Skip to main content

Sboncen

CYRTIAU CEFN GWYDR A CHAEEDIG

Mae gan Ganolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru bedwar cwrt sboncen. Mae gennym ddau gwrt arddangos sydd â wal wydr gyda seddau ar gyfer 186 o wylwyr. Mae'r ddau arall yn gyrtiau caeedig.

Gall yr aelodau archebu cyrtiau sboncen 7 diwrnod ymlaen llaw a gall pobl nad ydynt yn aelodau archebu 4 diwrnod ymlaen llaw. Mae racedi ar gael i'w llogi o'r Dderbynfa.

Os hoffech chi gael unrhyw wybodaeth bellach, neu os hoffech archebu lle, cysylltwch â ni.