Skip to main content

Dechrau Arni gyda’ch Cyllid

Os yw clwb am fod yn llwyddiannus, rhaid iddo gael sylfaen ariannol gadarn - rhaid iddo gyllidebu’n ofalus a gallu creu incwm. Er hynny, os nad ydych chi’n arbenigwr ariannol, gall edrych ar gyfrifon banc clwb ymddangos yn ddyrys braidd. Ond does dim rhaid i hynny fod yn wir.   

Yma mae ein tîm gwybodus ni’n rhannu pwyntiau i chi allu dechrau arni: 

Penodi Trysorydd

Y Trysorydd yw’r person yn y clwb sy’n bennaf gyfrifol am ofalu am gyllid y clwb. Does dim rhaid iddo fod yn arbenigwr ariannol, ond mae’n rhaid iddo fod yn rhywun trefnus a gallu cadw cofnod o’r arian sy’n dod i mewn i’r clwb a’r arian sy’n mynd allan, er mwyn sicrhau ei fod yn gallu talu ei gostau rhedeg.   

Yn aml iawn nid yw clwb yn gallu agor cyfrif banc nes bod ganddo Drysorydd, felly dyma fydd un o’ch tasgau cyntaf.

Agor Cyfrif Banc Clwb a Chymdeithas

Rydyn ni’n argymell bod y clwb yn agor cyfrif banc yn enw’r clwb. Yn aml mae hyn yn ofynnol os ydych chi’n gwneud ceisiadau am grantiau, felly mae’n well gwneud hyn ar y dechrau.

Ewch i’ch banc neu eich cymdeithas adeiladu ac edrych ar y dewis o gyfrifon sydd ar gael. Dylent allu eich cynghori chi ar y math gorau o gyfrif i chi. Bydd gwasanaeth bancio ar-lein cysylltiedig yn gyflym ac yn hwylus ar gyfer rheolaeth o ddydd i ddydd, yn enwedig gan fod y rhan fwyaf o fanciau bellach yn cynnig gwasanaeth lle gall dau o bobl gymeradwyo taliadau ar-lein.   

Fel rheol mae cyfrifon banc angen dau lofnod ar unrhyw sieciau – rhaid i un o’r rheiny fod yn Drysorydd y clwb. Mae hyn yn darparu lefel o ddiogelwch ar gyfer cyllid y clwb.

Codi Ffioedd ar Aelodau

Mae’n amser gwneud ychydig o fathemateg. Ewch ati i gyfrif faint bydd yn ei gostio i sefydlu clwb a thalu unrhyw gostau rhedeg. Dylech ystyried costau fel y rhai canlynol:

  • Offer
  • Llogi cyfleusterau
  • Yswiriant
  • Ffioedd cyrff rheoli
  • Ffioedd hyfforddi (os ydych chi’n talu i bobl)
  • Costau marchnata (posteri, costau gwefannau, taflenni ac ati)

Bydd rhai o’r rhain yn gostau unigol neu flynyddol a bydd eraill yn fwy rheolaidd.

  • Os ydych chi’n gwybod faint o aelodau ydych chi’n debygol o’u cael, gallwch weithio’r gost y pen.

Er enghraifft, os yw llogi cyfleuster yn costio £45 yr wythnos am 2 x sesiwn awr, a bod gennych chi 15 o aelodau, byddai’n rhaid i chi godi £1.50 y sesiwn o leiaf i dalu’r gost am logi’r cyfleuster.  

Rhaid i chi gyfrif unrhyw gostau a gorbenion eraill a sicrhau bod eich ffioedd yn talu am y rhain, ac am unrhyw risgiau eraill – er enghraifft, efallai y byddwch eisiau codi ffi ychydig yn fwy rhag ofn nad yw pobl yn dod bob wythnos, er mwyn creu gwarged ar gyfer unrhyw gostau annisgwyl fel newid cit neu brosiect ar raddfa fawr. 

  • Mae llawer o glybiau’n sefydlu debyd uniongyrchol neu archebion sefydlog nawr, rhag casglu ffioedd ym mhob sesiwn. Gall eich banc roi cyngor pellach i chi ar hyn.
  • Mae hefyd yn arfer da – ac yn ofynnol weithiau – i aelodau fod yn aelodau o’r corff rheoli hefyd. Taliad blynyddol yw hwn fel rheol ac mae’r gost yn cael ei phennu gan y corff rheoli. Mae rhai clybiau’n ychwanegu ffi aelodaeth eu hunain ar ben y taliad i helpu i godi arian.
  • Fe fyddwch chi eisiau gwneud y ffioedd mor fforddiadwy â phosib. Ond cofiwch fod rhaid i’r gost i’r aelodau dalu’r costau rhedeg, neu gall y clwb lithro i ddyled a chau yn y diwedd. Byddwch yn agored gyda’r aelodau am faint mae’n ei gostio i redeg y clwb. Maen nhw’n fwy tebygol o ddeall bod y ffioedd yn rhesymol wedyn.

Angen Mwy o Arian?

Efallai bod eich clwb eisiau cynnal prosiectau ond nad oes posib i ffioedd aelodaeth yn unig dalu’r gost. Os ydych chi’n chwilio am gyllid ychwanegol, meddyliwch am y canlynol:

  • Fedrwch chi greu incwm o’ch cyfleuster?
  • Ydych chi’n gymwys i wneud cais am grantiau?
  • Ydych chi’n gallu dod o hyd i nawdd?
  • Fedrwch chi gynnal gweithgarwch masnachol fel gwerthu cit neu fwyd?
  • Fedr eich clwb drefnu digwyddiadau a gweithgareddau codi arian? Mae cyfarwyddyd ar gael gan Y Sefydliad Codi Arian.
  • Cofrestrwch eich clwb gydag easyfundraising.org.uk ac annog eich aelodau i ymweld â’r safle cyn gwneud unrhyw siopa ar-lein. Gan ddewis o blith bron i 3,000 o adwerthwyr, fel John Lewis ac Amazon, gallant siopa fel arfer a gall eich clwb ennill arian gan yr adwerthwr ar yr un pryd.

Cyllido Torfol

Mae cyllido torfol yn ffurf arall ar gyllid sydd wedi dod i’r amlwg y tu allan i’r system ariannol draddodiadol. Dyma’r arfer o gyllido prosiect neu fenter drwy godi cyfraniadau ariannol gan nifer fawr o bobl. Gwneir hyn yn aml drwy gofrestrfeydd a gyfryngir gan y rhyngrwyd, ond mae posib gweithredu’r syniad drwy danysgrifiadau post, digwyddiadau budd a dulliau eraill hefyd.