Skip to main content

Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 6 – Awst 2022

  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Traciwr Gweithgareddau Cymru
  4. Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 6 – Awst 2022

Cyfwelodd Savanta 1,025 o ymatebwyr 16+ oed ar-lein rhwng 19eg Awst a 22ain Awst 2022. Mae Savanta yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac yn cadw at ei reolau. Roedd yr holl gyfranogwyr yn dod o Gymru ac mae’r data wedi’u pwysoli i fod yn gynrychioliadol o boblogaeth Cymru yn ôl oedran, rhywedd, rhanbarth a statws economaidd-gymdeithasol.

Canfyddiadau Allweddol

 

• Gwnaeth dau o bob pump o bobl weithgarwch corfforol ar 2 i 4 diwrnod yn ystod yr wythnos oedd yn arwain at gyfnod yr arolwg, cynnydd ar Don 5 ac yn unol â Thon 4 (Awst 21), tra bo’r gyfran na wnaeth unrhyw ymarfer corff wedi gostwng ers Ton 5 (Chwefror 22) ond eto mae yn unol â Thon 4 (Awst 21). Mae nifer y bobl sy'n gwneud gweithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod yn is heddiw nag yr oedd yn Nhon 4 (Awst 21).

• Cerdded yw'r gweithgaredd mwyaf poblogaidd o hyd, ac mae wedi gweld hwb mewn poblogrwydd o'r don flaenorol (Ton 5 – Chwefror 22), yn fwyaf tebygol oherwydd ei natur dymhorol. Mae cyfran uwch o ymatebwyr yn gwneud y gweithgaredd hwn gyda rhywun arall hefyd o gymharu â Thon 5 (Chwefror 22).

• Mae’r agweddau tuag at chwaraeon a gweithgarwch corfforol wedi dangos gostyngiad sy'n peri pryder o gymharu â'r un adeg y llynedd (Ton 4 - Awst 21), gyda llai o bobl yn cytuno bod ganddynt y cyfle neu'r gallu i fod yn actif, neu eu bod yn mwynhau'r gweithgareddau eu hunain. Mae'r rhai yng ngradd gymdeithasol CD2E yn dangos y duedd hon yn gyson o gymharu ag ABC1, gan ddangos bod anghydraddoldeb posibl o ran cyfle rhwng y grwpiau hyn.

• Ar nodyn mwy cadarnhaol, mae pobl yn fwy hyderus ynghylch dychwelyd i gyfleusterau chwaraeon dan do o gymharu â'r un adeg y llynedd (Ton 4 - Awst 21). Roedd cyfran y bobl oedd wedi gwneud camp neu weithgaredd corfforol mewn cyfleuster dan do yn ystod yr wythnos cyn cyfnod yr arolwg wedi cynyddu o gymharu â Thon 4 (Awst 21), yn ogystal â chyfran y bobl sy’n dweud eu bod yn teimlo’n hyderus mewn lleoliadau dan do fel campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd, pyllau nofio, neuaddau chwaraeon neu stiwdios.

• Mae effaith yr argyfwng costau byw yn dod yn fwyfwy amlwg, gyda mwy o bobl yn dweud y byddai gweithgareddau rhatach, fforddiadwyedd neu ostyngiadau yn eu helpu i fwynhau'r gweithgareddau maent yn eu gwneud yn well o gymharu â’r don flaenorol, Ton 5 (Chwefror 22).

• Yn ogystal â’r uchod, mae dau o bob pump o ymatebwyr yn dweud bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif, gyda bron i dri o bob deg yn dweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw.

Lefelau gweithgarwch 

Diffinnir gweithgarwch corfforol fel cyfanswm o 30 munud neu fwy o ymarfer corff sy’n ddigon i gynyddu cyfradd anadlu.

Faint o weithgarwch a wnaed 

  • Gwnaeth y rhan fwyaf o bobl weithgarwch corfforol am 2 i 4 diwrnod (42%), sy'n gynnydd o gymharu â Thon 5 (Chwefror 22) (41%) ac yn unol â Thon 4 (Awst 21) (44%).
  • Mae'r gyfran na wnaeth unrhyw ymarfer corff wedi gostwng ers Ton 5 (Chwefror 22) (20% o gymharu â 24%) ac mae yn unol â Thon 4 (Awst 21) (16%).
  • Mae nifer y bobl sy'n gwneud gweithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod yn is heddiw (22%) nag yr oedd yn Nhon 4 (Awst 21) (29%).
  • Mae ymatebwyr 55+ oed yn fwy tebygol na grwpiau oedran eraill o fod heb wneud unrhyw weithgarwch corfforol (29% o gymharu â 14% o gymharu â 12%), tra bo pobl 16 i 34 oed yn fwy tebygol na’r rhai 55+ oed o fod wedi gwneud gweithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod (26% o gymharu â 19%).
  • Mae ymatebwyr yng ngradd gymdeithasol C2DE yn fwy tebygol o fod heb wneud unrhyw weithgarwch corfforol na'r rhai yn ABC1 (27% o gymharu â 12%), gyda'r gwrthwyneb yn wir am weithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod (25% o gymharu â 19%).
  • Mae ymatebwyr heb blant yn fwy tebygol na'r rhai â phlant 15 oed neu iau o fod heb wneud unrhyw weithgarwch corfforol (24% o gymharu â 12%).

 

Y gweithgareddau a wnaed 

  • Y gweithgareddau mwyaf cyffredin a wnaed gan ymatebwyr yn ystod yr wythnos cyn cyfnod yr arolwg yw cerdded er diben hamdden (60%) a cherdded i deithio (25%), gyda mynd i'r gampfa, dosbarthiadau ffitrwydd neu ymarfer (14%), rhedeg neu loncian. (13%) a nofio (12%) ymhlith y pump uchaf. Gwnaeth 18% o ymatebwyr weithgarwch yn y cartref.
  • Mae’r ymatebwyr yn fwy tebygol nag yn Nhon 5 (Chwefror 22) o fod wedi cerdded er diben hamdden (60% o gymharu â 55%).
  • Mae ymatebwyr benywaidd yn fwy tebygol na gwrywod o fod wedi cerdded (75% o gymharu â 64%) neu nofio (14% o gymharu â 10%), tra bo ymatebwyr 16 i 34 oed yn fwy tebygol o fod wedi bod yn y gampfa, mewn dosbarthiadau ffitrwydd neu ymarfer (24%) neu wneud chwaraeon tîm (10%)
  • Mae grŵp economaidd-gymdeithasol ABC1 yn fwy tebygol na C2DE o fod wedi gwneud gweithgarwch yn y cartref (23% o gymharu â 13%), fel y mae'r rhai â phlant 15 oed neu iau o gymharu â'r rhai heb blant 15 oed neu iau (24% o gymharu â 15%).
  • Mae ymatebwyr mewn ardaloedd trefol yn fwy tebygol na'r rhai mewn ardaloedd gwledig o fod wedi bod yn y gampfa neu mewn dosbarthiadau ffitrwydd neu ymarfer (16% o gymharu ag 8%).
  • O blith y rhai sy'n cerdded i deithio, mae chwech o bob deg (60%) yn gwneud hynny ar eu pen eu hunain, tra bo ychydig o dan dri o bob pump (58%) o'r rhai sy'n cerdded er diben hamdden yn gwneud hynny gyda rhywun arall, cynnydd o 52% o gymharu â Thon 4 (Awst 21) a 45% yn Nhon 5 (Chwefror 22).
  • Mae tri chwarter (76%) y rhai sy’n mynd i redeg neu loncian, tri o bob deg o’r rhai sy’n mynd i’r gampfa neu i ddosbarth ffitrwydd neu ymarfer (58%), a dau o bob pump (39%) o’r rhai sy’n mynd i nofio hefyd yn gwneud hynny ar eu pen eu hunain.
  • Mae ymatebwyr gwrywaidd yn fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o gerdded i deithio ar eu pen eu hunain (67% o gymharu â 51%), gyda'r un peth yn wir am gerdded er diben hamdden (52% o gymharu â 33%).
  • Mae ymatebwyr 35 i 54 a 55+ oed yn fwy tebygol na phobl 16 i 34 oed o gerdded i deithio ar eu pen eu hunain (66% o gymharu â 68% o gymharu â 49%), 
  • Dywedodd tri o bob pump o ymatebwyr eu bod wedi cerdded naill ai er diben hamdden neu i deithio’n rheolaidd (o leiaf unwaith y mis) yn ystod y tri mis diwethaf (62%), tra bo un o bob pump yn dweud eu bod wedi mynd i’r gampfa neu i ddosbarth ffitrwydd neu ymarfer (20%) ac 19% wedi bod yn nofio yn rheolaidd.
  • Dywed un o bob deg (12%) nad ydynt wedi gwneud unrhyw weithgarwch corfforol rheolaidd yn ystod y tri mis diwethaf.
  • Mae cyfran yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi mynd i'r gampfa neu i ddosbarth ffitrwydd neu ymarfer wedi cynyddu o Don 4 (Awst 21) (20% o gymharu â 13%).
  • Mae ymatebwyr benywaidd yn fwy tebygol na gwrywod o ddweud eu bod wedi cerdded naill ai er diben hamdden neu i deithio (67% o gymharu â 56%), tra bo dynion yn fwy tebygol o fod wedi beicio (18% o gymharu â 11%) neu wneud chwaraeon tîm (9% o gymharu â 2%).
  • Mae ymatebwyr 55+ oed yn fwy tebygol o ddweud nad ydynt wedi gwneud unrhyw ymarfer corff rheolaidd yn ystod y tri mis diwethaf (19%)
  • Mae pobl 16 i 34 oed yn fwy tebygol o fod wedi mynd i’r gampfa, dosbarth ffitrwydd neu ymarfer (36%) neu wedi bod yn rhedeg neu’n loncian (27%)
  • Mae ymatebwyr yng ngradd gymdeithasol ABC1 yn fwy tebygol na'r rhai yng ngradd gymdeithasol C2DE o fod wedi bod yn y gampfa neu mewn dosbarth ffitrwydd neu ymarfer (27% o gymharu â 14%).

Rhesymau dros gymryd rhan

  • Dywed mwy na hanner yr ymatebwyr (57%) eu bod yn gwneud ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd corfforol, tra bo tri o bob pump (58%) yn dweud eu bod yn gwneud ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd meddwl, cynnydd o 53% o gymharu â Thon 5 (Chwefror 22). 
  • O blith y rhai sydd wedi gwneud gweithgarwch corfforol yn rheolaidd yn ystod y tri mis diwethaf, nododd tri o bob pump o’r ymatebwyr (58%) mai bod yn gorfforol iach oedd eu prif reswm dros gymryd rhan, gydag un o bob pump (19%) yn nodi teimlo’n dda fel eu prif reswm. 
  • O blith y rhai sydd wedi gwneud gweithgarwch corfforol yn rheolaidd yn ystod y tri mis diwethaf, roedd tri chwarter (76%) yn nodi bod yn gorfforol iach fel un o’u 5 prif reswm dros gymryd rhan, gyda saith o bob deg (72%) yn dewis teimlo’n dda a thri o bob pump ( 59%) yn nodi mynd allan o'r tŷ. Mae cyfran yr ymatebwyr sy’n rhestru mynd allan o’r tŷ yn eu 5 uchaf wedi gostwng i 59% o 67% yn Nhon 4 (Awst 21) a 66% yn Nhon 5 (Chwefror 22).

 

Cyfle a gallu

  • Dywed dwy ran o dair (65%) o'r ymatebwyr eu bod yn teimlo eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif, gostyngiad o 69% yn Nhon 4 (Awst 21).
  • Mae traean o'r ymatebwyr (32%) yn cytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill, gyda'r rhai â phlant 15 oed neu iau yn fwy tebygol na'r rhai heb blant yr oedran hwnnw o gytuno (45% o gymharu â 25%).
  • Mae ychydig dros hanner yr ymatebwyr (52%) yn cytuno bod nifer digonol o gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal leol, gyda'r rhai mewn ardaloedd trefol yn fwy tebygol na'r rhai mewn ardaloedd gwledig o gytuno (55% o gymharu â 48%).
  • Mae dau o bob pump o'r ymatebwyr (42%) yn cytuno bod y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal leol o ansawdd uchel.
  • Mae dau o bob pump o’r ymatebwyr (38%) yn cytuno bod y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal leol yn fforddiadwy, gyda’r rhai 16 i 34 oed yn fwy tebygol na grwpiau eraill o gytuno (48%) yn ogystal â’r rhai yng ngradd gymdeithasol ABC1 o gymharu â C2DE (43% o gymharu â 34%).
  • Mae ychydig dros hanner (53%) yr ymatebwyr yn cytuno eu bod yn gallu cyrraedd y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol lleol sy'n apelio atynt, gyda'r rhai yng ngradd gymdeithasol ABC1 yn fwy tebygol na C2DE o gytuno (59% o gymharu â 48%) yn ogystal â'r rhai heb unrhyw gyflwr neu salwch hirsefydlog o gymharu â'r rhai â chyflwr hirsefydlog (61% o gymharu â 40%).
  • Dywedodd un o bob chwech (16%) o ymatebwyr sy'n dweud yr hoffent wneud gweithgareddau corfforol rheolaidd y byddai camp neu weithgaredd penodol yn eu helpu i gymryd rhan, o gymharu â 13% yn Nhon 5 (Chwefror 22). Dywed mwy nag un o bob deg (13%) y byddai gweithgareddau rhatach, fforddiadwyedd neu ostyngiadau yn helpu, o gymharu â llai nag un o bob deg (9%) yn Nhon 5 (Chwefror 22).
  • Mae ychydig dros dri o bob pump (64%) o ymatebwyr yn cytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif, gostyngiad o 69% o gymharu â Thon 4 (Awst 21).

Agweddau at weithgarwch

Mwynhad, pwysigrwydd a hyder

  • Mae mwy na hanner (55%) yr ymatebwyr yn cytuno eu bod yn gweld ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad, gostyngiad o 60% o gymharu â Thon 4 (Awst 21).
  • Dywedodd un o bob chwech (15%) o ymatebwyr y byddai rhywun i fynd gyda hwy, neu fwy o bobl, yn gwneud cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fwy pleserus iddynt, tra bo 8% yn dweud bod eu hiechyd wedi gwella o gymharu â 5% yn Nhon 5 (Chwefror 22), a nododd 7% weithgareddau rhatach, fforddiadwyedd neu ostyngiadau o gymharu â 3% yn Nhon 5 (Chwefror 22).
  • Mae ychydig dros dri o bob pump (64%) o ymatebwyr yn cytuno ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd.
  • Roedd ychydig dros hanner (54%) yr ymatebwyr yn cytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif.

 

Hyder lleoliad 

  • Mae’r ymatebwyr yn fwyaf tebygol o ddweud nad ydynt yn hyderus ynghylch cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol ar lethrau sgïo (70%) a rinciau iâ (64%), er y gallai hyn fod oherwydd perygl ymddangosiadol y chwaraeon cysylltiedig yn y lleoliadau hynny.
  • Heblaw am y ddau leoliad hynny, mae’r ymatebwyr yn fwyaf tebygol o ddweud nad ydynt yn hyderus ar draciau athletau (59%), cyrsiau golff (53%) a chaeau artiffisial (51%).
  • Mae ymatebwyr yn fwy tebygol yn y don hon na Thon 4 (Awst 21) o ddweud eu bod yn teimlo’n hyderus mewn lleoliadau dan do fel campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd (37% o gymharu â 30%), pyllau nofio (46% o gymharu â 38%), neuaddau chwaraeon (29% o gymharu â 24%) a stiwdios (28% o gymharu â 23%).
  • Mae ymatebwyr 16 i 34 oed yn fwy hyderus na grwpiau oedran eraill mewn lleoliadau dan do fel campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd (53%), tra bo pobl 16 i 34 a 35 i 54 oed yn fwy hyderus na phobl 55+ oed mewn pyllau nofio (53% o gymharu â 54% o gymharu â 36%), neuaddau chwaraeon (41% o gymharu â 35% o gymharu â 16%) neu stiwdios (40% o gymharu â 38% o gymharu â 13%).
  • Ymatebwyr sydd wedi cymryd rhan mewn camp neu weithgaredd yn ystod yr wythnos cyn cyfnod yr arolwg sydd fwyaf tebygol o fod wedi defnyddio pyllau nofio dan do (20%) neu gampfeydd dan do neu ganolfannau ffitrwydd (19%), gyda phyllau nofio yn gweld cynnydd sylweddol o Donau 4 a 5 (20% o gymharu â 15% o gymharu â 16%).
  • Mae'r gyfran sydd wedi gwneud camp neu weithgaredd corfforol mewn cyfleuster dan do yn ystod yr wythnos cyn cyfnod yr arolwg wedi cynyddu hefyd o Don 4 (Awst 21) (37% o gymharu â 32%).
  • O blith y rhai sydd wedi cymryd rhan mewn camp neu weithgaredd mewn cyfleuster dan do yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae bron i naw o bob deg yn dweud eu bod yn gyfforddus mewn campfeydd dan do neu ganolfannau ffitrwydd (87%) ac mewn pyllau nofio dan do (87%).

 

Cwestiynau amserol 

Gwirfoddoli 

  • Mae ychydig llai na hanner yr ymatebwyr (46%) heb wirfoddoli mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y tair blynedd diwethaf, tra bo mwy nag un o bob deg (13%) yn gwirfoddoli ar hyn o bryd ac un o bob deg (10%) wedi rhoi'r gorau i wirfoddoli.
  • Mae ymatebwyr gwrywaidd yn fwy tebygol na benywod o fod yn gwirfoddoli ar hyn o bryd (18% o gymharu ag 8%), fel y mae ymatebwyr 16 i 34 oed (20% o gymharu â 13% o gymharu â 7%), y rhai yng ngradd gymdeithasol ABC1 (18% o gymharu ag 8%), y rhai â phlant 15 oed neu iau (18% o gymharu â 10%) a'r rhai a wnaeth weithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod (20% o gymharu â 3% o gymharu â 10% o gymharu â 14%).
  • Fodd bynnag, mae pobl 16 i 34 oed hefyd yn fwy tebygol o fod wedi rhoi’r gorau i wirfoddoli (16% o gymharu â 10% o gymharu â 6%), fel y mae’r rhai â phlant 15 oed neu iau (13% o gymharu ag 8%)
  • Mae bron i hanner yr ymatebwyr yn dweud na fyddant yn gwirfoddoli yn ystod y 12 mis nesaf (47%), tra bo traean yn dweud eu bod yn debygol o wirfoddoli yn ystod y 12 mis nesaf i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol (32%).
  • Mae traean hefyd yn dweud eu bod yn debygol o wirfoddoli i gefnogi achos y tu allan i’r coronafeirws neu chwaraeon a gweithgarwch corfforol (32%) neu gefnogi’r ymateb i’r coronafeirws (32%), gostyngiad o 36% o gymharu â Thon 4 (Awst 21). 
  • Mae’r ymatebwyr yng ngradd gymdeithasol C2DE yn fwy tebygol o ddweud na fyddant yn gwirfoddoli yn ystod y 12 mis nesaf (51% o gymharu â 43%), fel y mae'r rhai heb blant (50% o gymharu â 42%) a'r rhai nad oeddent wedi gwneud unrhyw weithgarwch corfforol o gymharu â'r rhai a wnaeth ar 5+ diwrnod (53% o gymharu â 36%).
  • Mae ymatebwyr 16 i 34 oed yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn debygol o wirfoddoli i gefnogi’r ymateb i’r coronafeirws (42% o gymharu â 30% o gymharu â 26%), fel y mae’r rhai yng ngradd gymdeithasol ABC1 (37% o gymharu â 27% ) a'r rhai a wnaeth weithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod o gymharu â'r rhai na wnaeth unrhyw weithgarwch corfforol (39% o gymharu â 14%).
  • Mae ymatebwyr gwrywaidd (36% o gymharu â 30%), y rhai 16 i 34 oed (50% o gymharu â 34% o gymharu â 19%), y rhai yng ngradd gymdeithasol ABC1 (40% o gymharu â 26%), y rhai â phlant 15 oed neu iau (44% o gymharu â 26%) a'r rhai a wnaeth weithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod o gymharu â'r rhai na wnaeth unrhyw weithgarwch (44% o gymharu â 10%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
  • Mae ymatebwyr 16 i 34 oed yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn debygol o wirfoddoli i gefnogi achos y tu allan i’r coronafeirws neu chwaraeon a gweithgarwch corfforol (47% o gymharu â 33% o gymharu â 22%), fel y mae’r rhai yng ngradd gymdeithasol ABC1 (40% o gymharu â 25%), y rhai â phlant 15 oed neu iau (42% o gymharu â 27%) a'r rhai a wnaeth weithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod o gymharu â'r rhai na wnaeth unrhyw weithgarwch corfforol (42% o gymharu â 13%).

 

Cludiant

  • Dywed dau o bob pump o ymatebwyr (40%) nad ydynt yn teithio mewn cerbyd modur preifat i gyrraedd unrhyw chwaraeon neu weithgarwch corfforol maent yn cymryd rhan ynddo, tra bo un o bob deg (12%) yn dweud eu bod yn gwneud hynny unwaith, traean 2 i 4 gwaith (32%) ac 8% 5+ gwaith.
  • Mae ymatebwyr 55+ oed yn fwy tebygol o ddweud nad ydynt yn teithio mewn cerbyd modur preifat (50% o gymharu â 28% o gymharu â 36%), tra bo ymatebwyr 16 i 34 oed yn fwy tebygol o wneud hynny 2 i 4 gwaith (42% o gymharu â 34% o gymharu â 25%).
  • Mae ymatebwyr yng ngradd gymdeithasol CD2E yn fwy tebygol o ddweud nad ydynt yn teithio mewn cerbyd modur preifat (43% o gymharu â 36%), tra bo’r rhai yng ngradd gymdeithasol ABC1 yn fwy tebygol o wneud hynny 2 i 4 gwaith (36% o gymharu â 29%) a 5+ gwaith (10% o gymharu â 6%).
  • Mae ymatebwyr heb blant yn fwy tebygol o ddweud nad ydynt yn teithio mewn cerbyd modur preifat (45% o gymharu â 30%), tra bo’r rhai â phlant 15 oed neu iau yn fwy tebygol o wneud hynny 2 i 4 gwaith.
  • Mae’r ymatebwyr na wnaethant unrhyw weithgarwch corfforol yn fwy tebygol o ddweud nad ydynt yn teithio mewn cerbyd modur preifat (63% o gymharu â 37% o gymharu â 32% o gymharu â 37%), tra bo’r rhai a wnaeth weithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod yn fwy tebygol o wneud hynny 2 i 4 gwaith (32% o gymharu â 9%) a 5+ gwaith (14% o gymharu â 2% o gymharu â 7% o gymharu â 6%).

 

Costau byw

  • Mae dau o bob pump o ymatebwyr (41%) yn dweud bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif, gyda llai nag un o bob deg (9%) yn dweud ei fod wedi cael effaith gadarnhaol.
  • Mae ymatebwyr benywaidd yn fwy tebygol na gwrywod o gytuno bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif (44% o gymharu â 37%), fel y mae i’r rhai 16 i 34 a 35 i 54 oed o gymharu â 55 + (46% o gymharu â 50% o gymharu â 30%).
  • Mae ymatebwyr yng ngradd gymdeithasol ABC1 yn fwy tebygol na'r rhai yn C2DE o ddweud bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith gadarnhaol ar eu gallu i fod yn actif (13% o gymharu â 6%).
  • Mae ymatebwyr gyda phlant 15 oed neu iau yn fwy tebygol na'r rhai heb blant yr oedran hwn o ddweud bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif (51% o gymharu â 35%).
  • Mae ymatebwyr a wnaeth weithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod yn fwy tebygol na’r rhai na wnaeth unrhyw weithgarwch corfforol neu 1 diwrnod o ddweud bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith gadarnhaol ar eu gallu i fod yn actif (12% o gymharu â 4% o gymharu â 3%).
  • Dywed bron i hanner (48%) yr ymatebwyr nad yw’r newidiadau mewn costau byw wedi effeithio ar eu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, tra bo tri o bob deg (29%) yn dweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw ac un o bob deg (10%) wedi dweud eu bod wedi bod yn gwneud mwy.
  • Mae ymatebwyr 55+ oed yn fwy tebygol o ddweud nad yw’r newidiadau mewn costau byw wedi effeithio ar eu cyfranogiad (67% o gymharu â 32% o gymharu â 37%), tra bo’r rhai 16 i 34 oed yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi bod yn gwneud mwy o weithgarwch corfforol o ganlyniad i'r argyfwng (17% o gymharu â 11% o gymharu â 3%).
  • Mae ymatebwyr yng ngradd gymdeithasol ABC1 yn fwy tebygol na'r rhai yng ngradd gymdeithasol C2DE o ddweud eu bod wedi bod yn gwneud mwy o weithgarwch corfforol o ganlyniad i'r argyfwng (13% o gymharu â 6%).
  • Mae ymatebwyr a wnaeth weithgarwch ar 5+ diwrnod yn fwy tebygol na'r rhai na wnaeth unrhyw weithgarwch neu 1 diwrnod o ddweud eu bod wedi bod yn gwneud mwy o weithgarwch corfforol o ganlyniad i'r argyfwng (15% o gymharu â 2% o gymharu â 5%), tra mae'r rhai a wnaeth hynny ar 2 i 4 diwrnod yn fwy tebygol na'r rhai na wnaeth unrhyw weithgarwch neu 5+ diwrnod o ddweud eu bod wedi bod yn gwneud llai (34% o gymharu â 23% o gymharu â 22%).