Wedi’u lleoli ar dri llawr yn y prif adeilad, ceir cyfuniad o ystafelloedd sengl, dau wely sengl a threbl en-suite.
Mae gennym ni 2 ystafell dau wely sengl addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, a mynediad lifft a chyfleusterau ystafell ymolchi en-suite.
Opsiynau Gwely a Brecwast, llety llawn neu hanner llety ar gael.
Cewch gyrraedd o 14:00 ar y diwrnod cyrraedd a rhaid gadael yr ystafelloedd erbyn 10:00 ar y diwrnod gadael.
Defnydd am ddim o gyfleusterau chwaraeon ar gyfer pobl sy’n aros yn y llety, yn amodol ar argaeledd a’r telerau a’r amodau.
I wirio argaeledd ac archebu, ffoniwch 0300 3003123.
Rydyn ni wedi cyflwyno’r canlynol er mwyn eich cadw chi, a’n tîm ni, yn ddiogel yn ystod eich arhosiad:
Cyrraedd a Chofrestru:
Lleihau cyswllt a chynyddu gwarchodaeth yn y Dderbynfa gyda sgriniau Perspex, gan sicrhau bod mesurau cadw pellter cymdeithasol yn eu lle. Mae diheintydd dwylo ar gael yn y Dderbynfa ac mewn mannau eraill yn yr adeilad.
Gallwch gofrestru o 14.00 ymlaen a rhaid gadael erbyn 10.00, er mwyn sicrhau bod pob ystafell yn cael ei glanhau'n drylwyr cyn ac ar ôl i chi aros.
Hylendid
Glanhau amlach ar ardaloedd cyffwrdd cyson, fel botymau rheoli’r lifftiau, handlenni drysau a rheiliau llaw gyda diheintyddion sydd wedi’u cymeradwyo i safon Ewropeaidd BS EN14476, sy’n effeithiol yn erbyn y Coronafeirws. Yn eich ystafell chi, rydyn ni’n rhoi sylw arbennig i lanhau teclynnau rheoli’r teledu, diogellau, handlenni drysau a mannau cyffwrdd eraill.
Cadw Tŷ
Mae ein tîm Cadw Tŷ wedi cael hyfforddiant y Coronafeirws i gyd. Byddant yn glanhau eich ystafell yn drwyadl cyn i chi gyrraedd ac, oni bai eich bod yn gofyn i ni wneud hynny, ni fyddwn yn ei glanhau eto yn ystod eich arhosiad. Byddwch yn cael ‘pecyn cysur’ yn eich ystafell a fydd yn cynnwys y pethau ychwanegol hynny y bydd arnoch eu hangen efallai ar gyfer eich arhosiad. Mae jel diheintio unigol yn cael ei ddarparu ym mhob ystafell hefyd. Gellir gofyn am unrhyw eitemau ychwanegol yn y Dderbynfa.
Dillad Gwely
Mae ein holl ddillad gwely’n cael eu golchi’n broffesiynol ar dymheredd uwch na 60°C. Rydyn ni wedi cael gwared ar yr holl ddodrefn meddal nad yw’n hanfodol a bydd llenni’r gawod yn cael eu newid ar ôl pob arhosiad.
Offer gwarchodol
Mae’r staff i gyd yn cael defnyddio gorchuddion wyneb, menig a ffedogau.
Bwyd a Diod
Mae ein cynnig Grab and Go newydd ar agor ar y Llawr Isaf yn y Dderbynfa, rhwng 08.00 a 19.00 (Llyn - Gwener) 08.00 a 19.00 (Sadwrn - Sul) gan weini diodydd poeth, eitemau brecwast poeth a byrbrydau ffres, lleol o ansawdd uchel ac eitemau eraill. Rhaid talu gyda cherdyn.
Mae ein Caffi ar yr 2il lawr yn parhau i fod ar agor ar gyfer athletwyr yn unig.
Cofiwch
Plîs peidiwch â dod i’r Ganolfan os ydych chi’n teimlo’n sâl a rhowch wybod i ni os byddwch chi neu unrhyw un yn eich cartref yn datblygu symptomau Covid-19.
Diolch yn fawr, mwynhewch eich arhosiad, a chroeso i Gaerdydd.