Skip to main content

Cynllunio Eich Cyllid

Gall rheoli cyllid fod yn gur pen i unrhyw glwb, ond os byddwch yn cynllunio ymlaen, byddwch yn dod i ddeall sefyllfa ac ymrwymiadau ariannol eich clwb yn gyflym ac yn rhwydd a byddwch yn gallu cynllunio ar gyfer eich buddsoddiadau yn y dyfodol ac unrhyw ddigwyddiadau annisgwyl.

I’ch helpu chi i gynllunio cyllid eich clwb chwaraeon, rydyn ni yma gyda digon o gyngor doeth ac mae gennym ni adnoddau cynllunio i chi eu lawrlwytho am ddim hyd yn oed.

Pam Cynllunio Cyllid Eich Clwb Chwaraeon?

Os oes angen eich darbwyllo chi ymhellach, dyma pam rydyn ni’n meddwl bod cynllunio eich cyllid yn syniad da.

Gall Cynllunio Helpu Gyda:

  • Cefnogi’r clwb gyda datblygu ei gyfeiriad yn y dyfodol, gan helpu i nodi beth sydd angen ei wneud ac erbyn pryd.
  • Cael eraill i ddeall cost rhedeg eich clwb.
  • Penderfynu ar ffioedd i’w wneud yn fforddiadwy i aelodau a chyfranogwyr.
  • Tracio cynnydd eich clwb yn erbyn eich cynllun.
  • Cael y clwb i weithredu os bydd pethau’n mynd o chwith.
  • Nodi meysydd ar gyfer gwelliant.
  • Sicrhau bod eich clwb yn gynaliadwy yn y tymor hir.

Gall cynlluniau nodweddiadol helpu gyda gweithgarwch tymor byr a hir fel: 

  • Cynlluniau Strategol (tymor hir)
  • Polisi Cronfeydd Wrth Gefn (tymor hir)
  • Cyllideb flynyddol (tymor byr)
  • Rhagolygon llif arian (tymor hir a thymor byr)
  • Cynllun buddsoddi cyfalaf (tymor hir)