Skip to main content

Y Gyllideb Flynyddol

Dim ond cynllun sydd wedi cael ei fynegi mewn termau ariannol yw’r gyllideb. Fel rheol mae’n cael ei pharatoi ar gyfer blwyddyn ymlaen llaw ond gellir ei phennu ar gyfer cyfnodau hirach neu fyrrach o amser.                       

Beth mae’r gyllideb yn ei ddangos?

  • Faint o incwm mae eich clwb yn disgwyl ei dderbyn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf
  • Faint mae eich clwb yn disgwyl ei wario yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf
  • Y gwarged (elw) a ddisgwylir neu’r diffyg (colled) ar gyfer cyfnod y gyllideb

Mae wir yn bwysig eich bod yn ystyried eich polisi arian wrth gefn cyn drafftio eich cyllideb. Os yw eich polisi arian wrth gefn yn dangos bod swm eich arian wrth gefn yn isel, mae’n bur debyg y byddwch eisiau paratoi cyllideb sy’n gadael gwarged, fel bod eich arian wrth gefn yn cynyddu.

Wrth gwrs, os yw eich polisi arian wrth gefn yn dangos bod gennych chi ormod o arian wrth gefn, efallai y byddwch eisiau paratoi cyllideb ddiffyg - sy’n golygu bod gwariant y clwb yn canolbwyntio ar amcanion strategol eich clwb.          

Mae cadw llygad ar gyllid y clwb yn hanfodol i lwyddiant parhaus y clwb ac mae’r gyllideb yn adnodd gwych ar gyfer gwneud i hyn ddigwydd. Byddwch yn gallu cymharu ac adolygu’r canlyniadau yn erbyn meincnod.

Pwy ddylai fod yn gyfrifol am bennu cyllideb eich clwb?

Dylai’r trysorydd arwain y gwaith hwn ond bydd angen cyfraniad gan eraill hefyd, er enghraifft: hyfforddwyr, y rheolwr cyffredinol, rheolwr y cyfleusterau, rheolwr y bar ac aelodau’r pwyllgor.

Er bod meddwl am baratoi cyllideb yn gallu bod yn anodd, bydd cael y bobl briodol i ymwneud â hyn o’r dechrau yn helpu.

Pwyntiau i’w hystyried wrth baratoi eich cyllideb:

Y ffordd hawsaf o baratoi eich cyllideb yw drwy ei seilio ar incwm a gwariant y flwyddyn flaenorol. Yr enw ar hyn yw Cyllidebu Cynyddrannol.  

Dyma rai pwyntiau i chi feddwl amdanynt:

Adolygu incwm y llynedd ac ystyried unrhyw newidiadau yn yr incwm ar gyfer y flwyddyn bresennol:

  • A oes disgwyl i lefel eich incwm fod yn debyg?
  • Ydi’r incwm yn mynd i ostwng neu a oes ffrydiau incwm newydd?
  • Bod yn ofalus rhag cyllidebu’n ormodol ar gyfer incwm na fydd yn digwydd o bosib!

Adolygu gwariant y llynedd ac ystyried unrhyw newidiadau yn y costau ar gyfer y flwyddyn bresennol:

  • Ydi’r gwariant yn cynyddu drwy weithgarwch, chwyddiant neu anghenraid - er enghraifft, gwaith atgyweirio?
  • Oes costau newydd i’w hystyried eleni? Er enghraifft, mae rheoliadau newydd ynghylch pensiynau wedi dod i fodolaeth.
  • Oes unrhyw arbedion i’w gwneud neu gostau nad ydynt yn berthnasol mwyach?
  • Ar ôl drafftio eich cyllideb, ystyriwch faint o risg sy’n perthyn iddi! Ydych chi wedi bod yn rhy optimistig wrth bennu lefelau incwm e.e. ffioedd aelodaeth cynyddol? Neu dim digon o le ar gyfer costau annisgwyl?
  • Ystyriwch pa eitemau sy’n hanfodol (gorbenion fel cyflogau, rhent, trethi a thaliadau gwasanaethau) a’r rhai sy’n ategion dymunol (fel offer newydd, digwyddiadau, gwelliannau i gyfleusterau). Edrychwch drwy’r eitemau hyn i weld a oes unrhyw beth y gallwch wneud hebddo, os oes raid i chi dorri costau’n ôl.
  • Ydych chi wedi ystyried eich polisi arian wrth gefn wrth baratoi eich cyllideb? Os oes prinder arian wrth gefn, dylech geisio cyllidebu ar gyfer gwarged.
  • Gwnewch yn siŵr bod y gyllideb yn cysylltu ag amcanion a strategaeth y clwb fel eich bod yn gwneud y defnydd gorau o’ch arian.