Skip to main content

Gofalu am Gyllid Clwb Chwaraeon

Nid dim ond paratoi cyllidebau a thalu biliau mae gofalu am gyllid clwb yn ei olygu – mae’n ymwneud â chadw ar yr ochr iawn i lawer o’r rheolau a’r rheoliadau y dewch ar eu traws. Ond peidiwch â phoeni, rydyn ni yma i ddweud wrthych chi beth i’w wneud!

Gyda Pha Reoliadau y Mae’n Rhaid i Chi Gydymffurfio?

Mae gan nifer o sefydliadau yn y DU reolau a rheoliadau y mae’n rhaid i’ch clwb chwaraeon gadw atynt a gall gweithredu’n anghywir fod yn fusnes drud, felly rhaid i chi fod yn ymwybodol o’ch cyfrifoldebau. Cofiwch wirio’r canlynol: 

  • Rheolau eich clwb (erthyglau os ydych chi’n gwmni)
  • Gofynion Deddf Cwmnïau
  • Rheolau CThEM (y swyddfa dreth)
  • Deddfwriaeth y llywodraeth

Yn benodol, edrychwch yn fanwl ar y rheolau ar gyfer y canlynol:

  • Cyfrifon blynyddol a gofynion archwilio
  • Ffurflenni CThEM a Thŷ’r Cwmnïau
  • Cyflogres a phensiynau
  • Trethi, gan gynnwys Treth Gorfforaeth a TAW
  • CASC a statws elusennol

Pwy All Archwilio Cyfrifon Clwb?

Mae swyddog clwb yn gyfrifol am ofalu am arian clwb, ond nid oes gennych ddyletswydd gyfreithiol i archwilio eich cyfrifon oni bai fod y clwb wedi’i gofrestru fel cwmni cyfyngedig a bod ganddo drosiant o fwy na £6.5 miliwn, asedau o £3.25m, neu’n cyflogi mwy na 50 o bobl.

Er hynny, os ydych chi’n bryderus am gydymffurfio â rheolau cyllid ac os ydych chi eisiau help gyda deall cyllid eich clwb, rydym yn argymell eich bod yn siarad â chyfrifydd cymwys a phrofiadol.