Skip to main content

Cysylltiadau Nawdd a Busnes

Mae gan y rhai sy’n llwyddo i sicrhau nawdd rywbeth yn gyffredin i gyd. Maent yn deall nad rhodd yw’r nawdd. Mae fel pob cytundeb busnes arall. Er mwyn i fusnes fuddsoddi yn eich clwb neu eich prosiect, mae’n rhaid iddo gael rhywbeth yn ôl, a dylech fod wedi paratoi’n dda ac yn broffesiynol eich agwedd.

Gwnewch eich gwaith ymchwil

  • Defnyddiwch eich pobl yn y ffordd orau posib. Oes gennych chi wirfoddolwr sydd â phen busnes da ac sy’n hawdd siarad ag ef, gyda sgiliau i ddatblygu partneriaethau â busnesau lleol? Os nad oes, a fydd yn bosib i chi recriwtio rhywun neu a oes posib i chi hyfforddi rhywun yn y clwb ar gyfer y rôl?
  • Mae gan eich clwb ddelwedd – Meddyliwch beth yw’r ddelwedd honno a pha werthoedd sydd gennych chi wrth ystyried pa fusnes fyddai’n briodol i weithio gyda chi ac i weithredu gwerthoedd cadarn eich clwb.
  • Os oes gan eich clwb enw da yn y gymuned, bydd mwy o siawns y bydd gan fusnes lleol ddiddordeb yn eich clwb.
  • Gwnewch yn siŵr nad yw gwahanol dimau yn eich clwb yn gofyn i’r un busnes lleol am nawdd fwy nag unwaith ar yr un pryd.

Deall anghenion busnes

Bydd busnes yn cefnogi eich clwb am sawl rheswm o bosib:

  • Os yw’n deall gweledigaeth eich clwb
  • Os oes ganddo berthynas â rhywun yn eich clwb ac os yw eisiau rhoi’n ôl i’r gymuned leol
  • Os oes budd i’r busnes o farchnata ei gynhyrchion neu ei wasanaeth

Holi busnes am nawdd

Rhaid i chi ddod i adnabod y bobl sy’n gwneud penderfyniadau a sefydlu a oes ganddynt ddiddordeb yn y gamp rydych yn ei chyflwyno neu eich clwb. Rhaid deall ei amcanion busnes ac addasu’r manteision rydych chi’n eu cynnig yn unol â hynny. Cofiwch, efallai eich bod chi’n meddwl bod gennych chi brosiect rhagorol, ond efallai nad yw’n cyd-fynd â phroffil y cwmni. Os nad oes gennych chi unrhyw gysylltiadau eisoes â’r busnes lleol rydych chi eisiau ei holi, fe allech chi eich cyflwyno eich hun drwy lythyr neu e-bost. Ond os ydych chi'n ysgrifennu at gwmni neu’n cyfarfod wyneb yn wyneb, mae’r egwyddorion yr un fath. Rhaid i chi esbonio pa fath o glwb chwaraeon ydych chi, ble rydych chi wedi’ch lleoli, faint o aelodau sydd gennych chi ac ers faint ydych chi wedi sefydlu.

Wedyn, ac yn bwysicach na dim, rhaid esbonio’r broblem neu’r angen ac esbonio’r effaith ar y clwb. Ai diffyg offer neu git yw eich problem chi? Ydi hynny’n golygu nad oes posib i chi sefydlu carfan iau newydd i helpu i glirio eich rhestri aros? Ai diffyg mynediad i’ch cyfleuster yw’r broblem? Rhaid i chi ysbrydoli’r busnes i ddyheu am gyflawni amcanon y clwb gyda chi. Dangoswch yn glir sut bydd y noddwr yn elwa. A fydd ei enw ar y cit, ar hysbysfyrddau ar ochr y cae, yn adeilad y clwb ei hun, ar raglenni’r gemau? A fydd yn cael hysbysebu ar wefan eich clwb? A fydd yn cael ei grybwyll ar broffiliau cyfryngau cymdeithasol eich clwb? Os mai bwyty yw’r noddwr, ai hwn fydd y lleoliad ar gyfer dathliadau ar ôl gemau? Does dim drwg mewn atgoffa’r noddwr posib o werth cymunedol eich clwb. Felly os yw eich clwb yn annog plant lleol i gadw’n heini ac yn iach, ac yn dysgu sgiliau bywyd fel arweiniad a hyder iddyn nhw - cofiwch ddweud hynny! Ceisiwch sefydlu cyswllt gyda’r busnes a’i ddyheadau fel busnes. Byddwch yn gryno, yn glir ac yn realistig yn eich cais am nawdd (boed ar ffurf amser, arbenigedd neu arian). Cofiwch roi eich manylion cyswllt ac estyn croeso cynnes i’r busnes i’r clwb i gael rhagor o wybodaeth.

Cyngor Call

Nid yw llythyrau Annwyl Syr yn gweithio - os nad oes gennych chi ddigon o amynedd i chwilio am wybodaeth am y cyllidwr, pam ddylai drafferthu rhoi arian i chi?

Dim angerdd, dim gwerth - mae’n rhaid i chi gredu yn eich prosiect wrth ei werthu i gyllidwyr. Cyn i chi holi noddwyr posib, mynnwch gopi o’u Hadroddiad Blynyddol i weld sut maent wedi neilltuo arian yn y gorffennol.

Weithiau mae clybiau’n gallu siarad â busnesau lleol yn eithaf anffurfiol. Efallai eich bod mewn sefyllfa i rwydweithio gyda chyfle i sgwrsio â busnesau lleol. Efallai bod un o’ch aelodau’n berchen ar fusnes lleol neu’n gweithio i fusnes o’r fath?

Rydych chi wedi sicrhau nawdd – beth nesaf?

Ar ôl cael cefnogaeth noddwr, mae’n hanfodol eich bod yn rhoi’r holl fanteision rydych chi wedi’u cynnig ar waith, a hefyd darparu elfennau ychwanegol i blesio. Cofiwch eistedd i lawr gyda’ch noddwr a gwerthuso sut mae pethau’n mynd. Os oes unrhyw broblemau, bydd eich clwb yn cael cyfle i gywiro pethau cyn i’r gefnogaeth gael ei dileu. Cofiwch gyfathrebu a’ch aelodau fel eu bod yn ymwybodol o’r bartneriaeth fusnes.

Er mwyn hybu perthynas dda gyda busnes, gallwch wneud y canlynol:

  • Sicrhau ei fod yn chwarae ei ran yng ngweithgareddau’r clwb yn rheolaidd (er enghraifft, cyflwyno gwobrau mewn nosweithiau gwobrwyo)
  • Cydnabod y busnes yn rheolaidd am ei gefnogaeth ar gyfryngau cymdeithasol, ar eich gwefan ac mewn datganiadau i’r wasg
  • Ei wahodd i ddigwyddiadau’r clwb. Hyd yn oed os na fydd neb yn dod, mae’n gydnabyddiaeth eu bod yn rhan o’ch tîm a bydd hynny’n helpu pan fydd angen cefnogaeth yn y dyfodol
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth drwy wneud i gynrychiolwyr busnes deimlo’n rhan o’ch clwb. Gwnewch hyn drwy gydol y tymor i ddatblygu’r berthynas.