Skip to main content

Ffurflenni CThEM a Thŷ’r Cwmnïau

Os ydych chi’n gwmni cyfyngedig neu ddim, mae’n bur debyg y bydd rhaid i chi ddelio gyda   CThEM (y swyddfa dreth).

Bydd hyn yn cynnwys y canlynol:               

  • Anfon eich cyfrifon blynyddol i CThEM o fewn 12 mis i ddiwedd eich blwyddyn ariannol
  • Anfon ffurflen dreth cwmni a chyfrifiad treth i CThEM o fewn 12 mis i ddiwedd eich blwyddyn ariannol (mae cyfrifiad treth yn cyfrif faint o dreth sy’n ddyledus gennych chi – gweler yr adran isod ar drethiant i gael rhagor o wybodaeth).
  • Os ydych chi wedi cofrestru mewn perthynas â TAW, anfon ffurflenni TAW chwarterol i CThEM
  • Os ydych chi’n talu i staff, anfon ffurflenni cyflogres misol a datganiad blynyddol

Argymhellir bod clybiau’n gofyn am gyngor proffesiynol priodol er mwyn sicrhau eu bod yn cadw at y rheolau ac yn talu’r swm priodol o dreth.              

Clybiau sy’n Gwmnïau Cyfyngedig

Os yw eich clwb yn gwmni cyfyngedig, bydd rhaid i chi wneud y canlynol hefyd:

  • Anfon eich cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 9 mis i ddiwedd eich blwyddyn ariannol
  • Llenwi Ffurflen Flynyddol am fanylion eich cwmni (e.e. swyddfa gofrestredig, cyfarwyddwyr ac ati)

Yn ogystal â ffurflenni blynyddol, bydd rhaid i chi roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am unrhyw newidiadau yn ystod y flwyddyn, er enghraifft, newid yn y cyfarwyddwyr.

Gellir cwblhau’r uchod i gyd ar-lein drwy gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau ar gyfer ei wasanaeth Ffeilio ar y We.         

Oes posib i fy nghlwb gael ei Eithrio o lenwi ffurflenni blynyddol CThEM?

Os yw bil treth gorfforaeth blynyddol eich clwb yn fach iawn (yn llai na £100 fel rheol), bydd posib i chi ysgrifennu i CThEM a gofyn am gael eich eithrio rhag gorfod anfon eich cyfrifon, ffurflen dreth y cwmni a’r cyfrifiad treth bob blwyddyn. Fel rheol, os bydd CThEM yn cytuno i hyn, byddwch yn cael cyfnod eithrio penodol e.e. 5 mlynedd.