Skip to main content

Cyllid Clwb

Cyllidebau a mantolenni? Oes. Ffurflenni treth? Oes. Esiamplau o weithdrefnau ariannol? Oes.                 

Fe gewch chi hyn a llawer mwy yn yr adran yma, Cyllid Clwb. Gall fod yn rhwystredig iawn, chwilio yma ac acw ym mhob man, ar bob math o wefannau, i ganfod popeth y mae arnoch angen ei wybod. Felly, rydyn ni wedi rhoi’r cyfan mewn un lle.

Yn yr adran hon, fe welwch chi ein bod ni wedi argymell sefydlu prosesau syml. Pam? Oherwydd mae rheoli cyllid yn gallu bod yn heriol i unrhyw glwb. Bydd dilyn ein cyfarwyddyd yn eich helpu chi i adolygu eich gwybodaeth ariannol ac yn eich helpu i ddeall ymrwymiadau a sefyllfa ariannol eich clwb ar unrhyw adeg.