rheol, mae tua 10% o'r boblogaeth o oedolion yn gwirfoddoli mewn chwaraeon bob blwyddyn, ond yn ystod y cyfyngiadau symud dywedodd 30% eu bod eisiau gwirfoddoli mewn chwaraeon.
- Pan ailagorodd cyfleusterau hamdden, dywedodd y rhan fwyaf o bobl a oedd yn eu defnyddio eu bod yn teimlo'n gyfforddus yn gwneud hynny.
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch insightteam@sport.wales.