Skip to main content

Penodi Llywodraethwyr Ariannol

Er mwyn i glwb lwyddo a bod yn gynaliadwy, rhaid i’r cyllid sy’n dod gan yr aelodau ac o ffynonellau eraill gael ei ddefnyddio’n ddoeth ac yn effeithiol. Dyma pam mae llywodraethu ariannol yn flaenoriaeth fawr.

Beth Mae Llywodraethu Cyllid Clwb yn ei Gynnwys?

  • Yr unigolion priodol yn ymwneud â’r materion ariannol
  • Y strwythur priodol gydag awdurdod a dirprwyo priodol
  • Y dulliau rheoli a’r gweithdrefnau priodol yn eu lle
  • Yr wybodaeth briodol i wneud penderfyniadau effeithiol

Yr Unigolion Priodol

Y brif rôl ariannol yn y clwb yw rôl y Trysorydd. Mae hon yn rôl hanfodol felly mae’n bwysig eich bod yn recriwtio rhywun trefnus a hyderus i ddelio â ffigurau a rheoli arian.

Beth Mae Rôl y Trysorydd yn ei Gynnwys?

Mae’r Trysorydd yn gyfrifol am gyllid y clwb ac mae’n gweithredu fel prif swyddog ariannol y clwb. Gall ei ddyletswyddau gynnwys y canlynol ond nid ydynt yn gyfyngedig i’r rhain:

  • Paratoi’r cyllidebau
  • Rhoi trefn ar faterion ariannol, gan gynnwys bancio incwm, talu anfonebau a monitro’r cyfrif banc a’r llif arian
  • Paratoi adroddiadau ariannol y clwb a’u cyflwyno i’r pwyllgor
  • Rhoi arweiniad i’r pwyllgor ar reoli cyllid
  • Cyfrifoldeb am weithdrefnau a phrosesau ariannol

Mwy o wybodaeth am ddisgrifiad swydd Trysorydd ar gael yma.

Y Strwythur Priodol

Er bod rôl y Trysorydd yn bwysig, dim ond un rhan o strwythur llywodraethu ariannol y clwb yw’r rôl yma. Rhaid i chi sicrhau nad yw un person ar ei ben eu hun yn gallu cyflawni trafodion ariannol ar ran y clwb o’r dechrau i’r diwedd. Rhaid i chi sefydlu rhai mesurau diogelu.

Mewn sefydliad bach, fel clwb, gall hyn fod yn anodd ei gyflawni. Dyma rai pethau i’w hystyried:           

  • Penodi deiliaid cyllidebau gyda chyfrifoldeb am reoli cyllidebau
  • Pennu lefelau awdurdod gwariant cyfyngedig
  • Sefydlu is-bwyllgor cyllid i fonitro cyllid y clwb yn fanylach
  • Sicrhau bod y pwyllgor yn deall ac yn adolygu’r cyllid mae’n gyfrifol amdano yn y pen draw

Mae’n syniad da creu siart yn dangos eich strwythur ariannol fel bod pawb yn ymwybodol o’r rhan maen nhw’n ei chwarae.

Y Dulliau Rheoli Priodol

Bydd cael y strwythur priodol yn ei gwneud yn haws i chi sefydlu’r gweithdrefnau a’r dulliau rheoli priodol fel eich bod yn lleihau pob risg ac yn helpu i sicrhau nad yw eich clwb yn wynebu anawsterau ariannol.

Dylid amlinellu’r prosesau hyn yn glir yn eich gweithdrefnau ariannol fel bod y bobl yn eich clwb yn ymwybodol ac yn gallu cydymffurfio.

Esiamplau o Weithdrefnau a Dulliau Rheoli:

  • Incwm ariannol yn cael ei lofnodi gan ddau unigolyn
  • Mae cyfyngiadau ar gyfer awdurdodi gwariant
  • Mae’r Cadeirydd yn adolygu’r cysoni yn y banc gan y Trysorydd (dyma’r gwahaniaeth rhwng y balans yn y banc a’r swm cyfatebol sydd i’w weld yng nghofnodion cyfrifyddu’r clwb ei hun)
  • Cedwir dogfennau (fel anfonebau a derbynebau ac ati)
  • Rheoli gwrthdaro buddiannau

Yr Wybodaeth Briodol

Bydd cyflwyno’r wybodaeth ariannol briodol mewn cyfarfodydd pwyllgor yn sicrhau bod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud wrth feddwl am gyllid y clwb.

Dylai’r Trysorydd baratoi adroddiad ariannol yn rheolaidd a dylai gynnwys y canlynol:   

  • Cyfrif Incwm a Gwariant, sy’n cael ei gymharu â’r gyllideb
  • Mantolen – yn dangos asedau ac atebolrwydd y clwb
  • Unrhyw wybodaeth arall a ystyrir yn angenrheidiol, e.e. rhagolygon llif arian, manylion am ddyledwyr a chredydwyr

Hefyd dylid anfon yr Adroddiad Cyllid at bob aelod o’r pwyllgor cyn y cyfarfodydd, fel bod digon o amser ar gyfer craffu a chwestiynau. 

Er enghraifft, efallai y gofynnir y canlynol:

  • Oes unrhyw gostau heb eu talu eto ond a ddylid eu cynnwys yn y datganiadau ariannol?
  • Ydych chi wedi cynnwys unrhyw daliadau sydd heb glirio yn y cyfrif banc eto?
  • Oes unrhyw incwm heb ei fancio y mae’n rhaid rhoi cyfrif amdano?

Os nad yw’r eitemau hyn wedi’u cynnwys, bydd sefyllfa ariannol y clwb yn edrych yn well nag ydyw mewn gwirionedd. Gall hyn arwain at wneud penderfyniadau gwael, fel cymeradwyo gwariant ychwanegol sy’n gadael y clwb â phrinder arian yn gyffredinol.