Skip to main content

Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 5 – Chwefror 2022

  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Traciwr Gweithgareddau Cymru
  4. Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 5 – Chwefror 2022

Cyfwelodd Savanta ComRes 1,037 o oedolion o Gymru (16+ oed) ar-lein rhwng 18fed Chwefror a 21ain Chwefror 2022. Pwysolwyd y data i fod yn ddemograffig gynrychioliadol o oedolion Cymru yn ôl rhywedd, oedran, rhanbarth, graddfa gymdeithasol, a'r amcangyfrif o aelwydydd sydd â phlant o dan 16 oed. Mae Savanta ComRes yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac mae’n cadw at ei reolau.

Canfyddiadau Allweddol 

  • Dywedodd 82% o oedolion eu bod yn ddigon iach i wneud ymarfer corff yn ystod yr amser hwn. Dyma’r ffigur isaf a welwyd yn ystod y pandemig (o uchafbwynt o 88% ym mis Mai 2020).
  • Yn ystod y rownd hon o’r arolwg dywedodd bron i chwarter yr oedolion (24%) eu bod wedi gwneud gweithgarwch ar ‘dim un diwrnod’ yn ystod yr wythnos flaenorol. Dyma’r ffigur uchaf a welwyd drwy’r arolwg hwn ar unrhyw adeg yn ystod y pandemig.
  • Mae cyfran yr oedolion sy’n ymgymryd â gweithgarwch ar ‘3 diwrnod neu fwy’ hefyd yr isaf a welwyd yn ystod y pandemig, gyda llai na hanner yr oedolion (47%) yn nodi’r lefel hon o weithgarwch yn ystod wythnos yr arolwg.
  • Er bod cyfran debyg o bobl wedi nodi eu bod wedi cymryd rhan mewn 'dosbarthiadau campfa, ffitrwydd neu ymarfer corff', a 'gweithgareddau ar-lein' fel yr arsylwyd ym mis Awst 2021, mae gweithgareddau eraill wedi gweld dirywiad: 'Cerdded', 'rhedeg neu loncian', 'gweithgareddau yn y cartref sy’n cael eu gwneud all-lein', 'nofio', 'beicio' a 'chwarae / gemau actif anffurfiol' sydd â'r cyfraddau cyfranogiad isaf a welwyd ar unrhyw adeg yn ystod y pandemig. Dylid nodi, fodd bynnag, bod y ffigurau hyn yn adlewyrchu wythnos yr arolwg a oedd yn cyd-daro â Storm Eunice - adroddwyd cyfraddau uwch ar draws yr holl weithgareddau hyn am y tri mis blaenorol.
  • Roedd 19% o oedolion wedi defnyddio campfa dan do neu ganolfan ffitrwydd yn ystod yr wythnos flaenorol, tra bo 16% wedi defnyddio pwll nofio dan do. Dyma'r cyfraddau uchaf a adroddwyd yn ystod y pandemig hyd yn hyn. Roedd y rhai a oedd wedi defnyddio’r cyfleusterau hyn hefyd yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny yn fwy nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y pandemig (roedd 92% yn teimlo’n gyfforddus yn defnyddio campfa / canolfan ffitrwydd, tra bo 91% yn teimlo’n gyfforddus yn defnyddio pwll nofio dan do).
  • Er bod cyfran debyg o oedolion (67%) yn teimlo ei bod yn bwysig gwneud ymarfer corff yn rheolaidd fel y gwelwyd yn flaenorol, dim ond 22% o oedolion a ddywedodd eu bod wedi cael eu hannog i wneud ymarfer corff gan ganllawiau’r Llywodraeth – y gyfran isaf a welwyd drwy gydol y pandemig (43% ym mis Mai 2020).
  • 'Cerdded' (75%), 'nofio' (36%), 'beicio' (28%), 'campfa', 'dosbarthiadau ffitrwydd neu ymarfer corff' (26%) a 'rhedeg / loncian' (24%) oedd y gweithgareddau yr oedd oedolion yn fwyaf tebygol o ddweud yr hoffent eu gwneud yn rheolaidd yn y dyfodol.
  • Er bod cyfran is o oedolion yn teimlo'n hyderus ynghylch cymryd rhan o ganlyniad i'r rhaglen frechu barhaus (32%), mae'r gyfran sy'n poeni am adael y cartref i fod yn gorfforol actif wedi gostwng hefyd ac mae bellach yn 22%.
  • Mae cyfleusterau dan do, gan gynnwys 'pyllau nofio', 'campfeydd', 'neuaddau chwaraeon', 'stiwdios', 'cyrtiau dan do', a 'rinciau sglefrio' i gyd wedi gweld cynnydd yn lefelau hyder oedolion ers mis Hydref 2020. Fodd bynnag, gwelodd cyfleusterau awyr agored, gan gynnwys 'cyrtiau awyr agored', caeau glaswellt, cyrsiau golff, traciau athletau a llethrau sgïo, ddirywiad mewn lefelau hyder.
  • Tra bo 65% o oedolion yn teimlo eu bod yn cael y cyfle i fod yn actif, mae llai na hanner yn teimlo bod nifer digonol o gyfleusterau yn eu hardal leol (47%); bod y cyfleusterau hyn o ansawdd rhagorol (37%); eu bod yn fforddiadwy (41%); a'u bod yn gallu cyrraedd y rhai sy'n apelio atynt (48%).
  • Mae’r mwynhad o ymarfer corff a adroddwyd yn ystod y rownd hon o'r arolwg yn is nag a welwyd yn flaenorol. Dywedodd 57% o oedolion eu bod yn teimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad iddynt (o 60% ym mis Awst 2021) a dywedodd 42% eu bod yn teimlo bod gwneud ymarfer corff ar eu pen eu hunain yn bleserus - y gyfran isaf a welwyd drwy gydol y pandemig hyd yn hyn.
  • Yn ystod wythnos yr arolwg yma dywedodd llai o oedolion eu bod yn gwneud ymarfer corff i reoli eu hiechyd corfforol (57% o gymharu â 71% ym mis Hydref 2020) neu eu hiechyd meddwl (53% o gymharu â 65% ym mis Awst 2021).
  • Roedd oedolion actif yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn ‘hapus’ ac yn ‘fodlon gyda’u bywydau’ na’r rhai a oedd yn llai actif.

Cyd-destun

  • Mae 7% o oedolion yn hunanynysu ar hyn o bryd. Y ffigurau isaf a welwyd ar unrhyw adeg yn ystod y pandemig (29% ym mis Mai 2020)
  • O'r oedolion hynny mewn cyflogaeth, mae 28% yn gweithio o gartref yn bennaf ar hyn o bryd. Roedd mwyafrif yr oedolion hyn (75%) yn teithio i'r gwaith yn bennaf cyn y pandemig.
  • Dywedodd 82% o oedolion eu bod yn ddigon iach i wneud ymarfer corff ar yr amser yma. Dyma’r ffigur isaf a welwyd yn ystod y pandemig (o uchafbwynt o 88% ym mis Mai 2020).

 

Cyfranogiad

  • Mae 29% o oedolion yn teimlo bod y pandemig wedi cael effaith gadarnhaol ar eu trefn ymarfer corff tra bo 42% yn anghytuno â'r datganiad hwn. Dynion, oedolion hŷn, y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a’r rhai sydd â chyflwr neu salwch hirsefydlog yw’r rhai sydd fwyaf tebygol o deimlo bod y pandemig wedi effeithio’n negyddol ar eu trefn ymarfer corff.

 

Yn ystod y rownd hon o’r arolwg dywedodd bron i chwarter yr oedolion (24%) eu bod wedi gwneud gweithgarwch ar ‘0 diwrnod’ yn ystod yr wythnos flaenorol. Dyma’r ffigur uchaf a welwyd ar unrhyw adeg yn ystod oes yr arolwg hwn ac mae’n uwch na’r ffigur a welwyd yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf ym mis Mai 2020 (22%).

 

  • Mae cyfran yr oedolion sy’n gwneud gweithgarwch ar ‘3 diwrnod neu fwy’ hefyd yr isaf a welwyd yn ystod y pandemig, gyda llai na hanner yr oedolion (47%) yn nodi’r lefel hon o weithgarwch yn ystod yr wythnos hon.
  • Er bod cyfran debyg o bobl wedi dweud eu bod wedi cymryd rhan mewn ‘dosbarthiadau campfa, ffitrwydd neu ymarfer corff’, ‘gweithgareddau ar-lein’ a ‘chwaraeon tîm’ yn ystod yr wythnos flaenorol, mae gweithgareddau eraill wedi gweld gostyngiad yn ystod y rownd hon o’r arolwg. Gwelodd ‘cerdded’, ‘rhedeg neu loncian’, ‘gweithgareddau all-lein yn y cartref’, ‘nofio’, ‘beicio’ a ‘chwarae / gemau actif anffurfiol’ y cyfraddau cyfranogiad isaf a welwyd ar unrhyw adeg yn ystod y pandemig.
  • Mae'r siart uchod yn dangos cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn gweithgarwch yn ystod yr wythnos flaenorol, o gymharu â'r gyfran a fu'n gwneud gweithgarwch yn rheolaidd yn ystod y tri mis blaenorol. Ar gyfer pob gweithgaredd mae'r gyfran a gwblhawyd yn rheolaidd yn ystod y tri mis blaenorol yn uwch. Mae hyn yn awgrymu nad oedd y lefelau gweithgarwch yn ystod wythnos yr arolwg yn gynrychiadol o’r tri mis blaenorol a gallai fod yn adlewyrchiad o’r tywydd garw a gafwyd yn ystod yr wythnos hon o ganlyniad i Storm Eunice.
  • Dywedodd 36% o oedolion eu bod wedi defnyddio cyfleuster dan do yn ystod yr wythnos flaenorol. Mae hyn yn gynnydd o'r 22% a welwyd ym mis Hydref 2020, a'r 32% a arsylwyd ym mis Awst 2021. Roedd oedolion hŷn a'r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn llai tebygol o fod wedi defnyddio cyfleuster dan do.
  • Roedd 19% o oedolion wedi defnyddio campfa dan do neu ganolfan ffitrwydd yn ystod yr wythnos flaenorol. Mae hyn yn gynnydd o'r 12% a welwyd ym mis Hydref 2020, a'r 17% a arsylwyd ym mis Awst 2021. Roedd oedolion hŷn a'r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn llai tebygol o fod wedi defnyddio campfa dan do neu ganolfan ffitrwydd.
  • Roedd 16% o oedolion wedi defnyddio pwll nofio dan do yn ystod yr wythnos flaenorol. Mae hyn yn gynnydd o'r 9% a welwyd ym mis Hydref 2020, a'r 15% a arsylwyd ym mis Awst 2021. Roedd oedolion hŷn yn llai tebygol o fod wedi dweud eu bod yn defnyddio pwll nofio.

Gwirfoddoli

  • Dywed 12% o oedolion eu bod yn gwirfoddoli mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar hyn o bryd. Mae oedolion iau a’r rheini o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch yn fwy tebygol o fod yn gwirfoddoli mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol na’u cymheiriaid.
  • Dywed 6% o oedolion eu bod ar hyn o bryd wedi rhoi’r gorau i wirfoddoli mewn chwaraeon neu wedi rhoi’r gorau iddi dros dro oherwydd pandemig COVID-19.
  • Dywed 31% o oedolion eu bod yn bwriadu gwirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y deuddeg mis nesaf.

Cymhelliant a Gwerthoedd

  • Dywed dwy ran o dair o oedolion (67%) ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd. Mae’r ffigur hwn wedi aros yn gymharol gyson yn ystod y pandemig. Mae'r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a'r rhai sydd â chyflwr neu salwch hirsefydlog yn llai tebygol o ddweud hyn. Nid yw'n syndod bod oedolion sy'n dweud ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd hefyd yn fwy tebygol o fod yn actif.
  • Dywed 22% o oedolion eu bod wedi cael eu hannog i wneud ymarfer corff gan ganllawiau'r llywodraeth. Mae’r ffigur hwn wedi gostwng yn raddol ers mis Mai 2020 pan oedd y ffigur yn 43%, bron ddwywaith y ffigur presennol. Mae dynion, oedolion iau, y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch a’r rhai sydd â chyflwr neu salwch hirsefydlog yn fwy tebygol o ddweud hyn.
  • 'Cerdded' (75%), 'nofio' (36%), 'beicio' (28%), ‘dosbarthiadau campfa, ffitrwydd neu ymarfer corff' (26%) a 'rhedeg / loncian' (24%) oedd y gweithgareddau yr oedd oedolion fwyaf tebygol o ddweud yr hoffent eu gwneud yn rheolaidd yn y dyfodol.
  • Ar draws yr holl weithgareddau (lle roedd y meintiau sampl yn caniatáu) roedd oedolion o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch yn fwy tebygol o ddweud yr hoffent wneud y gweithgaredd yn y dyfodol, o gymharu â'r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.
  • Roedd dynion yn fwy tebygol na merched o ddweud yr hoffent wneud chwaraeon tîm, beicio, rhedeg / loncian a golff, ond roedd merched yn fwy tebygol na dynion o ddweud yr hoffent gerdded, gwneud gweithgareddau ar-lein yn y cartref, nofio a mynychu'r gampfa / dosbarthiadau ffitrwydd.
  • Ar gyfer bron pob gweithgaredd (lle roedd maint y sampl yn caniatáu) roedd oedolion iau yn fwy tebygol o ddweud yr hoffent wneud y gweithgaredd yn y dyfodol, o gymharu ag oedolion hŷn. Yr eithriad yma oedd yn achos cerdded, lle roedd oedolion hŷn yn fwy tebygol o ddweud hyn.
  • Roedd oedolion heb unrhyw gyflwr iechyd hirsefydlog yn fwy tebygol o ddweud yr hoffent gerdded a rhedeg, o gymharu â'r rhai â chyflwr iechyd hirsefydlog.
  • Roedd dynion yn fwy tebygol na merched o ddweud bod ‘hyfforddiant ar gyfer ras neu gystadleuaeth’ yn eu hysgogi i gymryd rhan.
  • Roedd oedolion hŷn yn fwy tebygol nag oedolion iau o ddweud bod ‘mynd allan o’r tŷ’ a ‘treulio amser ffrindiau’ yn eu hysgogi i gymryd rhan, ond roedd oedolion iau yn fwy tebygol o ddweud bod ‘teimlo’n hyderus’, ‘datblygu sgiliau’ a ‘chwrdd â ffrindiau newydd’ yn eu hysgogi i gymryd rhan.
  • Roedd y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch yn fwy tebygol na’u cymheiriaid o ddweud mai ‘teimlo’n dda’ oedd eu cymhelliant dros gymryd rhan.

 

Hyder

  • Mae 55% o oedolion yn teimlo bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif. Roedd dynion, oedolion hŷn, y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch, a’r rhai heb unrhyw gyflwr neu salwch hirsefydlog yn fwy tebygol o ddweud hyn. Roedd yr oedolion hyn hefyd yn llawer mwy tebygol o fod yn gorfforol actif.
  • Mae 22% o oedolion yn poeni ar hyn o bryd am adael eu cartref i wneud ymarfer corff. Dyma'r gyfran isaf a welwyd yn ystod unrhyw gam o'r pandemig ac mae’n ostyngiad sylweddol o'r 48% a welwyd yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf ym mis Mai 2020. Roedd oedolion iau a'r rhai â chyflwr neu salwch hirsefydlog yn fwy tebygol o adrodd am hyn. Roedd yr oedolion hynny a oedd yn poeni am adael y cartref yn llai tebygol o fod yn actif.
  • Dywedodd 32% o oedolion eu bod yn teimlo'n fwy hyderus o ganlyniad i'r rhaglen frechu barhaus. Mae hyn yn ostyngiad ar y gyfran a welwyd ym mis Mawrth 2021 (45%) a mis Awst 2021 (45%). Roedd dynion, y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch a’r rhai heb gyflwr hirsefydlog yn fwy tebygol o ddweud hyn. Roedd yr oedolion hynny a oedd yn teimlo'n fwy hyderus hefyd yn debygol o fod yn fwy actif.
  • Mae'r siart uchod yn dangos canran yr oedolion sy'n teimlo'n hyderus i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol mewn gwahanol leoliadau ar hyn o bryd. Ym mis Hydref 2020 (yn yr wythnos cyn y ‘cyfnod atal byr’), roedd oedolion yn teimlo’n fwyaf hyderus yn cymryd rhan mewn ‘parciau’ (61%) ac ar ‘gyrtiau awyr agored’ (36%) a ‘chaeau glaswellt’ (35%). Ym mis Chwefror 2022, y tri lleoliad lle dywedodd oedolion eu bod yn teimlo’n fwyaf hyderus oedd: ‘parciau’ (66%), ‘pyllau nofio’ (43%) a ‘champfeydd’ (35%).
  • Mae cyfleusterau dan do, gan gynnwys 'pyllau nofio' (43%), 'campfeydd' (35%), neuaddau chwaraeon (27%), stiwdios (25%), cyrtiau dan do (25%), a rinciau iâ (17%) i gyd wedi gweld cynnydd yn lefelau hyder oedolion ers mis Hydref 2020.
  • Mae cyfleusterau awyr agored, gan gynnwys ‘cyrtiau awyr agored’ (28%), caeau glaswellt (30%), cyrsiau golff (21%), traciau athletau (19%) a llethrau sgïo (11%) i gyd wedi gweld dirywiad mewn lefelau hyder ymhlith oedolion ers mis Hydref 2020.
  • Dywedodd oedolion o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch eu bod yn fwy hyderus ynghylch cymryd rhan ym mhob lleoliad.
  • Ym mhob achos bron, roedd oedolion iau a'r rhai heb unrhyw gyflwr neu salwch hirsefydlog yn fwy hyderus na'u cymheiriaid hefyd. Yr eithriad yma yw yn achos parciau, lle roedd y rhai 35-54 oed yn fwyaf tebygol o deimlo'n hyderus.
  • Dywedodd dynion eu bod yn fwy hyderus yn cymryd rhan na merched ar draws y mwyafrif o leoliadau. Yr eithriad yma oedd yn achos stiwdios lle'r oedd merched yn fwy tebygol o deimlo'n hyderus na dynion. Nid oedd llawer o wahaniaeth mewn hyder rhwng dynion a merched mewn perthynas â phyllau nofio a champfeydd.

Cyfleoedd ac Adnoddau

  • Mae 65% o oedolion yn teimlo eu bod yn cael y cyfle i fod yn actif. Mae’r ffigur hwn wedi aros yn gymharol sefydlog drwy gydol y pandemig (uchafbwynt o 69% ym mis Mai 2020). Nid yw'n syndod bod oedolion sy'n dweud eu bod yn cael y cyfle i fod yn actif hefyd yn fwy tebygol o fod yn actif. Mae merched, y rhai 35+ oed, y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, a’r rhai sydd â chyflwr neu salwch hirsefydlog yn llai tebygol o deimlo eu bod yn cael y cyfle i fod yn actif.
  • Dywed 39% o oedolion eu bod wedi dod o hyd i ffyrdd newydd o fod yn actif ers dechrau'r pandemig. Nid yw'n syndod bod yr oedolion hyn hefyd yn debygol o adrodd am lefelau uwch o weithgarwch. Roedd dynion, oedolion hŷn, y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a’r rhai â chyflwr neu salwch hirsefydlog yn llai tebygol o ddweud eu bod wedi dod o hyd i ffyrdd newydd o fod yn actif.
  • Mae 31% o oedolion yn ‘cytuno’ bod ganddynt fwy o amser nawr nag a oedd cyn dechrau pandemig Covid-19, tra bo 39% yn ‘anghytuno’. Roedd yr oedolion hyn yn fwy tebygol o fod yn actif ar o leiaf un diwrnod yn ystod yr wythnos flaenorol. Mae merched, y rhai 35+ oed, a’r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn llai tebygol o deimlo bod ganddynt fwy o amser nawr i fod yn actif.
  • Mae 47% o oedolion yn teimlo bod nifer digonol o gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal. Mae merched a’r rhai sydd â chyflwr neu salwch hirsefydlog yn llai tebygol o deimlo bod nifer digonol o gyfleusterau. Roedd yr oedolion hynny a nododd nifer digonol o gyfleusterau yn fwy tebygol o fod yn actif.
  • Mae 37% o oedolion yn teimlo bod y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal o ansawdd rhagorol. Mae merched, y rhai 35+ oed, y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a’r rhai sydd â chyflwr neu salwch hirsefydlog yn llai tebyg o adrodd hyn. Roedd yr oedolion hynny a nododd gyfleusterau rhagorol yn fwy tebygol o fod yn actif.
  • Mae 41% o oedolion yn teimlo bod y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal yn fforddiadwy. Mae’r oedolion hynny sy’n ystyried bod cyfleusterau’n fforddiadwy hefyd yn fwy tebygol o fod yn actif. Mae merched, oedolion hŷn, y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a’r rhai sydd â chyflwr neu salwch hirsefydlog yn llai tebygol o deimlo bod cyfleusterau yn eu hardal yn fforddiadwy.
  • Mae 48% o oedolion yn teimlo eu bod yn gallu cyrraedd y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol sy'n apelio atynt. Roedd y rhai 55+ oed, y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a’r rhai â chyflwr neu salwch hirsefydlog yn llai tebygol o adrodd hyn.
  • Roedd yr oedolion a ddywedodd eu bod yn methu cyrraedd y cyfleusterau sy'n apelio atynt yn fwy tebygol o fod yn segur neu'n actif ar un diwrnod yn unig yn ystod yr wythnos flaenorol.

 

Y Profiad

  • O blith yr oedolion hynny a ddefnyddiodd ‘gampfa / canolfan ffitrwydd dan do’ yn ystod yr wythnos flaenorol, dywedodd 92% eu bod yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny. Mae hyn yn gynnydd o'r 82% a arsylwyd ym mis Hydref 2020 a'r 86% a arsylwyd ym mis Awst 2021. Roedd y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a'r rhai â chyflwr neu salwch hirsefydlog yn llai tebygol o deimlo'n gyfforddus.
  • O blith yr oedolion hynny a ddefnyddiodd ‘bwll nofio dan do’ yn ystod yr wythnos flaenorol, dywedodd 91% eu bod yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny. Mae hyn yn gynnydd o'r 81% a arsylwyd ym mis Hydref 2020 a'r 86% a arsylwyd ym mis Awst 2021. Roedd oedolion iau a'r rhai â chyflwr neu salwch hirsefydlog yn llai tebygol o deimlo'n gyfforddus.
  • Dywed 57% o oedolion eu bod yn gweld ymarfer corff yn bleserus a’i fod yn rhoi boddhad iddynt. Mae'r ffigur hwn wedi gostwng ychydig o'r 60% ym mis Awst 2021. Mae merched, y rhai 55+ oed, y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, a'r rhai â chyflwr neu salwch hirsefydlog yn llai tebygol o ddweud eu bod yn teimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad iddynt. Mae cysylltiad clir rhwng mwynhad a lefelau gweithgarwch, gyda'r rhai mwyaf actif yn llawer mwy tebygol o ddweud eu bod yn gweld ymarfer yn bleserus a’i fod yn rhoi boddhad iddynt.
  • Dywedodd 42% o oedolion eu bod yn teimlo bod gwneud ymarfer corff ar eu pen eu hunain yn bleserus. Dyma’r gyfran isaf a welwyd ar unrhyw adeg yn ystod y pandemig yn yr arolwg hwn. Mae merched, y rhai 16-34 oed, y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch a’r rhai sydd â chyflwr neu salwch hirsefydlog yn llai tebygol o ddweud eu bod yn teimlo bod gwneud ymarfer corff ar eu pen eu hunain yn bleserus. Mae’r oedolion hynny sy’n cael pleser wrth wneud ymarfer corff ar eu pen eu hunain yn fwy tebygol o adrodd am lefelau uwch o weithgarwch, fel y gwelir yn y siart isod.

 

Iechyd a Lles

  • Dywedodd 57% o oedolion eu bod yn gwneud ymarfer corff i reoli eu hiechyd corfforol ar yr amser yma - dyma’r ffigur isaf a welwyd yn ystod y pandemig (71% ar ei uchaf ym mis Hydref 2020). Roedd y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch a’r rhai heb gyflwr corfforol neu feddyliol hirsefydlog yn fwy tebygol o ddweud hyn.
  • Dywedodd 53% o oedolion eu bod yn gwneud ymarfer corff i reoli eu hiechyd meddwl ar yr amser yma - dyma’r ffigur isaf a welwyd yn ystod y pandemig (65% ar ei uchaf ym mis Awst 2022). Roedd oedolion iau, y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch a’r rhai heb gyflwr corfforol neu feddyliol hirsefydlog yn fwy tebygol o ddweud hyn.
  • Ar yr amser yma mae 33% o oedolion yng Nghymru yn dweud eu bod yn fodlon â'u bywyd, tra bo 57% yn teimlo'n niwtral ac 11% yn anfodlon. Mae oedolion hŷn (55+) a’r rhai heb gyflwr corfforol neu feddyliol hirsefydlog yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn fodlon â’u bywyd. Roedd oedolion actif hefyd yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn fodlon a’u bywydau na’r rhai a oedd yn llai actif (actif ar 2 i 4 diwrnod, 32%, o gymharu â 5+ diwrnod, 41%).
  • Ar gyfartaledd mae 37% o oedolion yn dweud eu bod yn teimlo'n hapus ar yr amser yma, tra bo 52% yn dweud eu bod yn teimlo'n niwtral ac 11% yn dweud eu bod yn anhapus. Mae dynion, oedolion hŷn (55+ oed), y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch, a'r rhai heb unrhyw gyflwr corfforol neu feddyliol hirsefydlog yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo'n hapus. Roedd oedolion actif hefyd yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn hapus o gymharu ag oedolion llai actif (actif ar 2 i 4 diwrnod = 34%, o gymharu ag actif ar 5+ diwrnod = 44%).