Skip to main content

Prisiau Aelodaeth a Thalu a Chwarae

Aur

Mae’r aelodaeth Aur yn daladwy yn fisol drwy Ddebyd Uniongyrchol a dim ond £31.00 y mis yw’r gost. Mae’r aelodaeth yn darparu’r un manteision â’r aelodaeth Arian ond yn cynnig Chwaraeon Raced heb gyfyngiad hefyd, yn amodol ar argaeledd.

Arian

Mae’r aelodaeth Arian yn daladwy yn fisol drwy Ddebyd Uniongyrchol a dim ond £22.00 y mis yw’r gost. Mae’r aelodaeth yn darparu defnydd heb gyfyngiad o’r Gampfa Cardio a Phwysau Rhydd, Tocynnau Deryn Cynnar, Dosbarthiadau Ffitrwydd a gostyngiad ar archebion Chwaraeon Raced.

Efydd

Mae’r aelodaeth Efydd yn aelodaeth ‘Talu a Chwarae’. Rhaid talu ffi i ddechrau a gellir ei hadnewyddu yn flynyddol. Wedyn rhaid i aelodau dalu am ddefnydd bob tro. Er enghraifft, byddai mynediad i’r Gampfa Cardio a Bwysau Rhydd yn £5.50 y sesiwn.

 YmunoFfi adnewyddu 
Oedolion                                         £26.40                     £19.80                           
Y rhai sy’n derbyn budd-dal seiliedig ar brawf modd neu Lwfans Byw i’r Anabl
Gostyngiadau£19.80  £14.85
D18£19.80  £14.85
Pensiynwyr£19.80  £14.85
Yn derbyn pensiwn y wladwriaeth
Myfyrwyr£19.80  £14.85

Prisiau Talu a Chwarae

Ebrill 2024

CyfleusterAelodauEraill
 AurArianOedolynGostyngiad*OedolynGostyngiad*
Badminton (55 munud)
£11.70£11.70£8.80£13.00£9.70
Sesiynau i Bobl Dros 50 oed
£2.85£2.85 £4.20 
Cardio/Campfa Pwysau
£5.80£4.30  
Newid
£1.15£0.90£1.80£1.35
Tanysgrifiad Deryn Cynnar (Chwaraeon Raced yn unig o 07.00)
£6.10£6.10 £6.30 
Dosbarthiadau Ffitrwydd (45 munud)
£5.90 £5.90 
Sboncen (40 munud)
£9.80£9.80£7.35£12.50£9.45
Tennis Bwrdd (55 munud))
£5.90£5.90£4.30£6.80£5.15
Tennis (55 munud)
£8.40£8.40£6.20£10.50£7.90

*Dim ond o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09.00 a 16.30 a thrwy’r dydd ar ddyddiau Sadwrn a Sul mae cyfraddau is ar gyfer Myfyrwyr a’r rhai sy’n cael budd-dal seiliedig ar brawf modd neu Lwfans Byw yr Anabl. ar gael. Mae cyfraddau is ar gyfer Pensiynwyr a phawb dan 18 oed ar gael bob amser..

OFFER I’W LOGIOFFER AR WERTH
Raced Badminton  £1.20Sialc£1.80
Raced Sboncen  £1.20Gwennol£1.45
Raced Tennis£1.80Pel Sboncen£2.90
Bat Tennis Bwrdd£1.00Pel Tennis Bwrdd£0.50

Ffurflenni Aelodaeth

I ddod yn aelod bydd angen i chi lenwi ffurflen gais a holiadur iechyd. Cysylltwch â ni am ragor o fanylion.

TALIADAU DEBYD UNIONGYRCHOL

Cesglir taliadau aelodaeth Debyd Uniongyrchol o’ch cyfrif banc ar y 1af o’r mis. Bydd cyfnod prosesu o fis cyn y gofynnir am y rhandaliad cyntaf o’ch cyfrif banc. Gofynnir i chi nodi fodd bynnag y bydd unrhyw aelodaeth yr ymrwymir iddi ar ôl y 15fed o’r mis yn atebol am daliad pro rata hirach gan na fydd posib ei gasglu ar y 1af o’r mis dilynol oherwydd yr amser prosesu sydd ei angen (enghraifft B).

Enghraifft A: Os ymrwymir i gontract aelodaeth ar 10 Ebrill, byddai taliad pro-rata am y cyfnod 10 Ebrill i 30 Ebrill yn daladwy. Byddai’r taliad Debyd Uniongyrchol cyntaf yn cael ei gymryd ar 1 Mai ac yn berthnasol i fis Mai.

Enghraifft B: Os ymrwymir i gontract aelodaeth ar 16 Ebrill, byddai taliad pro-rata am y cyfnod 16 Ebrill i 31 Mai yn daladwy oherwydd byddai’r dyddiad cau ar gyfer prosesu wedi’i fethu. Byddai’r taliad Debyd Uniongyrchol cyntaf yn cael ei gymryd ar 1 Mehefin ac yn berthnasol i fis Mehefin.

BUDDION AELODAETH

• Nid ydych yn ymrwymo I gontract am gyfnod penodol a gallwch ganslo eich aelodaeth unrhyw bryd os rhoddir mis o rybudd ysgrifenedig.

• Cyfleuster archebu 7 diwrnod ymlaen llaw ar gyfer chwaraeon raced a thennis bwrdd.

• Llety preswyl rhatach ar gyfer perthnasau a gwesteion.

TYSTIOLAETH O STATWS

Mae angen tystiolaeth o statws fel sy’n dilyn:

• Lwfans Byw i’r Anabl (llythyr diweddar gan y corff dyfarnu)

• Budd-dal Prawf Modd (llythyr diweddar gan y corff dyfarnu)

• Pensiynwyr (dull adnabod gyda ffotograff)

• Myfyriwr (cerdyn Undeb Myfyrwyr)

CERDYN AELODAETH

• Rhoddir cerdyn aelodaeth i bob aelod ac mae’n rhaid ei gyflwyno a’i sweipio wrth ddefnyddio’r ganolfan.

• Dim ond deiliad yr aelodaeth sydd â chaniatâd I ddefnyddio’r cerdyn.

• Tynnir ffotograff o’r aelod ar gyfer dibenion adnabod.

• Codir ffi am gerdyn Newydd yn lle un sydd wedi’i golli, ei ladrata neu ei ddifrodi