Skip to main content

Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 3 – Mawrth 2021

  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Traciwr Gweithgareddau Cymru
  4. Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 3 – Mawrth 2021

Cyfwelodd Savanta ComRes 1,011 o oedolion (16+ oed) Cymru ar-lein rhwng 12fed Mawrth ac 16eg Mawrth 2021. Cafodd y data eu pwysoli i fod yn ddemograffig gynrychioliadol o oedolion 16+ oed Cymru yn ôl rhywedd, oedran ac aelwydydd a amcangyfrifwyd gyda phlant dan 16 oed. 

PRIF GANFYDDIADAU 

• Yn gyffredinol, mae’n ymddangos bod gostyngiad wedi bod mewn lefelau cymryd rhan ers mis Hydref (cyn y cyfnod atal byr) pan oedd cyfyngiadau lleol yn weithredol ar draws y rhan fwyaf o awdurdodau lleol Cymru. 

• Nid yw’r gostyngiad hwn yn gyson ar draws ystodau oedran. Mae’r rhai rhwng 16 a 34 oed yn tueddu i fod yn gwneud mwy o ymarfer na chyn y pandemig tra mae’r rhai 35+ oed yn tueddu i ddweud eu bod yn gwneud llai. Y rhai 55+ oed yw’r rhai mwyaf tebygol o fod yn gwneud llai, gyda 28% yn cofnodi dim gweithgarwch yn ystod yr wythnos flaenorol. 

• Er nad yw’n ymddangos bod y lefelau cymryd rhan ymhlith y rhai o lefelau economaidd-gymdeithasol uwch yn wahanol i’r cyfraddau cyn y pandemig, mae’r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn dweud eu bod yn gwneud llai nawr. Mae 24% o’r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is wedi cofnodi dim gweithgarwch corfforol (o 30 munud o leiaf) ar unrhyw ddiwrnod yn ystod yr wythnos flaenorol. 

• Er bod gostyngiad wedi bod yng nghyfran yr oedolion sy’n gwneud ‘rhywfaint’ o weithgarwch, bu cynnydd yn y gyfran sy’n gwneud gweithgarwch y ‘rhan fwyaf’ o ddyddiau. Gwelwyd y patrwm hwn yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf hefyd ac efallai mai’r esboniad yw bod 64% o oedolion yn dweud bod ganddynt fwy o amser i ymarfer. 

• Mae’r cyfranogiad mewn gweithgareddau gartref, all-lein, wedi cynyddu (gwelwyd yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf) ond nid yw lefel y gweithgareddau gartref, ar-lein, wedi cynyddu yn ystod y cyfyngiadau symud diweddaraf.       

• Rydym yn parhau i weld cynnydd mewn cyfraddau cerdded a rhedeg / loncian ac mae chwaraen eraill wedi profi gostyngiad mewn cymryd rhan yn ystod y cyfyngiadau symud, ond mae bwriad clir ymhlith oedolion i ddychwelyd at y gweithgareddau roeddent yn cymryd rhan ynddynt yn flaenorol. Mewn rhai achosion, mae potensial i’r cyfraddau cymryd rhan gynyddu y tu hwnt i’r lefelau cyn y pandemig wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio. 

• Yn gyffredinol, mae 60% o oedolion yng Nghymru yn bwriadu cynyddu faint o weithgarwch corfforol ac ymarfer maent yn eu gwneud wrth i ni ddod allan o’r cyfyngiadau symud. 

• Er bod y cyfraddau wedi gostwng ers mis Hydref, mae oedolion yn tueddu i ddweud bod eu plant yn gwneud mwy o weithgarwch y tu allan i’r ysgol nag oeddent cyn y pandemig. Yr eithriad yw ymhlith y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is y mae eu plant yn tueddu i wneud llai nawr. 

• Mae 1 o bob 20 oedolyn (5%) wedi gwirfoddoli mewn chwaraeon yn ystod y deuddeg mis diwethaf. Fodd bynnag, mae 28% o oedolion yn dweud eu bod yn debygol o wirfoddoli yn ystod y deuddeg mis nesaf. 

• Mae 65% o oedolion yn teimlo ei bod yn bwysicach bod yn actif yn gorfforol yn ystod y pandemig nag yn ystod adegau eraill. Mae hyn yn gynnydd o’r 63% a nododd hynny ym mis Hydref 2020 a’r 62% a nododd hynny yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf ym mis Mai. 

• Yn gyffredinol, mae oedolion yn fwy tebygol o deimlo’n hyderus am ddychwelyd i gyfleusterau awyr agored ar hyn o bryd ond mae’r pryderon am ddychwelyd i gyfleusterau dan do’n parhau i fod yn gymharol uchel gyda mwyafrif yr oedolion yn teimlo’n ddihyder am ddychwelyd i’r lleoliadau hyn. 

• Mae 45% o oedolion yn teimlo’n fwy hyderus am gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol o ganlyniad i raglen frechu barhaus COVID-19. 

• Mae 40% o oedolion yn poeni ar hyn o bryd am adael y tŷ i ymarfer neu fod yn actif, ac mae 63% yn poeni am ymarfer yn agos at bobl eraill wrth i’r cyfyngiadau ddechrau llacio. Cadw pellter cymdeithasol (11%), cyfyngu ar nifer y bobl mewn un lle (4%) a glendid / hylendid (3%) yw’r mesurau mae oedolion yn fwyaf tebygol o ddweud fydd yn eu helpu i barhau neu ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon unwaith y bydd y cyfyngiadau’n caniatáu. 

• Er bod oedolion yn fwy tebygol o ddweud bod y canllawiau ar gymryd rhan yn gliriach nawr (48%) nag a oeddent ym mis Hydref (43%), mae gostyngiad wedi bod yng nghyfran y boblogaeth sy’n teimlo bod ganddynt gyfle i gymryd rhan yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (Mai 2020 69%; Hydref 2020 68%; Mawrth 2021 64%). Wedi dweud hynny, mae dwy ran o dair o oedolion yn teimlo y bydd yn haws iddynt gymryd rhan ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu llacio. 

• Mae oedolion yn llai tebygol (nag o’r blaen) o gofnodi eu bod yn mwynhau ymarfer ar eu pen eu hunain yn ystod y cyfnod hwn. 

Am gopi o’r adroddiad llawn e-bostiwch insightteam@sport.wales.