Skip to main content

Bydd Cynllunio Strategol (neu gynllunio tymor hir) yn helpu’r clwb i benderfynu i ba gyfeiriad mae eisiau mynd a gwneud penderfyniadau ynghylch ble mae gwario arian. Cofiwch fod yn realistig wrth gynllunio’n strategol – nid dyma’r amser i lunio rhestr o ddymuniadau na fydd posib eu gwireddu byth.

Edrychwch ar eich incwm a’ch gwariant dros gyfnod hirach o amser - y tair i bum mlynedd nesaf  dyweder - bydd hyn yn eich helpu chi i gynllunio ar gyfer y dyfodol, yn enwedig ar gyfer unrhyw brosiectau unigol neu bryniant cyfalaf mawr iawn rydych chi eisiau ei wneud, fel gwella cyfleusterau neu brynu offer.                  

Bydd sefydlu cynllun strategol yn eich helpu chi i roi anghenion eich clwb at ei gilydd i gyd mewn un lle.